|
Ymaelodwch
ag ecodyfi drwy! Rydym
am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i
Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.
Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore
tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu
prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein
lleoliad - map mwy]
|
|
Mae
Dyffryn Dyfi'n cwmpasu ysgwydd orllewinol Powys, y rhan honno o
Geredigion sydd i'r gogledd o Aberystwyth, de Gwynedd a chwr deheuol
Parc Cenedlaethol Eryri. Ambell dro Dovey yw sillafiad enw'r afon.
Mae toreth o atyniadau naturiol yn y dyffryn:
-
Ceir golygfeydd arbennig tua'r
môr a'r bryniau o ben crib hir Tarren ar ochr ogleddol
yr aber
-
Gellir dringo mynyddoedd gogoneddus
yr Aran ym mhen ucha'r dyffryn o Ddinas Mawddwy
-
Mae golygfeydd gyda'r mwyaf
ysgubol yng Ngwledydd Prydain yn Eryri, a gellir cyrraedd Cadair
Idris yn ddidrafferth o'r dyffryn
-
Dynodwyd ardal yr aber, gan
gynnwys yr elfennau dynol ac adeiledig, yn warchodfa
fïosffer gyntaf Cymru gan UNESCO
-
Ceir twyni Ynyslas a Gwarchodfa
Natur Genedlaethol Cors Fochno ar ochr ddeheuol aber Afon Dyfi,
yn ymyl Borth
-
Oddeutu'r aber ceir traethau
bendigedig y dyfarnwyd gwobrau iddynt, rhwng Aberdyfi a Thywyn
tua'r gogledd, ac yn ymestyn o Ynyslas i Borth yn y de
-
Yng nghwm Pennant uwchlaw Llanbrynmair,
gyda'i lethrau coediog serth, ceir enghraifft nodedig o afon
a newidiodd ei llwybr i ddyffryn gwahanol.
Mae
hefyd yn y dyffryn amrywiaeth ddiddorol o fawnogydd, gweundiroedd
a choedydd naturiol a chonwydd, lle gellir cymryd rhan mewn nifer
o weithgareddau awyr agored:
-
Gwylio adar, yn enwedig ger
yr aber, a gwelir y barcud yn y rhostir a'r mynydd-dir
-
Saethu colomennod clai yn un
o 5 maes saethu mwyaf Gwledydd Prydain
-
Beicio, gyda llwybr beicio
cenedlaethol rhif 8, Lôn Las Cymru, yn mynd drwy'r ardal,
ac amrywiaeth o lwybrau beicio mynydd a beicio hamdden yn cael
eu datblygu, gan gynnwys llwybrau Mach 1, 2 a 3, a agorwyd yn
ddiweddar. Gellir llogi beiciau yn Greenstiles, Red Bike Hire.
MB Britain yn frwd ynglyn Beicio Mynydd yn Nyffryn Dyfi: darllenwllch
yr erthygl a gyhoeddwyd yn ddiweddar >>.
-
Hwylio dingi a chychod hwylio
o Aberdyfi
-
Golff yn Aberdyfi, Borth a
Machynlleth
-
Canolfan Outward Bound ar gyfer
grwpiau o bobl yn Aberdyfi
-
Beicio cwad ar gyfer pob oedran
a gallu yn Madian Quads
-
Pysgota môr ac afon,
gan gynnwys pysgota am eogiaid a siwin yn Afon Dyfi
-
Cerdded, gan fanteisio ar rwydwaith
o lwybrau a rhodfeydd fforest, gan gynnwys Llwybr Cenedlaethol
Glyndwr.
|
|
|
|