ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Ail-lansio gwefan Dyffryn Dyfi

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

viewing the site

Mae ecodyfi (Partneriaeth Dyffryn Ecolegol Dyfi) wedi aildrefnu ac ehangu gwefan Dyffryn Dyfi. Ail-lansiodd y dylunydd, David Thorpe o Cyberium, y wefan yn ystod diwrnod agored heddiw (Dydd Mercher).

Mae ecodyfi.org.uk yn adnodd cymunedol ar-lein dwyieithog cynhwysfawr. Fe'i ail-gynlluniwyd gan ecodyfi, corff datblygu'r dyffryn, i gynnig tudalennau adnoddau arbennig i gwrdd ag anghenion gwahanol ddefnyddwyr, yn bobl leol, cwmnïau lleol ac ymwelwyr.

Bwriad y wefan yw rhoi hwb i bobl ganfod mwy am yr hyn sydd ar gael - ac yn digwydd - yn yr ardal, yn ogystal â hyrwyddo a datblygu cwmnïau lleol. Drwy annog pobl i gymryd rhan a defnyddio gwasanaethau lleol, a rhoi cyfle iddynt gael cyngor a chymorth ariannol, y mae'n cyflawni hyn.

Mae hefyd yn hysbysebu'r ardal i'r byd mawr, felly byddai o fudd i unrhyw fusnesau sy'n ymwneud â thwristiaeth sicrhau cyswllt â'r safle, os nad oes un ganddynt eisoes. Dyma'r elfen a ddarbwyllodd Barclays i ariannu datblygu'r safle. Roeddent am roi cymorth i gwmnïau'r ardal gryfhau wedi sgîl-effeithiau clwy traed a'r genau.

Bydd y wefan yn parhau i ehangu er mwyn cwmpasu diwylliant, hanes ac adnoddau lleol, ac y mae ecodyfi yn awyddus o'r herwydd i bobl leol gyfrannu gwybodaeth a hysbys am ddigwyddiadau. Mae hefyd yn cyflwyno amrywiaeth eang o wybodaeth am ecodyfi ac am ei raglenni, map, tudalen gysylltau gynhwysfawr, a chalendr sy'n llawn dop o ddigwyddiadau lleol.

Jan Morgan o Gorris sy'n diweddaru'r calendr. "Gobeithiaf y gall trefnwyr osgoi dyddiadau digwyddiadau eraill drwy edrych ar y calendr cyn cadarnhau eu trefniadau", meddai Jan. Gellir ebostio hysbys am ddigwyddiadau i events@ecodyfi.org.uk.

Croeso i chi awgrymu ychwanegiadau a gwelliannau i'r safle. Eich gwefan gymunedol chi yw hon!

Brig y dudalen