|
Ymaelodwch
ag ecodyfi drwy! Rydym
am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i
Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.
Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore
tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu
prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein
lleoliad - map mwy]
|
Eleni, mae ecodyfi yn trefnu dathliadau cymunedol y Samhain ym Machynlleth.
Yn y gorffennol mae'r grwp cymunedol Elemental Earth wedi derbyn grantiau, casglu gwirfoddolwyr a threfnu gweithdai gwneud llusernau gydag artistiaid lleol yn y gymuned ac yn yr ysgolion yn ystod yr wythnosau cyn y digwyddiad.
Ond gwasgarodd y grwp yn gynharach eleni gan adael y digwyddiad heb arweinwyr.
Dechrau mis Medi sylweddolodd staff Celtica ac ecodyfi bod y digwyddiad dan fygythiad a lansiwyd apêl lwyddiannus am arian a gwirfoddolwyr.
Mae busnesau unigol wedi ymuno â grwpiau fel Mach Fringe a Phwyllgor Carnifal Machynlleth trwy
addo'u cefnogaeth, ac mae Celtica wedi cynnig ariannu'r arddangosfa dân gwyllt.
Am fwy o wybodaeth
|
|
|
Chwiliwn am wirfoddolwyr i stiwardio ar y noson - ffoniwch Natasha ar 01654 703535
neu 703965
|
|
29 Hydref 6.30
|
Gorymdaith Llusernau Samhain
|
Heol Maengwyn
|
|
29 Hydref, 7.30
|
Tân Gwyllt £3 oedolyn £1 plentyn
|
Y Plas Machynlleth
|
|
22-28 Hydref
|
Gwneud Llusern! £2 / sesiwn 2h (leiafswm o 4h) 11-1; 2-4
|
Celtica
|
|