Dechreuwch y Flwyddyn Newydd Gyda Thaith Gerdded |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mae cerddwyr yn Nyffryn Dyfi yn dathlu dyfodiad amryw o gelfi newydd ar gyfer y flwyddyn newydd.Dim y math i eistedd arnynt ond yn hytrach gatiau hardd a hawdd i'w defnyddio. Yn ogystal â thair wiced newydd yng Nghemaes/Cefngadair gosodwyd dwy wiced a chlwyd ceffyl newydd yn Aberhosan; ac yn barod ar gyfer eich adduned i gerdded mwy yn y flwyddyn newydd, mae gatiau mochyn newydd wedi eu gosod ym Machynlleth - pedair ger Garsiwn a thair ar y comin ger y Cwrs Golff. Mae perchnogion cyn wedi gweld y fantais o beidio a gorfod eu codi dros gamfa fregus yn barod! Bu Ecodyfi'n gweithio gyda Chyngor Sir Powys, Cyngor Tref Machynlleth, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Adran Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella'r mynediad i lwybrau troed yn y dref a'r pentrefi lleol. Mae gan Ecodyfi, cwmni adfywio cymunedol Dyffryn Dyfi, ddiddordeb ers tro mewn hybu cerdded a beicio a ffyrdd eraill o gludiant a theithio cynaliadwy. Yn ystod 2007 hefyd, lansiwyd prosiect ymchwil i iechyd a gweithgareddau awyr agored lleol Mentro Allan, sy'n hybu'r cyfleoedd i fod yn actif yn yr awyr agored. Bu cydlynydd Mentro Allan, Teresa Walters, a Phrif Warden Cefn Gwlad Powys, Rab Jones, yn darganfod pa lwybrau cerdded y mae pobl leol yn eu defnyddio neu pa lwybrau y byddent yn hoffi'u defnyddio fel y gallent weld lle mae angen gwelliannau er mwyn cael pobl allan i gerdded. Bu'r cynghorydd sir a thref, Michael Williams, yn rhoi cefnogaeth ychwanegol yn ardal Machynlleth. Dywedodd "Rwy'n gyfarwydd iawn â'r llwybrau ac mae'r bobl leol yn dod ataf gyda'u syniadau, felly rwy'n gobeithio y gallaf fod o gymorth i Teresa a thîm Hawliau Tramwy Powys ddod o hyd i'r ffocws gorau. "Mae iechyd o ddiddordeb arbennig i mi, ac mae cerdded yn ffordd wych o wella iechyd a lles, felly rwy'n falch iawn o weld y prosiect hwn yn cael ei gynnig i bobl Machynlleth. "Rydw i hefyd yn falch o fod yn rhan o'r math hwn o waith partneriaeth: mae'n ffordd ardderchog o ddysgu am y gymuned a chwrdd â'i hanghenion. "Er bod gan Gyngor Sir Powys gyfrifoldeb statudol i gynnal a chadw'r hawliau tramwy, y realiti yw nad oes gennym y gweithlu na'r arian sydd ei angen i gynnal a chadw'r hawliau tramwy ar y lefel yr hoffem ei wneud. "Mae gweithio gyda Mentro Allan yn golygu ychydig mwy o ffocws ac ychydig mwy o arian." Mae 15 o brosiectau Mentro Allan ledled Cymru, sy'n cael eu hariannu trwy grant y Loteri Fawr ac arian ychwanegol gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, yn gweithio ar y cyd â phartneriaid lleol i adeiladu darlun cenedlaethol o batrymau ymarfer a beth yw'r rhwystrau i fod yn fwy actif. Y partneriaid prosiect lleol i Mentro Allan Bro Ddyfi yw CAMAD, Coed Lleol, US Mach, Mudiad Ysgolion Meithrin, Chwarae Sir Drefaldwyn, prosiect Anghyfiawnderau Mewn Iechyd y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi, Cyngor Sir Powys, Tir Coed a Cychwyn Cadarn NCH. Dywedodd Teresa fwy wrthym am y prosiect: "Prosiect ymchwil i iechyd yw hwn - rydym ni am gael gwybod beth sy'n gwneud i bobl anactif ddod yn fwy actif yn yr awyr agored. Felly rydym yn trefnu gweithgareddau - e.e. garddio, beicio, sgiliau coetiroedd, cerdded, sgiliau goroesi, - a