Cynllun Clytiau Go Iawn Dyffryn Dyfi
Clytiau
cotwm, golchadwy gyda leinin yw clytiau go iawn. Dydyn nhw ddim yn cyfrannu
at broblem claddu sbwriel ac y maen nhw'n arbed adnoddau eraill gan nad
ydynt yn dafladwy. Maen nhw'n rhatach hefyd!
Mae yma wirfoddolwyr brwd sydd ar gael i gynghori rhieni ar eu defnyddio.
Pe baech chi am i un ohonynt ddodd draw i'ch gweld chi fel unigolyn neu
fel grwp, neu eisiau taflen wybodaeth, croeso i chi ein ffonio ni ar 01654
703971.
Rydym hefyd yn cydweithio â chynghorau Gwynedd, Powys a Cheredigion
i hyrwyddo'u cynlluniau clytiau.
Lle yn y cylch gewch chi 'glytiau go iawn'?
Mae ychydig o werthwyr clytiau lleol a hefyd nifer o gwmnïau sy'n
masnachu ar y we. Os am fwy o wybodaeth am y rhain, gweler y cyswllt cyfeiriadur
isod ar y dudalen.
Yn ardal Dyffryn Dyfi
- Mae gan Treehouse TLC yn Aberystwyth ddewis o glytiau cotwm a mathau
pydradwy ar werth. Ffôn: 01970 625116
- Mae Siop y Chwarel, Machynlleth yn gwerthu clytiau bioddiraddadwy.
Ffôn: 01654 702339
- Mae Helen a Mark Burr yn rheoli eu busnes eu hunain, BabyKind, o Nebo,
Gwynedd. Maent yn gwerthu ledled y DU ac Ewrop, ac yn ddiweddar cafwyd
clytiau ganddynt ar gyfer prawf 'clytiau go iawn' Dyffryn Dyfi. F: 01286
882617; ebost: helen@babykind.co.uk.
>> Download the Powys 'real nappy' directory [PDF 170kB: Welsh;
English].
Beth sy'n gwneud clwt tafladwy yn fwy eco-gyfeillgar?
Profiad Helen Burr (Rheolydd Clytiau Lliain BabyKind)
Wrth ddewis clwt addas, mae angen ystyried effaith ecolegol ei wneuthuriad
yn ogystal ag effaith ei waredu.
Mae hi'n anodd iawn mewn gwirionedd cael unrhyw wybodaeth gadarn am y
gwahanol fathau o glytiau tafladwy sy'n honni eu bod yn ecolegol a, hyd
y gwn i, ni chynhaliwyd erioed unrhyw gymhariaeth drylwyr arnynt.
Mae bron y cwbl o'r wybodaeth sydd ar gael yn deillio o'r adwerthwyr.
Ceir honiadau gan y rhan fwyaf ohonynt am bydradwyedd y clytiau ond ni
chyflwynir ond ychydig ar y mwyaf o ymchwil neu dystiolaeth i'r perwyl,
na gwybodaeth am amgylchiadau'r diraddio.
Ar ben hyn, os yw'r clytiau yma'n mynd i'r gladdfa ar ddiwedd eu hoes,
pa wahaniaeth sydd rhyngddynt â chlytiau tafladwy confensiynol?
Wedi dweud hynny, mae pedwar prif fath o glytiau tafladwy ar gael yn y
DU yr honnir eu bod yn effeithio llai ar yr amgylchedd na chlytiau tafladwy
confensiynol, ond eu bod yr un fath o ran eu hymddangosiad a'u defnydd
â rhai tafladwy confensiynol:
1. Moltex OKO Eco-Disposables Moltex mae'n debyg a geir yn fwyaf cyffredinol
ac mae'n glwt sy'n ymdopi'n ardderchog.
- Fe'u cynhyrchir â pheth defnydd wedi'i ailgylchu a dim clorin
na channydd.
- Maen nhw o'r herwydd yn llwydaidd - nid yw hyn at chwaeth rhai pobl
gan nad ydyn nhw'n glaerwyn yn yr un modd â chlytiau tafladwy
confensiynol (Rwyf i fy hun yn hoff ohonynt oherwydd nad ydyn nhw wedi'u
cannu - gall gweddillion cannu niweidio pen ôl babanod).
- Honnir y gwnânt fioddiraddio mewn abwydfeydd o fewn 8 wythnos
heb adael unrhyw weddillion niweidiol, ond o'm rhan i mae'r ymchwil
ymhell o fod yn gyflawn ar hyn o bryd.
- Fe'u cynhyrchir yn yr Almaen a'r rhain yw'r unig glytiau tafladwy
o gynhyrchiad Ewropeaidd a argymhellir oherwydd eu bod yn eco-gyfeillgar.
- Fe'u darperir hefyd mewn bag cellwlos cwbl bydradwy.
- Yn olaf, honnir eu bod hefyd yn garedig iawn i'r croen, gan nad oes
ynddynt unrhyw lifynnau, trwythau, diaroglyddion na gweddillion cannu,
y gallant lidio croen sensitif babanod.
