ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Dysgu Actif? Cerddwch yn Gymraeg


english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release29/5/2008

Erbyn hyn gall Dysgwyr Cymraeg yn ardal Machynlleth gerdded wrth siarad: Mae'r tiwtor, Margaret Teare, a'i gyr, Keith, sy'n arwain teithiau cerdded wedi ymuno â Mentro Allan i drefnu teithiau cerdded natur trwy gydol yr haf.

Prosiect ymchwil iechyd sy'n cael ei ariannu gan y Loteri Fawr yw Mentro Allan Bro Ddyfi, sy'n anelu at ddarganfod - a goresgyn - y rhwystrau i fod yn actif yn yr awyr agored.

Mae'r prosiect lleol yma'n cynnwys ystod eang o weithgareddau o arddio i ioga, ac o feicio i sgiliau goroesi, i gyd wedi'u trefnu'n rhad ac am ddim i bobl sy'n dymuno bod yn actif yn yr awyr agored.

Mae'n cael ei gydlynu gan ecodyfi.

Eglurodd Cydlynydd Mentro Allan, Teresa Walters, y meddylfryd y tu ôl i Gerdded yn Gymraeg.

"Fel y byddech yn disgwyl, mae llawer o'n cyfranogwyr yn siarad Cymraeg yn rhugl neu'n Ddysgwyr Cymraeg sy'n dymuno treulio mwy o amser gyda siaradwyr iaith gyntaf," meddai.

"I rai pobl, mae dysgu Cymraeg yn bwysig iawn, ond dydyn nhw ddim yn mwynhau awyrgylch ystafell ddosbarth." Aeth ymlaen i ddweud bod siarad Cymraeg, bod yn fwy ffit a dysgu mwy am hanes lleol a natur yn uchel ar eu rhestr "o bethau y dylem eu gwneud", felly mae Mentro Allan wedi rhoi'r cwbl mewn un pecyn.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno â'r ystafell ddosbarth symudol hon gysylltu â Keith neu Margaret yn uniongyrchol ar 01650 521843.

Cynhelir y teithiau cerdded bob rhyw ddwy wythnos - ac fe drefnwyd y pedair nesaf ar gyfer dau Ddydd Llun, sef Mehefin 9fed, a Gorffennaf 7fed, a dau Ddydd Sadwrn, sef Mehefin 21ain a Gorffennaf 19eg.

Ychwanegodd Teresa na ddylai pobl bryderu nad ydynt yn ddigon ffit ar gyfer y cerdded.

Mae teithiau o wahanol bellteroedd wedi'u trefnu a dydyn nhw ddim yn anodd - a bydd y cerdded ar gyflymder sy'n gyfforddus ar gyfer pob un o'r cyfranogwyr.

Awgrymodd y dylai pobl ei ffonio os ydynt yn teimlo'n ansicr ynglyn â hyn.

Mae gweithgareddau eraill Mentro Allani'w gweld ar galendr digwyddiadau ecodyfi.

Nodiadau ar gyfer y golygyddion:

Mae Mentro Allan yn gasgliad o brosiectau yng Nghymru a gefnogir gan Gronfa'r Loteri Fawr a phartneriaeth genedlaethol.

Mae'r rhaglen yn targedu grƎpiau penodol sydd, ar y cyfan, yn llai actif na'r boblogaeth ehangach.

Bydd pob un o'r prosiectau yn cael eu hariannu am bedair blynedd i gynyddu lefel gweithgaredd corfforol ei grƎp targed, gan wneud y defnydd gorau o'r amgylchedd awyr agored naturiol lleol sy'n agos i'w cartrefi.

Bydd y rhaglen yn casglu tystiolaeth o effeithiolrwydd yr ymyrraeth benodol a gynlluniwyd i gynyddu'r lefel o weithgaredd corfforol sydd o fudd i iechyd y bobl dan sylw.

Mentro Allan Bro Ddyfi Venture Out: e-bost mentro.allan@ecodyfi.org.uk

Bydd rhaglen Mentro Allan Bro Ddyfi yn annog unigolion yn Nyffryn Dyfi i gynyddu eu lefel o weithgaredd corfforol, trwy ddefnyddio lleoliadau amrywiol yn yr amgylchedd awyr agored naturiol.

Ein prif grƎp targed yw'r boblogaeth eang sy'n dioddef o eithrio gwledig ac yn treulio llawer o'u bywydau ar eu heistedd.

Rydym yn pryderu fwyaf am yr unigolion hynny sy'n dioddef o unigrwydd ac eithrio cymdeithasol o ganlyniad i anhwylustod i gyrraedd at wasanaethau a phatrwm poblogaeth wasgaredig, er y bydd y gweithgareddau ar gael i'r trigolion i gyd.

Ein grƎpiau targed nesaf yw: rhieni plant ieuainc, yn enwedig rhieni ieuainc; pobl ieuainc 11-18 oed, yn enwedig y rhai hynny sydd mewn peryg o ddioddef o eithrio cymdeithasol; pobl sydd û phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig y rhai hynny sydd heb gysylltiad cyson û grƎpiau cefnogi a gwasanaethau.

Byddwn yn targedu trigolion ardaloedd Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair, ond bydd croeso yn ogystal i drigolion rhannau eraill o'r dyffryn i ymuno û ni.

Ecodyfi yw'r corff arweiniol ac mae partneriaid eraill yn cynnwys: Gweithredu Cymunedol Machynlleth a'r Cylch; Coed Lleol; US Mach; Mudiad Ysgolion Meithrin, Sir Drefaldwyn; Chwarae Sir Drefaldwyn; Prosiect Anghydraddoldebau mewn Iechyd NPHS; Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi; Cyngor Sir Powys; Tir Coed; Cychwyn Cadarn NCH; PAVO.

Ann's of Newtown

Mae Ann's wedi bod yn edrych ar čl bronnau Machynlleth dros y 18 mlynedd ddiwethaf.

Cyswllt: Ann Lloyd-Jones, Ann's of Newtown, 9 Heol Maengwyn, Machynlleth, Powys. 01654 703059.

Gwybodaeth Bellach:

Brig y dudalen