ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Mamau beichiog allan ac yn actif!


english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release28/1/2008

yoga and ante-natal care

free pregnancy yoga exercise course

Ysbyty Cymunedol yn gweithio mewn partneriaeth i roi’r gofal cyn-geni gorau posibl.

Mae Ysbyty Cymuned Bro Ddyfi, Prosiect Mentro Allan Bro Ddyfi a arweinir gan ecodyfi, a’r grŵp cymunedol Ioga i Bawb yn gweithio gyda’i gilydd i lunio rhaglen o weithgareddau cyn ac ôl geni i ferched yn ardal Bro Ddyfi.

Gan ddechrau ar Chwefror 1af am 10-11.30 yn yr ysbyty, ac yna’n wythnosol am chwe wythnos, bydd cyfle i famau newydd a mamau beichiog fwynhau ioga beichiogrwydd a mynd am dro gyda bygi, ynghyd â sesiynau gwybodaeth anffurfiol am iechyd, gyrfaoedd, budd-daliadau ac ati.

Mae’r gweithgareddau yn rhad ac am ddim! A gobeithir trefnu meithrinfa am ddim hefyd!

Trefnir y rhaglen gan Teresa Walters o gwmni adfywio cymunedol ecodyfi, fel rhan o brosiect ymchwil iechyd Mentro Allan Bro Ddyfi, sy’n anelu at gael pobl allan i fwynhau’r amgylchedd naturiol.

Eglurodd Teresa, “Rydyn ni’n cynnig ioga i rai na fyddent yn rhoi cynnig arno fel arfer - yn ogystal â’r cyfle i fod yn actif yn yr awyr agored - a byddwn yn gofyn i ferched am eu barn am y cynllun fel y gallwn ddweud wrth eraill.

Yn ogystal â’u gwneud yn actif, rydyn ni’n gobeithio y bydd y sesiynau yn helpu merched i ddatblygu technegau ymlacio ac yn gwella’u profiad o feichiogrwydd - a byddwn yn rhoi gwybodaeth ar faterion sydd o ddiddordeb i’r grŵp hefyd.”.

Ychwanegodd Sara McAleese, sy’n fydwraig, “Mae tystiolaeth yn dangos bod ioga a ffurfiau eraill o ymarfer ysgafn yn dod â manteision iechyd i’r rhan fwyaf o ferched yn ystod beichiogrwydd - fel ar unrhyw adeg arall yn ein bywyd.” Bydd sesiynau ar lefel dechreuwr yn gyfan gwbl a does dim angen i neb ohirio ymuno am nad ydynt wedi gwneud unrhyw ymarfer ers amser.

Mae’r athrawes ioga, Katy Tuxworth, o Ioga i Bawb, wedi’i hyfforddi’n arbennig i weithio gyda merched beichiog, a bydd y cerdded yn ysgafn iawn.

Mae gweithwyr prosiect a’r staff yn Ysbyty Cymuned Bro Ddyfi yn disgwyl i’r rhaglen fod yn un boblogaidd iawn.

“Wrth gwrs, mae cadw lle yn angenrheidiol,” eglurodd Teresa , “yn enwedig ar gyfer y feithrinfa - na allwn ei chadarnhau hyd yn hyn; ond fe fyddaf yn hapus i gadw enwau ar restr aros.” Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno gysylltu â hi ar 01654 703965 neu ar e-bost: mentro.allan@ecodyfi.org.uk neu trwy alw yn swyddfa ecodyfi, y Bro Ddyfi, Machynlleth (gyferbyn â Chaffi Maengwyn).

Yoga I Bawb

grŵp cymunedol yw Ioga I Bawb a sefydlwyd i hyrwyddo ioga fel gweithgaredd i gynorthwyo cefnogi ffitrwydd a lles y gymuned.

Mae’n gweithio gyda grwpiau sector gwirfoddol a chymunedol eraill i lunio a rhedeg cyrsiau ar gyfer pobl sy’n fregus ac a fyddai’n cael budd arbennig o ioga, ac na fyddent yn debygol o fynychu dosbarth ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol.

