ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Picnic pentref i'r mamau (a thadau, neiniau a gwarchodwyr plant)


english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release5/5/2009

Mae grŵp Taith Bygis Corris, a drefnwyd gan Mentro Allan, yn cynnal picnic i deuluoedd Dydd Mawrth 19eg o Fai, yn Institiwt Corris, er mwyn annog cerddwyr newydd i ymuno â nhw.

"Gall fod yn anodd mynd allan â chwrdd pobl pan rydych yn fam newydd, ac mae cadw'n heini yn un o'r sialensiau mwyaf" medd Imogen Pettitt, Ymchwilydd Gweithgaredd, Mentro Allan Bro Ddyfi.

"Cerdded yw un o'r unig ddulliau o ymarfer corff y gallwch eu gwneud gyda babi wrth eich cwt. Ac mae am ddim!"

Bydd y grŵp picnic taith bygis yn cwrdd am 10.30 y bore, cerdded i'r man picnic a dychwelyd i'r Institiwt mewn digon o amser i chwarae a chael paned a chacen - yn ogystal bydd tylino'r corff (massages) am ddim i rieni a gwarchodwyr!

Ffurfiwyd y grŵp gan Imogen, sy'n fam i blentyn blwydd oed ac sydd wedi gweld llwyddiant grŵp taith bygis tebyg gan Mentro Allan ym Machynlleth, ac a gafodd y syniad felly o gychwyn grŵp o'r fath yn ei phentref ei hun

"Bob Dydd Mawrth byddwn yn ymadael ag Institiwt Corris am 10.30 y bore am daith oddi ar y ffordd," esboniodd.

"Daw pobl a'u babanod mewn slingiau, paciau cefn neu goets addas, a byddwn yn anelu am lwybr sy'n addas i'r grŵp. Wedi'r daith cawn baned a sgwrs yn yr Institiwt tra bydd y babanod yn chwarae mewn ystafell hardd, ddiogel neu yn yr ardd."

Ar fore Dydd Iau bydd Imogen yn arwain taith bygi ym Machynlleth, sy'n gadael Canolfan Hamdden Bro Ddyfi am 11 o'r gloch. Ar ddiwrnod braf bydd y cerddwyr yn aros mewn man gwyrdd diogel i roi cyfle i'w babanod gropian neu ymarfer eu cerdded.

Rhaglen genedlaethol ar ymchwil i iechyd yw Mentro Allan. Mae gan y prosiect lleol, sy'n cael ei redeg gan gwmni adfywiad cymunedol ecodyfi a phartneriaid lleol, ddiddordeb penodol mewn gweithio gyda rhieni ieuainc a phobl eraill sydd ddim yn actif iawn.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno a grŵp Dydd Mawrth (10.30 y bore – 12.30, yn Institiwt Corris) neu grŵp Dydd Iau (11 y bore – 12.00, Canolfan Hamdden Bro Ddyfi, Machynlleth) gysylltu ag Imogen neu Teresa ar mentro.allan@ecodyfi.org.uk neu eu ffonio ar 01654 703965.

Nodiadau ar gyfer golygyddion:

Casgliad o brosiectau yng Nghymru a gefnogir gan Gronfa'r Loteri Fawr a phartneriaeth genedlaethol yw Mentro Allan. Mae'r rhaglen yn targedu grwpiau penodol sydd yn llai actif yn gyffredinol na'r boblogaeth ehangach.

Bydd pob un o'r prosiectau yn cael eu hariannu am bedair blynedd gyda'r bwriad o gynyddu lefel gweithgaredd corfforol y grŵp targed, gan wneud y defnydd gorau o'r amgylchedd naturiol lleol yn agos i'w cartrefi.

Bydd y rhaglen yn casglu tystiolaeth ar effeithiolrwydd ymyrraeth benodol a gynllunnir i gynyddu lefelau o weithgaredd corfforol sydd o fudd i iechyd.

Bydd rhaglen Mentro Allan Bro Ddyfi yn dod ag unigolion ynghyd yn Nyffryn Dyfi er mwyn cynyddu eu lefelau o weithgaredd corfforol, trwy ddefnyddio amrywiaeth o leoliadau yn yr amgylchedd naturiol.

Ein prif grŵp targed yw'r boblogaeth eang sy'n cael eu hynysu o gefn gwlad ac yn byw bywydau eisteddog. Rydym yn bennaf bryderus ynghylch unigolion sy'n dioddef o eithriad cymdeithasol ac unigrwydd o ganlyniad i fynediad gwael i wasanaethau a phatrwm poblogaeth wasgarog, er y bydd y gweithgareddau yn agored i bawb.

Ein his- grwpiau targed yw: rhieni plant ieuainc, yn arbennig rhieni ieuainc; pobl ieuainc rhwng 11 a 18 oed, yn enwedig y rhai hynny sydd mewn perygl o ddioddef o eithriad cymdeithasol; pobl sy'n dioddef yn feddyliol, yn enwedig y rhai hynny sydd ddim mewn cysylltiad cyson â gwasanaethau a grwpiau cefnogi.

Byddwn yn targedu trigolion ardaloedd Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair, ond bydd croeso i drigolion rhannau eraill o'r dyffryn i ymuno â'r gweithgareddau. Y corff arweiniol yw ecodyfi ac mae partneriaid eraill yn cynnwys: Gweithredu Cymunedol Machynlleth a'r Cylch; Coed Lleol; US Mach; Mudiad Ysgolion Meithrin Sir Drefaldwyn; Chwarae Sir Drefaldwyn; prosiect Anghyfiawnderau Mewn Iechyd NPHS; Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi; Cyngor Sir Powys; Tir Coed; Cychwyn Cadarn NCH; Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.

Brig y dudalen