ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Ecodyfi yn mynd i'r afael â gwastraff

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau

Berson lleol

Ymwelydd

Gwmni

Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release

Penodwyd dau weithiwr rhan-amser, Kestrel Maranta a Tom O Kane, gan ecodyfi, corff adfywio Dyffryn Dyfi, er mwyn cynorthwyo'r gymuned i leihau ei gwastraff.

Mae'r gwastraff a gynhyrchir gan gwmnïau a phreswylwyr yn broblem gynyddol. Nid yw ei gladdu'n datrys y broblem gan ein bod yn rhedeg allan o dyllau. Mae'n rhaid cael defnyddiau o'r newydd yn lle'r rhai a waredwyd, ac achosir llygredd gan y gweithgareddau hyn. Mae claddu defnyddiau sy'n pydru yn arbennig o beryglus gan fod hyn yn creu methan, sef un o'r nwyon â'r gallu mwyaf i achosi newid yn yr hinsawdd. "Dydi llawer o'r defnyddiau hyn ddim yn wastraff beth bynnag", meddai Tom. "Maen nhw'n adnodd y gallwn fanteisio arno i greu compost gwerthfawr, defnydd gwelyau anifeiliaid, cynnyrch papur ac ati."

Mae Tom eisoes wedi cynhyrchu taflen sy'n darparu gwybodaeth ymarferol ynglwn â mannau i breswylwyr Dyffryn Dyfi fynd â phethau diangen, iddynt gael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu. Mae n chwilio am bobl sy n barod i roi r daflen ym mlwch llythyrau eu cymdogion, er mwyn i bawb gael copi. Mae r daflen hefyd ar gael yn swyddfeydd ecodyfi yn Y Plas, Machynlleth, drwy ffonio 01654 703965 ac yma.

Bwriad y prosiect yw cynorthwyo pobl i ddeall pwysigrwydd ailgylchu yn ogystal â sut i fynd ati. Mae mentrau ar y cyd ag ysgolion, grwpiau cymunedol a chwmnïau lleol yn cael eu trefnu. Er enghraifft, mae plant yn Ysgol Glantwymyn yn dod â 'sbwriel' glân o'u cartref ac yn ei ddidoli yn y dosbarth, ac yna bydd rhai rhieni yn mynd ag ef oddi yno i'r safle ailgylchu ym Machynlleth. Yn y modd yma bydd y teulu cyfan yn cymryd rhan, gan efallai sefydlu arferiad am oes. Bydd ecodyfi yn darparu storfa briodol ar gyfer yr ysgol ac y mae'n gobeithio medru sicrhau cytundeb i greu safle ailgylchu gerllaw ar gyfer gweddill y gymuned.

Nododd trigolion Pennal fod compostio'n flaenoriaeth iddynt, a gwirfoddolodd dau o bobl i fod yn ymgynghorwyr compostio. Fe'u hyfforddwyd gan Kestrel yn y Ganolfan Dechnoleg Amgen yr wythnos diwethaf er mwyn galluogi iddynt hyrwyddo compostio cartref yn y pentref. Gobaith Tom hefyd yw cynnig cymorth i sefydlu safle compostio cymunedol ym Mhennal ar gyfer gwastraff o'r ardd.

Mae Kestrel yn cydweithio ag ecodyfi, y Ganolfan Dechnoleg Amgen a Chyngor Powys i sefydlu gwasanaeth ailgylchu oddi ar garreg y drws ym Machynlleth. Mae ei phrif bwyslais ar gasglu gwastraff o'r gegin ond ei gobaith yw cynnwys defnyddiau ailgylchu 'caled' hefyd. Mae angen brys am safle i gompostio'r defnyddiau addas mewn unedau seliedig uwch-dechnolegol. "Mae arna'i eisio creu swyddi lleol a chyfleoedd hyfforddi yn ogystal â chyfyngu ar golli defnyddiau", meddai Kestrel. "Mi fuom yn eu rhoi i ffwrdd am ddim yn rhy hir!"

Rhagor o wybodaeth:
Andy Rowland, Trefnydd, ecodyfi. ffôn: 01654 703965
Sabrina Wise, Ffair Gyfnewid ffôn: 01650 511 575

21/3/03