Dathlu Dyfi! |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Dathlu Iaith a ThirweddMae ecodyfi wedi cychwyn prosiect newydd, Tirwedd Dyfi. Amcan y prosiect yw archwilio a dathlu’r cysylltiadau rhwng y diwylliant Cymraeg, y tirlun a byd natur, trwy ddefnyddio Biosffer Dyfi UNESCO fel ardal arddangos. Nos Wener 16eg o Ebrill 2010 cynhaliwyd noson Dathlu Dyfi i lansio’r prosiect, fydd yn rhedeg am flwyddyn gyfan. Eisoes trefnwyd nifer o weithgareddau amrywiol ar y thema, gan gynnwys Ymryson y Beirdd ar 14 Mai, gweithdai mewn ysgolion lleol a chystadleuaeth go anarferol, “Llun a Llên”. Ariannir Tirwedd Dyfi gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a CAE, sef Cronfa Arbrofol Eryri - Parc Cenedlaethol.
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||