Ardal Twf Twristiaeth Cefn Gwlad Bro Ddyfi (TGA) |
|
|
Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Beth yw Ardal Twf Twristiaeth Cefn Gwlad Bro Ddyfi (TGA)?Un o'r mentrau datblygu daearyddol wedi'i gynllunio gan Fwrdd Croeso Cymru (BCC) i gefnogi buddsoddiad mewn twristiaeth mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae'r fenter yn sicrhau fod nawdd cyfalaf BCC, ar gyfer datblygiadau corfforol a gwelliannau, yn cael ei gadw ar gyfer yr ardal hon - er y bydd yn rhaid i hyn gael ei fatsio gan o leiaf 50% o arian preifat/wedi'i fenthyg a grantiau eraill. Mae gan TGA Bro Ddyfi thema benodol o gynaladwyedd ac felly mae'r fenter hefyd yn ymrwymiad i ddatblygu twristiaeth sy'n ddiwylliannol, economaidd ac amgylcheddol gynaladwy. Beth yw ei amcanion? Mae'r grwp llywio TGA (sydd i lywio'r fenter yn lleol) wedi cynhyrchu'r weledigaeth ar gyfer twristiaeth ym Mro Ddyfi: 'To develop a dynamic and competitive tourism industry in the Dyfi Valley in a sustainable manner which builds on its strengths and fulfils its potential for the mutual benefit of local people, the economy, the environment and the area's cultural heritage and enables it to become the premier UK �green' tourism destination'. Mewn termau ymarferol, mae'r TGA yn anelu i helpu'r rheini sy'n ymwneud � thwristiaeth i sicrhau peth o'r nawdd sydd ei angen i ddechrau ac i ddatblygu prosiectau sy'n gweddu i'r weledigaeth hon. Sut daeth hyn i fod?Awgrymwyd y TGAs er mwyn sbarduno tyfiant yn y marchnadoedd twristiaeth a dargedwyd gan y Bwrdd Croeso a'u partneriaid yn y diwydiant a'r sector cyhoeddus. Roedd Ecodyfi a Phartneriaeth Aberdyfi yn llwyddiannus mewn cais ar y cyd am gydnabyddiaeth TGA, ac er mwyn darparu cyd-destun strategol ar gyfer datblygu twristiaeth yn y dyfodol, comisiynwyd Ian Parkin, Ymgynghorydd Treftadaeth a Thwristiaeth gan Fwrdd Croeso Cymru, Partneriaeth Canolbarth Cymru, Cyngor Sir Powys, Cyngor Gwynedd, Awdurdod Datblygu Cymru a Cymad i gynhyrchu adroddiad drafft manwl. Bellach, mae gan y pwyllgor llywio TG fersiwn gryno o'r ddogfen, sydd ar gael i unigolion a busnesau ledled yr ardal. Ymhle mae'r TGA?Tra bod ecodyfi yn gweithredu ar draws Bro Ddyfi gyfan, mae'r astudiaeth yn benodol wedi eithrio yr ardal o fewn Ceredigion a hefyd Tywyn a Dyffryn Dysynni. Serch hynny, mae unrhyw brosiectau sydd � photensial tu allan i ardal y TGA gan gynnwys mentrau ar y cyd yn gallu cynhyrchu nawdd drwy raglen grant arferol y Bwrdd Croeso (Adran 4), Menter Trefi Arfordirol Meirionnydd, rhaglen Amcan 1 a Menter arbennig ar gyfer yr ardal sydd o fewn Ceredigion. Pwy sy'n cymryd rhan?Swyddog Prosiect yr Ardal Twf Twristiaeth, Teresa Walters, yw'r cyswllt cyntaf ar gyfer ymgeiswyr posibl. Mae hi yn cael ei rheoli gan Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi, ac yn cydweithio â 'Grwp Swyddogion' o'r Cynghorau Sir, Bwrdd Croeso, a chyrff statudol eraill. Dawcyfarwyddyd gan y pwyllgor llywio a chynrychiolir diddordebau twristiaeth yn y grwp gan Bartneriaeth Twristiaeth - Canolbarth Cymru. Gwneirpenderfyniadau ynglyn â nawdd yn ganolog gan y Bwrdd Croeso. Y Bwrdd Croeso ynghyd â Chynghorau Gwynedd a Phowys sy'n talu costau gweithredu'r cynllun. Os hoffech fwy o fanylion am y fenter, cyngor ar wneud cais am nawdd, neu gopi o grynodeb o'r cynllun gweithredol (dogfen Word, 100kB - yn Saesneg yn unig), ffoniwch Teresa ar 01970 871620 neu e-bost teresa.walters@ecodyfi.org.uk. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||