Lansio prosiect twristiaeth |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Siopa'n lleol a defnyddio beicCynllun twristiaeth yn cryfhau'r economi lleolLansiwyd cynllun arwyddocaol i ddatblygu twristiaeth yn Nyffryn Dyfi yn ystod digwyddiad prysur yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi ar Ebrill 10fed. Arweinir y cynllun, sef Ardal Twf Twristiaeth Dyffryn Dyfi, gan gwmnïau lleol ac fe'i cefnogir gan yr holl asiantaethau perthnasol. Mae'n weithredol o fewn y rhannau hynny o Ddyffryn Dyfi sydd ym Mhowys a Gwynedd yn fwyaf arbennig. Dynodiadau Bwrdd Croeso Cymru yw'r "Ardaloedd Twf Twristiaeth", wedi'u cynllunio i ddarparu nawdd i ardaloedd sydd â syniadau blaengar a phobl yn cydweithio. Ariennir ATT Dyffryn Dyfi ar y cyd gan bartneriaeth sy'n cynnwys y Bwrdd Croeso, Cyngor Sir Powys, Cyngor Gwynedd, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru. Deuai'r cynllun â hanner miliwn o bunnau o nawdd cyfalaf clustnodedig y Bwrdd Croeso i Ddyffryn Dyfi pe cyflwynid digon o brosiectau â chynlluniau buddsoddi. Deilliodd y cynllun yn wreiddiol o fforwm 'twristiaeth gynaliadwy' lleol, gan ddatblygu oddi ar hynny, ac esgor ar gynllun gweithredu. Ymhlith y prif amcanion y mae datblygiad pellach yn y cyfleoedd sydd ar gyfer twristiaeth gweithgareddau (beicio yn anad dim) a gwella ansawdd pob agwedd ar brofiad ymwelwyr â'r dyffryn, boed hynny'n gludiant cyhoeddus neu'n adloniant yn y dafarn. Mae gan y cynllun un swyddog prosiect rhan amser yn ecodyfi, corff adfywio cymunedol Dyffryn Dyfi. Mae Teresa Walters yn rheoli'r cynllun o'i swyddfa yn Nhg Bro Ddyfi, Heol Maengwyn. Mae hi'n awyddus i gynorthwyo cwmnïau i ddatblygu syniadau ac i sicrhau'r cyllid cyfatebol angenrheidiol gan gymorth busnes a ffynonellau eraill. Peter Jones o Celtica yw cadeirydd y grwp sy'n llywio'r gweithgareddau, ac fe gyhoeddodd her tra'n agor y digwyddiad. "Mae Bro Ddyfi wedi gweithio'n galed i gyrraedd y sefyllfa arbennig hon, gan ddysgu o brofiad blaenorol", meddai. "Rwy'n erfyn ar bobl fusnes yr ardal i fod yn greadigol, yn ddyfeisgar ac yn bositif. Mae gennym bum mlynedd i gyrraedd y nod ond heb ymroddiad a syniadau gan gwmnïau'r ardal, ni fydd yr arian yn cael ei wario a bydd ein llwyddiannau'n cael eu cyfyngu." |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||