ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Cychwynnodd Cynllun Twristiaeth

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

Tudalennau eraill yn yr adran twystiaeth

Cwestiynau Cyffredin

Ardal Twf Twristiaeth Cefn Gwlad Bro Ddyfi

Twristiaeth Dyfi — eich cymdeithas chi


Cychwynnodd Cynllun Twristiaeth Cynaliadwy ecodyfi ym mis Mehefin 2001, gan gyflogi un gweithiwr rhan-amser i ddatblygu twristiaeth gynaliadwy a chymunedol o fewn y dyffryn, i hyrwyddo'r dyffryn yn gyrchfan twristiaeth 'werdd' ac i sefydlu cymdeithas dwristiaeth gyntaf yr ardal - 'Twristiaeth Dyfi Tourism'.

Ardal Twf Twristiaeth

Yn ystod y flwyddyn honno, dynodwyd Dyffryn Dyfi yn 'Ardal Twf Twristiaeth', sef rhan o fenter ddatblygu a gynlluniwyd gan Fwrdd Croeso Cymru i annog buddsoddi twristiaeth mewn rhannau penodol o Gymru. Wedi ennill y statws yma, comisiynodd y diwydiant twristiaeth lleol, ar y cyd ag ecodyfi, y Bwrdd Croeso, Awdurdod Datblygu Cymru a'r awdurdodau lleol, Gynllun Gweithredu yn amlinellu'r modd y dylid sicrhau datblygu twristiaeth gynaliadwy o fewn Dyffryn Dyfi.

Ecodyfi yw prif weithredwyr y rhaglen yn lleol, yn sicrhau'r arian angenrheidiol o ffynonellau cyhoeddus a phreifat ac hefyd yn datblygu'r rhwydweithiau hynny fydd yn fodd o sylweddoli gweledigaeth yr ATT yn y dyfodol.

Ymchwil Marchnata ac Ymwelwyr

Cynnwys adroddiadau STEAM, Activity Holidays in Wales, Windfarm Research, WTB: The Countryside Experience, adroddiadau Rheoli Ansawdd Integredig, (RhAI).

Cycling and cycle tourism

Together with those with interests in cycling and cycle tourism in the Dyfi Valley, we have also produced a draft Cycling Review and Strategy for Action. Click here to view as a Word document [197kB].

This is a consultation document at this stage - so please let us have your additions and comments. It is currently available in English only.

Hyfforddiant yn y Diwydiant Twristiaeth

Os ydych am wybod pa hyfforddiant sydd ar gael yn lleol ar gyfer gweithwyr proffesiynol o fewn y diwydiant twristiaeth - neu â blys mynd ar ymweliadau ymgyfarwyddo â darparwyr twristiaeth eraill - darllenwch ein cylchlythyr Cynllun Rhagflaenu Powys.

Mae darparwyr gweithgareddau ...

...a darparwyr llety sy'n croesawu ymwelwyr gweithgareddau yn cydweithio er mwyn datblygu a hyrwyddo gweithgareddau o fewn Dyffryn Dyfi.

Yn www.dyfiactive.org.uk ceir yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar ymwelwyr i'w galluogi i baratoi eu pecynnau gwyliau gweithgareddau eu hunain - sut i ddod yma, llefydd i aros a phethau i'w gwneud.

Brig y dudalen