- Prisiau yn amrywio o £9.99 ar gyfer 52 maint Mini, sy'n weddol rhesymol,
ond ni ellir ond eu harchebu drwy'r post fel rheol ac os na allwch fforddio
prynu llwyth ar y tro, gall costau postio olygu eu bod yn eithaf drud.
2. Mae un ohonynt ar gael mewn rhai archfarchnadoedd: Nature Boy a Girl.
- Cynhyrchir y rhain yn Llychlyn a chredaf nad ydynt yn gweithio gystal
â Moltex - yn tueddu i ollwng braidd, ond ddim gwaeth na llawer
o glytiau tafladwy eraill.
- Mae'r haenen allanol wedi'i chynhyrchu â ffilm sy'n seiliedig
ar startsh yd, yn fiolegol, yn ddi-GMO ac yn gallu anadlu, yn hytrach
na'r plastig a geir mewn clytiau tafladwy confensiynol.
- Honnir bod 70% o'r clwt yn fioddiraddadwy.
- Mae'r prisiau'n debyg i rai brand tafladwy confensiynol ac nid oes
costau postio os ydynt ar gael yn eich archfarchnad leol.
- Gall costau fod yn ystyriaeth sylweddol, o gofio y bydd llawer o deuluoedd
yn gwario ymhell dros £1000 ar glytiau tafladwy ar gyfer pob plentyn.
3. Tushies Gel- a Perfume-Free Eco Disposables.
- Mae Tushies bellach ar gael yn weddol gyffredinol yn y DU, ond eto
fel rheol ar archeb drwy'r post yn unig.
- Nid oes ynddynt y gel amsugnol (polysodiwm acrylad) a geir mewn clytiau
tafladwy eraill (gyda'r bwriad o rwystro iddo fynd i'r pridd).
- Cyfuniad yn seiliedig ar gotwm yw'r craidd a honnir bod 80% o'r clwt
yn bydradwy.
- Mae'r rhain hefyd yn garedig i'r croen, gan nad oes deuocsinau, latecs,
persawrau na llifynnau ynddyn nhw.
- Fe'u cynhyrchir yn yr Unol Daleithiau.
- Prisiau'n amrywio o £8.75 am 40 Mini gyda phost yn ychwanegol, felly
maent yn eithaf drud.
4. Mae un newydd o'r enw Bambo Nature
- Nad yw eto ar gael yn gyffredinol yn y DU, sy'n ymddangos yn eithaf
da oherwydd ei gynhyrchu mewn modd ystyriol o'r amgylchedd.
- Dywedir bod y mwydion a ddefnyddir i gynhyrchu'r clytiau hyn yn "cydweddu
â'r amgylchedd" ac yn deillio o Goedwigoedd Llychlynaidd rheoledig.
- Cânt eu cannu ag ocsigen yn hytrach na chlorin, sy'n lleihau
eu heffaith ar yr amgylchedd.
- Bydd y broses gynhyrchu yn minimeiddio defnydd ynni a'r gwastraff
a greir yn ystod y broses.
- Startsh yn bennaf yw'r craidd a honnir bod 100% o'r clwt yn bydradwy.
- Fodd bynnag, mae'r craidd hwn yn ôl pob tebyg wedi'i lapio mewn
gorchudd plastig.
- Fe'u cynhyrchir yn Nenmarc.
- Pris £4.59 am 30 Mini gyda phost yn ychwanegol.
5. Mae hefyd math gwahanol o 'glwt' tafladwy o'r enw pad Weenee.
- Nid yw'n debyg i glwt tafladwy confensiynol - o ran ei olwg mae'n
debycach i badiau mislif.
- Fe'i gosodir mewn 'sling' o fewn gorchudd dal dwr y gellir ei ailddefnyddio.
- Gellir defnyddio'r gorchudd hefyd gyda phadiau lliain ailddefnyddiadwy.
- Gellir ei fflysio (ond rhaid i chi fod yn sicr o'ch gwaith plymio!)
a bydd wedi diraddio'n llwyr o fewn 150 o ddyddiau o gael ei fflysio
neu ei gompostio.
- Mae'r ffaith eu bod mor ddiraddadwy'n apelio, ond nid ydynt yn dal
dwr yn dda (h.y. maent yn gollwng) ac mae'r trowsusau braidd yn blastig eu naws ac
yn edrych yn anghyffyrddus.
- Gellir defnyddio'r padiau gyda rhai gorchuddion clytiau lliain cyffredin.
- Fe'u cynhyrchir yn Ffiji.
- Pris £9.99 am 40 maint bychan gyda phost yn ychwanegol, sy'n golygu
eu bod yn ddrud.
Prawf cwbl anwyddonol mi wn, ond dyma roi tri o glytiau tafladwy yn ein
tomen compost ein hunain: clytiau confensiynol, tafladwy, Nature Boy a
Girl a Moltex.
Mae'n siwr bod hyn ddwy flynedd yn ôl bellach.
Ni welsom yr un ohonynt wedyn! Wn i ddim beth fu eu hanes, ai pydru ynteu
ffurfio nyth clyd i gywion llygod mawr!
Clytiau Lliain BabyKind Clytiau go iawn i ffitio'r oes newydd!
Helen@babykind.co.uk | www.babykind.co.uk
| Ffôn: 01286 882617
|