Hyd yn hyn, mae ein cleientiaid wedi cynnwys gofalwyr, yr henoed, plant, pobl gyda phroblemau iechyd meddwl, pobl ddi-waith tymor hir, rhai cyflogedig yn ystod oriau gwaith a phobl sy’n gwella o gaethiwed.

Mae Ioga i Bawb yn cynnwys athrawon ioga a myfyrwyr sydd hefyd yn weithgar yn y gymuned.

Mae’n cynnwys tri aelod Cymraeg eu hiaith, a dau sy’n dysgu Cymraeg.

Ioga

Mae ioga yn ymarferiad holistig sy’n cynnwys ymarferion corfforol, technegau anadlu ac ymlacio.

Gellir addasu ioga ar gyfer gwahanol grwpiau oed, neu ar gyfer rhai ag anghenion corfforol a meddyliol gwahanol.

Mae mwy a mwy o dystiolaeth bod gan ioga lu o fanteision therapiwtig sy’n ei wneud yn gynyddol boblogaidd gyda’r cyhoedd a meddygon fel ei gilydd.

Katy Tuxworth 07747505970

Mae Katy wedi’i hyfforddi gyda Sitaram Partnership yn Llundain, gyda Uma Dinsmore Tuli sydd wedi ysgrifennu llyfr, Mother’s Breath, sy’n archwilio technegau anadlu sydd o gymorth i’w defnyddio ar wahanol adegau o esgor a beichiogrwydd.

Mae mam Katy’n fydwraig hyfforddedig a Doula.

Nodiadau ar gyfer y golygyddion:

Mae Mentro Allan yn gasgliad o brosiectau yng Nghymru a gefnogir gan Gronfa’r Loteri Fawr a phartneriaeth genedlaethol.

Mae’r rhaglen yn targedu grwpiau penodol sydd, ar y cyfan, yn llai actif na’r boblogaeth ehangach.

Bydd pob un o’r prosiectau yn cael eu hariannu am bedair blynedd i gynyddu lefel gweithgaredd corfforol ei grŵp targed, gan wneud y defnydd gorau o’r amgylchedd awyr agored naturiol lleol sy’n agos i’w cartrefi.

Bydd y rhaglen yn casglu tystiolaeth o effeithiolrwydd yr ymyrraeth benodol a gynlluniwyd i gynyddu’r lefel o weithgaredd corfforol sydd o fudd i iechyd y bobl dan sylw.

Bydd rhaglen Mentro Allan Bro Ddyfi yn annog unigolion yn Nyffryn Dyfi i gynyddu eu lefel o weithgaredd corfforol, trwy ddefnyddio lleoliadau amrywiol yn yr amgylchedd awyr agored naturiol.

Ein prif grŵp targed yw’r boblogaeth eang sy’n dioddef o eithrio gwledig ac yn treulio llawer o’u bywydau ar eu heistedd.

Rydym yn pryderu fwyaf am yr unigolion hynny sy’n dioddef o unigrwydd ac eithrio cymdeithasol o ganlyniad i anhwylustod i gyrraedd at wasanaethau a phatrwm poblogaeth wasgaredig, er y bydd y gweithgareddau ar gael i’r trigolion i gyd.

Ein grwpiau targed nesaf yw: rhieni plant ieuainc, yn enwedig rhieni ieuainc; pobl ieuainc 11-18 oed, yn enwedig y rhai hynny sydd mewn peryg o ddioddef o eithrio cymdeithasol; pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig y rhai hynny sydd heb gysylltiad cyson â grwpiau cefnogi a gwasanaethau.

Byddwn yn targedu trigolion ardaloedd Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair, ond bydd croeso yn ogystal i drigolion rhannau eraill o’r dyffryn i ymuno â ni.

Ecodyfi yw’r corff arweiniol ac mae partneriaid eraill yn cynnwys: Gweithredu Cymunedol Machynlleth a’r Cylch; Coed Lleol; US Mach; Mudiad Ysgolion Meithrin, Sir Trefaldwyn; Chwarae Sir Drefaldwyn; Prosiect Anghydraddoldebau mewn Iechyd NPHS; Cymunedau’n Gyntaf Bro Ddyfi; Cyngor Sir Powys; Tir Coed; Cychwyn Cadarn NCH; PAVO.

Gwybodaeth Bellach:

Brig y dudalen