ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Hafan Ieuenctid Mach

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

teenzone logo

Lempite Opik and kids with bikes

Uchod: Yr Aelod Seneddol lleol, Lembit Opik ar gefn ei feic ynghanol plant yn ystod y seremoni agoriadol. Canol: Rhannu'r deisen; Ar y Dde: Cwrdd â'r wasg o dan loches yr Hafan Ieuenctid.

Lempit Opik cuts the cake

Diwrnod agoriadol, Rhagfyr 4ydd 2004

Lempit Opik beneath the Teenzone hut

Nod prosiect TZM yw darparu cyfleusterau chwaraeon olwynion i ieuenctid Machynlleth, ar gyfer sglefr-fyrddio, troed-rolio, beicio ayb.

Mae lloches tair ochr hefyd ynghlwm â'r cyfleuster.

Pobl ifanc lleol sydd wedi adeiladu'r lloches gyda chymorth seiri coed a hunan-adeiladwyr cymwysedig, gan ddefnyddio defnyddiau cynaliadwy.

Trydedd elfen yw ardal natur gyfagos, a reolir yn ysgafn gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt�Sir Drefaldwyn�ar gyfer pobl o bob oed.

Mae�r cyfan wedi cael ei adeiladu yn y Plas y tu ôl i le chwarae'r plant hynaf, ar ddarn o dir yng ngwaelod y meysydd p�l-droed a rygbi.

Y cynllun - hanes personol gan y cydlynydd gwirfoddol (Clive Thomas)

"Ar ddechrau'r Gwanwyn yn y flwyddyn 2000, tra'n gweithio fel Rheolwr Gweithredu yn Celtica, profodd fandaliaeth i fod yn broblem yno. Yn ystod y misoedd i ddod, bum yn ymdrechu i'roi terfyn ar y fandaliaeth, ond ofer fu fy ymdrechion.

Amlygodd nad oedd fy nulliau o geisio rhwystro'r fandaliaeth yn llwyddo.

O ganlyniad i hyn, penderfynais ar roi cynnig ar gyfathrebu i'r plant � oedd yn gysylltiedig er mwyn ceisio dod at wraidd eu rhesymau.

Ar ôl trin a thrafod, gofynnais iddynt os fyddai modd iddynt ysgrifennu'r hyn a drafodwyd (adroddiad yn amgaeîdig). Yn dilyn hyn, daeth i'r amlwg nad ymdrechion maleisus oedd y tu cefn i'r fandaleiddio ond diflastod llwyr, fel y mynegodd y bobl ifanc:

"Does dim i'w wneud nac unlle i fynd."

Ar ôl derbyn a darllen yr adroddiad, penderfynais gysylltu ag eraill yn ardal Machynlleth a oedd wedi bod mewn cysylltiad� fandaliaeth; rhai a fyddai � diddordeb ym mhobl ifanc yr ardal. Yn ogystal � hyn, cysylltais â'r rhai a fyddai â'r gallu i gofnodi gwahanol agweddau o fywydau pobl ifanc o ddydd i ddydd.

Gwahoddwyd y bobl yma i gyfarfod â'r bobl ifanc a fu'n fandaleiddio er mwyn trafod cynnwys yr adroddiad a'r goblygiadau.

Yn ystod y cyfarfod cyntaf, dywedodd y bobl ifanc mae'r hyn oedd angen arnynt oedd rhywle i fynd lle'r oedd modd iddynt fod yn "nhw'u hunain." Rhywle lle na fyddai oedolion yn dweud wrthynt beth i'w wneud.

O hyn yr esblygodd Hafan Machynlleth.

O'r cychwyn cyntaf, bwriad y cynllun a ffurfiwyd oedd caniat�u i'r pwyllgor gael ei arwain gan yr ifanc, darparu cyfleusterau sglefrio a chysgodfan yn ogystal � bod yn gynllun cymunedol a fyddai'n hyrwyddo hunan gymorth, hunan werth a chyfrwng i'r ifanc i gael blas ar gyflawnu a boddhad.

