Sut y medrwch chi helpu
![]()
Sut i leihau gwastraff
![]()
Mannau ailgylchu
![]()
Casgliadau
min y ffordd yng Ngwynedd
![]()
Casgliadau min
y ffordd ym Machynlleth
![]()
Cyfarwyddiadau compostio
![]()
Cwestiynau cyffredin
![]()
Pam mynd ati o gwbl?
![]()
Cynlluniau: ailgylchu
![]()
Cynlluniau: clytiau
go iawn
![]()
Cynlluniau: compostio
![]()
Cynlluniau: ysgolion
![]()
Cynlluniau: archwiliad
ar wastraff yn y dyffryn
![]()
Cynlluniau i ddod
![]()
Gwefannau defnyddiol
- i'r cartref, i gwmnïau, i ysgolion ac i blant
![]()
Cysylltiadau defnyddiol
![]()
Amdanom ni
![]()
Tudalen cartref
![]()
Cyfarwyddiadau Compostio cartref EcodyfiWyddoch chi y gellid compostio 50% o wastraff eich cartref a waredir ar hyn o bryd mewn claddfa?
Isod mae cyfarwyddiadau ar wneud compost:
Cyfrinachau cynhyrchu Compost Ffibrog(Yn sgîl gwaith Peter Harper, biolegydd yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen) Y bin compostMae'r bin compost awyr agored mwyaf llwyddiannus:
|
![]() |
+ |
![]() |
= |
![]() |
Sbarion bwyd |
+ |
papur
a cherdyn
|
= |
compost |
1.
Casglwch eich sbarion bwyd i gyd mewn bin compost ag iddo gaead yn y gegin.
Cyngor gwerthfawr: Mae rhoi papur newydd yn leinin i'r bin compost yn amsugno lleithder ac yn ei gwneud yn haws i wagio'r bin.
Cyngor gwerthfawr: Mae crychu eich papur yn creu pocedi awyr gan rwystro pydru anaerobig drewllyd.
Nid oes raid troi'r compost, dim ond dal i ychwanegu rhagor ar ei ben. Bydd y defnyddiau wedi compostio'n llwyr ymhen rhyw flwyddyn.
Mae drws bach yng ngwaelod eich bin yn eich galluogi i estyn eich compost bendigedig a'i ddefnyddio i fwydo planhigion yr ardd.
Cyngor gwerthfawr: O gael dau fin compost, gallwch gyfnewid rhwng y naill a'r llall bob blwyddyn.
Beth
ddylech chi ei roi yn y bin?Elfennau maethlon:
Elfennau ffibrog:
Wedi i'r holl ddefnyddiau gwreiddiol ddadelfennu'n llwyr, mae'n gwbl ddiogel.
Ychwanegwch fwy o gardbord a phapur wedi'u crychu. Mae hyn yn rhwystro'r compost rhag mynd yn rhy wlyb ac yn caniatáu pydru aerobig yn hytrach nag anaerobig, sy'n creu nwyon drewllyd.
Mae pryfed ffrwythau yn hwyluso'r broses ond gallant fod yn ddiflas.
Tynnwch y caead i sicrhau na fydd heidiau ohonynt yn codi wrth i chi ei agor; neu osod caead rhwydog i alluogi i nifer fechan ohonynt ddianc ar y tro.
Sicrhewch bod caead i'r bin yn eich cegin i'w rhwystro rhag cyrraedd y compost a dodwy wyau.
Rhowch eich bin ar rwyll wifrau neu sylfaen solet gyda bylchau draenio. Bydd hyn yn sicrhau draeniad da ac yn rhwystro'r llygod.
Mae caead tyn yn rhwystro compost rhag mynd yn rhy wlyb ac hefyd yn gymorth i rwystro llygod.
Nid yw inciau modern yn achosi unrhyw niwed ar raddfa mor fechan.
Gall creu compost gymryd ychydig fisoedd neu hyd at flwyddyn, yn dibynnu ar y gwres a defnydd ar bryfed genwair.
Bydd y compost gorffenedig yn debyg i bridd briwsionog cyfoethog, heb unrhyw ôl o'i gynhwysion gwreiddiol.
Os oes darnau bychain nad ydynt wedi pydru ynddo, gallwch ogro'r compost i wella'i olwg.
Gallwch ei ddefnyddio fel taenfa (mulch), neu ei balu a'i gymysgu â'r pridd fel cyflyrydd.
Ni fydd angen llawer o le arnoch, ac y mae'n bwysig i bob un ohonom ailgylchu gymaint ag sy'n bosib o'n gwastraff.
Os oes llawer o arddwyr yn eich cymdogaeth a hwythau â llawer o wastraff gardd, beth am drefnu cynllun compostio cymunedol?
Gallech roi eich compost gorffenedig i arddwyr lleol.
Os ydych yn defnyddio ebost beth am roi cynnig ar Ffair Gyfnewid Machynlleth, neu ofyn i ecodyfi ar 01654 703971.