![]() |
Beth amdani!
|
|
|
Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
22/2/2008 Gydag ynni newydd y Gwanwyn ar y gorwel, mae grwpiau allweddol Bro Ddyfi'n mynd "ar y ffordd" i ddweud wrth bobl am rai o'r gweithgareddau a'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl leol.Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal yng Nglantwymyn, Llanbrynmair a Machynlleth ar Fawrth 3ydd, 6ed, a'r 19eg, yn ôl eu trefn. Pa le bynnag mae pobl yn byw, mae gwahoddiad iddynt daro i mewn am sgwrs a phaned o de. Bydd bylbiau ynni isel i'w cael yno'n rhad ac am ddim hefyd! Mae'r cyfarfodydd yn cael eu trefnu gan ecodyfi, Cymunedau'n Gyntaf a CAMAD, ac maent am ddim.
Croeso i bawb. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau cysylltwch â Gwenno Davies, Swyddog Byw Cynaliadwy, ecodyfi ar 01654 703965 neu ar e-bost gwenno.davies@ecodyfi.org.uk Gwybodaeth bellach:Gwenno Davies, Swyddog Byw Cynaliadwy, ecodyfi 01654 703965 gwenno.davies@ecodyfi.org.uk< Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi 01654 700315 cyril@powys.gov.uk Linda Hayward, Rheolwr CAMAD 01654 700071 camad@freeuk.com |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||