Yn wreiddiol, roedd yna ymdeimlad gan rai mai rhywbeth ar gyfer y bechgyn oedd y cynllun; cywirwyd hyn gan bwysleisio fod y cynllun wedi ei baratoi ar gyfer pawb.

Wrth ganiat�u i'r grwp drafod y materion yn agored, datgelwyd eu pryderon, a thrwy gytundeb, cytunwyd ar gynllun gweithredu.

Wrth fynd trwy wahanol gamau o'r cynllun, ymgynghorwyd â'r ifanc yn ogystal â sicrhau eu cysylltiad wrth benderfynu ar y cynlluniau â'r pwrpas.

Gofynnais i adran gynllunio Cyngor Sir Powys i ddod i drafod â'r grwp er mwyn egluro proses yr adran gynllunio.

Yn ffodus, roedd yn bosib i Mr David Ladd ymateb. Trafodwyd yr holl agweddau cynllunio gan gynnwys Iechyd a Diogelwch, a Chyfleodd Cyfartal.

Yn dilyn y cyfarfod bum yn trafod gyda'r grwp a phensaer y cynllun; trafodwyd yr wybodaeth ddiweddaraf a chynnwys y cynlluniau arfaethedig.

Roedd yn rhaid i'r cynlluniau fod yn gymeradwy gan ROSPA, Rroedd yn rhaid cael goleuadau, a gwnaethpwyd asesiad risg ar yr offer â'r gweithgareddau. Mae rampiau wedi'u gosod er mwyn caniat�u mynedfa i gadeiriau olwyn.

Anogwydy grwp i ddefnyddio eu gwybodaeth yn ymarferol gan roi ystyriaeth i'r goblygiadau, yr amddiffyniadau angenrheidiol a phwysigrwydd Iechyd a Diogelwch a Chyfleodd Cyfartal mewn amgylchedd cymdeithasol a gweithredol.

Gofynnwyd i rieni'r dref am eu hymateb i gynlluniau'r gysgodfan. Mynegwyd eu pryderon ynglnâ'r safle â'r ffaith ei fod yn adeilad pedair ochr. Roeddynt yn bryderus yngln â bwlio, yfed dan oed, cyffuriau a phwysau gan eu cyfoedion.

Trafodwyd yr ofnau gydâ'r grwp a daethpwyd at benderfyniad ar y cyd; yn wreiddiol penderfynwyd ar wneud y gysgodfan yn dair ochr gydâ'r gallu o ychwanegu ochr arall petai yn cael ei ddefnyddio yn ôl y gofynion.

Cytunwyd y byddai adeilad gyda gwelededd o'r math yn caniat�u i'r defnyddwyr deimlo'n fwy diogel. Bydd y gysgodfan yn gynllun hunanadeiladol gyda thiwtoriaid yn arwain y grwp.

Anogwyd y grwp i benderfynu ar y canllawiau.

Byddai'r canllawiau yma yn cael eu defnyddio yn y broses o adeiladu yn ogystal ag arddweud y datblygiad yn y dyfodol.

Trafodwyd bwlio, yfed dan oed, cyffuriau, gwrthdaro a nifer o faterion eraill. Yn naturiol, rhoddwyd mwy o sylw i'r materion hynny a oedd yn ennyn diddordeb personol i rai o aelodau â'r grwp.

Trafodwyd y peryglon o gam 'drin gwahanol sylweddau yn ogystal ag ymddygiad anghymdeithasol â'r goblygiadau yng nghyd-destun y cynllun.

Gobeithiwn yn fawr y bydd gan Fachynlleth, yn dilyn cyflawni'r cynllun, barc sglefrio a chysgodfan yn ogystal â man cyfarfod na fydd yn peri gwrthdaro.

Bydd y profiad yn cynorthwyo datblygiad y bobl ifanc wrth ddysgu i gymdeithasu a bod yn annibynnol, trosglwyddo'r ymdeimlad o berchnogaeth a balchder o fewn eu cymdogaeth a'i weld yn rhywbeth adeiladol yn hytrach na phrofiad dinistriol."