ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

cynllun twristiaeth gynaliadwy
- cwestiynau cyffredin

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

Tudalennau eraill yn yr adran twystiaeth

Cwestiynau Cyffredin

Ardal Twf Twristiaeth Cefn Gwlad Bro Ddyfi

Twristiaeth Dyfi — eich cymdeithas chi

 

Beth yw Ecodyfi?

Cwmni Cyfyngedig gan Warant gyda rheolaeth leol yw ecodyfi, yn dibynnu i raddau helaeth ar nawdd cyhoeddus. Ein nod yw meithrin datblygu cynaliadwy ym Mro Ddyfi, a hynny'n bennaf drwy gryfhau'r economi "gwyrdd".

Buom yn gweithio oddi ar 1997 i greu economi ynni lleol cynaliadwy, er lles y gymuned, yr economi ynghyd â'r amgylchedd lleol. Rydym bellach yn ceisio datblygu mentrau cynaliadwy eraill ym meysydd Twristiaeth, Rheoli Gwastraff, Coetiroedd a Chludiant.

Beth yw 'Datblygu Cynaliadwy'?

Mae cynnal bioamrywiaeth a chyfalaf naturiol ymysg elfennau mwyaf arwyddocaol datblygu cynaliadwy; hefyd, blaenoriaethu anghenion lleol a defnyddio adnoddau lleol i'w diwallu; cydnabod a pharchu asedau diwylliannol ardal; cadw arian ac asedau eraill o fewn cymunedau lleol; perchnogaeth gymunedol; ailddefnyddio a lleihau gwastraff; a chynhwysiad cymdeithasol, tegwch a chyfiawnder.

Dechreuodd trafodaethau difrifol ynglŷn â datblygu cynaliadwy yn Rio yn Uwchgynhadledd y Byd 1992, gan amlinellu cynllun gweithredu — 'Agenda 21' — gyda'r amcan o sicrhau datblygu cynaliadwy yn ystod yr 21ain ganrif.

Sut mae 'Twristiaeth Werdd' yn cydweddu â hyn?

Twristiaeth nad yw'n draul ar yr asedau y dibynna arnynt yw twristiaeth werdd. Mae'n bodloni anghenion ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd drwy gyfrwng profiadau o safon uchel sy'n mwyafu buddiannau economaidd lleol, ac yn gwerthfawrogi ac yn cyfoethogi adnoddau diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol yr ardal — gan roi ystyriaeth i'r cyd-destun byd-eang.

Gellir cyffelybu seiliau twristiaeth gynaliadwy, yn yr un modd â datblygu cynaliadwy, i stôl â thair coes, nad yw'n cyflawni ei phwrpas ond pan fo'r tair coes yn sad. Yn yr achos yma, y tair coes yw:

  • Ymarferoldeb economaidd

  • Derbynioldeb cymdeithasol a diwylliannol

  • Gweithrediadau cadarn yng nghyd-destun yr amgylchedd ac ecoleg

Beth yw Cynllun Twristiaeth Gynaliadwy Ecodyfi?

Mae ecodyfi yn ceisio datblygu hamdden a thwristiaeth sy'n dod â manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cyfannol. Mae'r adnoddau hyn yn cynnwys agweddau diwylliannol, hanesyddol a chymdeithasol ar Fro Ddyfi yn ogystal â rhinweddau ei hatyniad naturiol a'r traddodiad sydd yma o arloesi ym maes byw cynaliadwy. Ac er fod i'r ardal beth wmbredd o atyniadau naturiol ac adeiledig, cred y bartneriaeth mai bobl leol all sicrhau llwyddiant cynaladwyedd. Cam cyntaf y swyddog prosiect felly fydd sefydlu cymdeithas twristiaeth gynaliadwy ar gyfer cyflenwyr twristiaeth lleol.

Sut yr ariannir y Cynllun?

Mae'r bartneriaeth yn falch o gael cydnabod cefnogaeth ariannol o du Cyngor Powys, Twristiaeth Canolbarth Cymru, Bwrdd Croeso Cymru, TEC Canolbarth Cymru a Chyngor Gwynedd, yn ogystal â'r ymroddiad amser a gafwyd gan weithwyr proffesiynol ac arbenigwyr twristiaeth ar Fwrdd y bartneriaeth.

Brig y dudalen