Cadw'n Heini? Eich bronnau yn bryder? |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
![]() Lluniau: Yn y llun yn dathlu'r cynllun mae Delyth Richards (Mentro Allan), Ann Lloyd-Jones (Ann's of Newtown), Imogen Pettitt (Mentro Allan), Louise Hughes (Gwirfoddolwraig Ecodyfi) a Gwenno Davies (ecodyfi). Mae Bras Chwaraeon yn bwnc sy'n agos iawn at galon Imogen Pettitt ac mae ganddi reswm personol dros drefnu bod ei phrosiect hi, Mentro Allan, a'r siop dillad isaf lleol yn cydweithio."Roeddwn yn arfer gwneud llawer o redeg traws gwlad yn fy arddegau, tan i 'nghorff ddechrau datblygu a'm rhwystro," medd Imogen. "Golygodd yr anghyfforddusrwydd a'r embaras o ddal fy mronnau yn dynn at fy mrest i arbed poen i mi roi'r gorau i redeg yn ogystal û chwaraeon eraill," ychwanegodd. "Pe byddwn yn ymwybodol o fras chwaraeon y pryd hynny efallai y byddai'n stori hollol wahanol!" Daeth siop Ann's, 9 Heol Maengwyn, Machynlleth, a Mentro Allan Bro Ddyfi (prosiect ymchwil i iechyd) ynghyd i gynnig gostyngiad o 40% ar fras chwaraeon 'Tri Action' Triumph i holl gyfranogwyr Mentro Allan. Daw hyn û'r pris i lawr o £20 i £12 a'r peth da yw y gall unrhyw un fod yn gymwys ar gyfer y gostyngiad trwy fynychu pedwar o weithgareddau Mentro Allan mewn unrhyw gyfnod o chwe mis. "Mae'r Tri-Action ar gael ymhob maint, o 32" - 42", o gwpan B i F. Maent hefyd ar gael mewn du neu mewn gwyn. Galwch i'w gweld neu i'ch ffitio am ddim," meddai Ann Lloyd-Jones. Mae gweithgareddau Mentro Allan yn hwyliog ac am ddim. Mae rhai'n agored i bawb a rhai wedi eu hanelu at grƎpiau penodol, e.e. mamau sydd newydd roi genedigaeth neu bobl ieuainc rhwng 11 a 18 oed. Mae rhywbeth i bawb. Ceir rhaglen lawn ar www.ecodyfi.org.uk/mentroallan Mae'r llun ychwanegol yn dangos Imogen ac Ann yn cyfnewid tocyn gostyngiad. Nodiadau ar gyfer y golygyddion:Mae Mentro Allan yn gasgliad o brosiectau yng Nghymru a gefnogir gan Gronfa'r Loteri Fawr a phartneriaeth genedlaethol. Mae'r rhaglen yn targedu grƎpiau penodol sydd, ar y cyfan, yn llai actif na'r boblogaeth ehangach. Bydd pob un o'r prosiectau yn cael eu hariannu am bedair blynedd i gynyddu lefel gweithgaredd corfforol ei grƎp targed, gan wneud y defnydd gorau o'r amgylchedd awyr agored naturiol lleol sy'n agos i'w cartrefi. Bydd y rhaglen yn casglu tystiolaeth o effeithiolrwydd yr ymyrraeth benodol a gynlluniwyd i gynyddu'r lefel o weithgaredd corfforol sydd o fudd i iechyd y bobl dan sylw. Mentro Allan Bro Ddyfi Venture Out: e-bost mentro.allan@ecodyfi.org.uk Bydd rhaglen Mentro Allan Bro Ddyfi yn annog unigolion yn Nyffryn Dyfi i gynyddu eu lefel o weithgaredd corfforol, trwy ddefnyddio lleoliadau amrywiol yn yr amgylchedd awyr agored naturiol. Ein prif grƎp targed yw'r boblogaeth eang sy'n dioddef o eithrio gwledig ac yn treulio llawer o'u bywydau ar eu heistedd. Rydym yn pryderu fwyaf am yr unigolion hynny sy'n dioddef o unigrwydd ac eithrio cymdeithasol o ganlyniad i anhwylustod i gyrraedd at wasanaethau a phatrwm poblogaeth wasgaredig, er y bydd y gweithgareddau ar gael i'r trigolion i gyd. Ein grƎpiau targed nesaf yw: rhieni plant ieuainc, yn enwedig rhieni ieuainc; pobl ieuainc 11-18 oed, yn enwedig y rhai hynny sydd mewn peryg o ddioddef o eithrio cymdeithasol; pobl sydd û phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig y rhai hynny sydd heb gysylltiad cyson û grƎpiau cefnogi a gwasanaethau. Byddwn yn targedu trigolion ardaloedd Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair, ond bydd croeso yn ogystal i drigolion rhannau eraill o'r dyffryn i ymuno û ni. Ecodyfi yw'r corff arweiniol ac mae partneriaid eraill yn cynnwys: Gweithredu Cymunedol Machynlleth a'r Cylch; Coed Lleol; US Mach; Mudiad Ysgolion Meithrin, Sir Drefaldwyn; Chwarae Sir Drefaldwyn; Prosiect Anghydraddoldebau mewn Iechyd NPHS; Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi; Cyngor Sir Powys; Tir Coed; Cychwyn Cadarn NCH; PAVO. Ann's of NewtownMae Ann's wedi bod yn edrych ar čl bronnau Machynlleth dros y 18 mlynedd ddiwethaf. Cyswllt: Ann Lloyd-Jones, Ann's of Newtown, 9 Heol Maengwyn, Machynlleth, Powys. 01654 703059. Gwybodaeth Bellach:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||