|
Ymaelodwch
ag ecodyfi drwy! Rydym
am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i
Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.
Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore
tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu
prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein
lleoliad - map mwy]
|
6/12/2004
Dydd
Sadwrn Rhagfyr 4ydd, agorodd Mr Lembit Opik AS y cynllun Hafan Ieuenctid.
Uchafbwynt 4 mlynedd o waith yw'r cynllun, gyda phobl ifanc Dyffryn Dyfi wrth y llyw i raddau helaeth.
Rhannwyd Tystysgrifau Cyflawniad i'r bobl ifanc fu'n gweithio ar y cynllun gan Mr Lembit Opik AS.
Yn dilyn hyn cafwyd bwyd ac adloniant.
Er fod y cynllun wedi darparu lle chwarae â wyneb caled, lloches sy'n gydnaws â'r amgylchedd
ac ardal natur ym Machynlleth, roedd ei gylch gwaith yn cynnwys llawer mwy na hyn.
"Mae'r sgiliau byw a ddysgwyd gan y bobl ifanc fu wrthi yr un mor bwysig," yn ôl ysgrifennydd
yr Hafan Ieuenctid, Clive Thomas.
Cam nesaf
y cynllun fydd darparu rhywfaint o offer sglefrfyrddio.
Bydd cyfnod o ymgynghori â'r bobl ifanc ynglyn â'r hyn yr hoffent ei gael, yna bydd
y broses o sicrhau nawdd a darparu offer yn digwydd.
Rydym yn cydnabod cyfraniad pawb ar ba ffurf bynnag, ond yn arbennig felly Ecodyfi am eu cefnogaeth
a'u cymorth.
Estynnwn lawer o ddiolch hefyd i Gronfa Amgylcheddol Awdurdod Datblygu Cymru wnaeth ddarparu rhan
o'r nawdd ar gyfer y cynllun, Ymddiriedolaeth y Tywysog a chynllun Enfys (sef rhan o raglen Mannau
Gwyrdd a Chymunedau Cynaliadwy y Gronfa Loteri Fawr, a weinyddir yng Nghymru gan Gyngor Gweithredu
Gwirfoddol Cymru).
|