ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Yn weithgar yn yr awyr agored yng Nghartref Dyfi


english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release19/9/2008

Kate Doubleday, gardener, and Elsie May, resident of Cartref Dyfi, Machynllleth, in the sensory garden.

Preswylydd Cartref Dyfi, Elsie May, gyda'r cynllunydd gardd therapiwtig, Kate Doubleday.

Er gwaetha'r glaw, bu trigolion Cartref Dyfi yn brysur iawn y tu allan yn creu gardd synhwyraidd gyda chymorth Mentro Allan Bro Ddyfi ac arian gan BUPA. Prosiect lleol yw Mentro Allan sy'n ymwneud ag ymchwil i iechyd a gweithgareddau awyr agored.  

Mae Cartref Dyfi, sydd yn eiddo i BUPA, yn gartref i 28 o bobl oedrannus. Mae llawer o'r trigolion yn cael cryn drafferth i symud ond nid yw hynny wedi eu rhwystro i fod yn weithgar yn yr ardd.

Cynlluniwyd yr ardd synhwyraidd gan Kate Doubleday, sydd wedi'i lleoli ym Machynlleth ac sy'n arbenigo mewn cynllunio gerddi cymunedol. Fe'i adeiladwyd gan Kate gyda chymorth David Thorpe, trigolion Cartref Dyfi a staff Mentro Allan. Esboniodd Kate bwrpas yr ardd synhwyraidd: “mae'r ardd yn ysgogi'r holl synhwyrau, gan gynnwys blas a chyffyrddiad a s_n ac arogl, fel y gall pawb ei mwynhau, gan gynnwys y rhai hynny sydd â nam ar y golwg a'r rhai sy'n cael trafferth i symud."

Esboniwyd y rhaglen gan Teresa Walters, Cydlynydd prosiect ymchwil i iechyd Mentro Allan Bro Ddyfi: "Nod Mentro Allan yw dysgu am y rhwystrau sydd i fod yn actif yn yr awyr agored.

"Mae ein gwaith ymchwil yn cynnwys cynnal gweithgareddau yn yr awyr agored sy'n rhoi cyfle i bobl i brofi pethau newydd, yna byddwn yn gofyn i'r rhai a fu'n cymryd rhan am eu hadborth a gofyn iddynt am bethau eraill yr hoffent eu gwneud."

Anogwyd trigolion Cartref Dyfi i ddefnyddio hanner uchaf eu cyrff i greu basgedi crog a phlannu mewn potiau ac ati, a bu'r rhai hynny sy'n fwy hyderus ar eu traed yn mwynhau gweithio yn yr ardd. Roeddem am i'r gweithgaredd fod yn rhywbeth i bawb ymuno ynddo, er gwaethaf unrhyw anawsterau corfforol.

Yn achos trigolion cartrefi gofal gellir gorchfygu'r rhwystrau i fod yn actif yn eithaf rhwydd pan fydd y gofal yn cael ei gynyddu gan ymwelwyr megis Kate. Mae Kate wedi mwynhau gweithio a dod i adnabod trigolion Cartref Dyfi a bu nifer ohonynt yn frwdfrydig iawn ynglyn â'r gwaith.

Dywed Teresa "pe dymuna unrhyw un sy'n byw yn lleol ymuno â Mentro Allan a bod yn fwy actif yn yr awyr agored, cysylltwch â ni yn ecodyfi ym Machynlleth ar 01654 703965 neu mentro.allan@ecodyfi.org.uk; we: www.mentroallan.co.uk

Brig y dudalen