Fuoch
chi erioed yn meddwl am Wastraff..?
Efallai y bydd yr atebion isod yn help...
Beth am yr holl gartonau hylif yma?
Ewch â nhw i Potters, Iard yr Orsaf, Machynlleth.

Beth ddylwn i ei wneud â'r holl gardbord yma?
- Ym Mhowys, hwyrach y cewch ei roi ar fin y ffordd i'w gasglu. I gael gwybod, cliciwch
y cyswllt perthnasol neu 'mannau ailgylchu' ar ochr chwith y dudalen.
- Nid
oes cynllun min y ffordd gan Geredigion eto.
- Nid yw Gwynedd yn casglu cardbord.
- Ewch â nhw i Potters, Iard yr Orsaf, Machynlleth
- Ar
wahân i hynny, gellir ei gompostio, neu ei ddefnyddio fel taenfa (mulch) yn
yr ardd.

Oes
modd i mi ailgylchu fy ffôn symudol?
Meithrinfa Machynlleth ym maes parcio Machynlleth – ffôn: 702933

Ble
ga'i fin compost yn rhad neu am ddim?
Cliciwch yma i gael ein cyfarwyddiadau
compostio a'r wybodaeth yma.

Ble
ga'i gyflenwad o, neu wared ar, ychydig o gompost cartref?
- Gofynnwch i gymydog sydd â gardd a fydden nhw’n hoffi'i gael neu ei gasglu ichi. Neu gallwch holi yn ecodyfi.
- Os
ydych yn defnyddio ebost, gallech roi cynnig ar y Ffair Gyfnewid, sef rhestr ebost
wythnosol i bobl y Dyffryn gael postio'u hanghenion a'u cynigion. Os am ymuno, anfonwch
ebost i machynlleth.swapshop@virgin.net
- Neu
gallech ofyn i yn ecodyfi.

Ble
mae modd ailgylchu cetris inc fy nghyfrifiadur?
-
Meithrinfa Machynlleth ym maes parcio Machynlleth – ffôn: 702933
-
Teleganolfan Machynlleth, 20, Heol Maengwyn,
Machynlleth, SY20 8DT: 01654 703911

Beth
ga'i ei roi allan ar gyfer y casgliadau min y ffordd?
Gweler uchod ar y chwith am y cyswllt perthnasol i'ch sir.

Oes
modd i mi ailgylchu batris?
Ceisiwch
ddefnyddio batris aildrydanu hyd y bo modd - maent yn rhatach yn y tymor hir.
Ar fin agor yn Iard yr Orsaf, Machynlleth. (Mawrth/ Ebrill yn ôl
y disgwyl): canolfan gwastraff domestig swmpus ac ailgylchu. Gwaredu HOLL
wastraff y cartref AM DDIM, yn cynnwys batris. Dan ofal Potters Recycling,
Ffordd Hafren, y Trallwng. Ffôn: 01938 552 396 www.pottersrecycling.co.uk
Tan hynny, y safle ailgylchu batris nesaf yw eu safle yn y Trallwng. Casglwch
nhw a'u cadw ar gyfer eich taith nesaf yno.
Gellir mynd â batris ceir i safle mwynderau trefol neu i'ch modurdy lleol.

|