rhoi'r cyfleoedd a'r gefnogaeth sydd ei angen ar bobl i newid eu patrymau gweithgaredd. "Un rheswm nad ydyw pobl yn cerdded yn eu hardal leol yw'r ffaith nad ydynt yn gwybod lle i fynd. "Rheswm arall yw nad ydynt yn ei gweld yn hawdd cyrraedd yno. Dyna pam yr ydym yn gweithio gyda'r Cyngor: Mae Rab a'i dîm wedi bod yn gosod gatiau o ansawdd da, hawdd i'w defnyddio sy'n cau ar eu pennau eu hunain, ac yn sicrhau fod yr hawliau tramwy wedi'u marcio a'u clirio. "Yn ystod y flwyddyn hon maen nhw wedi creu llwybrau cylchog hawdd i'w cyrraedd yn Aberhosan, Melinbyrhedyn a Glantwymyn, a hefyd o gwmpas Machynlleth. "Byddwn ninnau'n gwneud ein rhan yn awr trwy hysbysu pobl am leoliad y llwybrau a'u hannog i'w defnyddio." Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn actif a bod yn rhan o'r prosiect, neu os ydych am fod yn gyfranogwr i'r ymchwil (sy'n golygu cofnodi eich data ymarfer corff wythnosol unwaith pob chwe mis) gysylltu â Teresa yn ecodyfi trwy ffonio 01654 703965 neu e-bostio mentro.allan@ecodyfi.org.uk neu alw yn swyddfa ecodyfi yn Nhg Bro Ddyfi, Machynlleth (gyferbyn â Chaffi Maengwyn). Nodiadau ar gyfer y golygyddion:Mae Mentro Allan yn bartneriaeth genedlaethol ac yn gasgliad o brosiectau a gefnogir gan Gronfa'r Loteri Fawr yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn targedu grwpiau penodol sydd ar y cyfan yn llai actif na'r boblogaeth ehangach. Bydd pob un o'r prosiectau yn cael eu hariannu am bedair blynedd i gynyddu lefel gweithgaredd corfforol ei grŵp targed, gan wneud y defnydd gorau o'r amgylchedd awyr agored naturiol leol sydd yn agos i'w cartrefi. Bydd y rhaglen yn casglu tystiolaeth o effeithiolrwydd yr ymyrraeth benodol a gynlluniwyd i gynyddu'r lefel o weithgaredd corfforol sydd o fudd i iechyd y bobl dan sylw. Bydd rhaglen Mentro Allan Bro Ddyfi yn annog unigolion yn Nyffryn Dyfi i gynyddu eu lefel o weithgaredd corfforol, trwy ddefnyddio lleoliadau amrywiol yn yr amgylchedd naturiol, wrth ymchwilio i ba beth a weithiodd i wneud y newid hwn a phaham. Ein prif grŵp targed yw'r boblogaeth eang sy'n dioddef o eithrio gwledig ac yn treulio llawer o'u bywydau ar eu heistedd. Rydym yn fwyaf pryderus am yr unigolion hynny sy'n dioddef o unigrwydd ac eithrio cymdeithasol o ganlyniad i anhwylustod i gyrraedd at wasanaethau a phatrwm poblogaeth wasgaredig, er y bydd y gweithgareddau yn agored i'r holl drigolion. Ein grwpiau targed nesaf yw: rhieni plant ieuainc, yn enwedig rhieni ieuainc; pobl ieuainc 11-18 oed, yn enwedig y rhai hynny sydd mewn peryg o ddioddef o eithrio cymdeithasol; pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig y rhai hynny sydd heb gysylltiad cyson â grwpiau cefnogi a gwasanaethau. Byddwn yn targedu trigolion ardaloedd Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair, ond bydd croeso yn ogystal i drigolion rhannau eraill o'r dyffryn i ymuno â ni. Os ydych am ymuno ag US Mach a Rhaglen Gweithgareddau Coetir US Mach, cysylltwch ag Adrian yn y Ganolfan Gofal naill ai ar 01654 700153 neu trwy e-bostio husmach@aol.com. Os ydych am i'ch grwp (neu chi fel unigolyn) gymryd rhan ym mhrosiect ehangach Mentro Allan, cysylltwch â Teresa Walters ar 01654 703965 neu trwy e-bostio mentro.allan@ecodyfi.org.uk. Gwybodaeth Bellach:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||