ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Grwp newydd yn datrys problemau trafnidiaeth

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release21/1/2005

Mae grwp newydd yn Nyffryn Dyfi yn benderfynol o gael pobl i gyrraedd gartref yn saff ar ôl noson allan.

Os na fydd hyn yn llwyddo i berswadio cwmnïau bysus i redeg gwasanaeth amserlen, bydd rhaid ymchwilio mewn i opsiynau newydd, gan gynnwys bysus sy'n rhedeg pan fo angen yn unig a rhannu tacsis.

Bydd grwp Defnyddwyr Trafnidiaeth Cyhoeddus Dyffryn Dyfi yn cael ei ffurfio mewn cyfarfod yn y Tabernacl, Machynlleth ar Ddydd Iau y 27ain o Ionawr.

Y bwriad yw rhoi llais i ddefnyddwyr bysus a thrêns lleol.

Y rhain yw'r bobl sydd yn gwybod pa mor werthfawr yw'r gwasanaethau a sut byddai modd eu gwella - yn aml heb unrhyw gost ychwanegol, er enghraifft pan fo gwasanaethau yn cael eu hamseru er mwyn cysylltu â gwasanaethau eraill.

Jan Morgan o Gorris yw un o'r bobl y tu ôl i'r fenter.

Mae'n cydnabod swyddogaeth yr Awdurdodau Lleol wrth gydlynu'r gwasanaethau (yn ogystal â'u sybsideiddio) ond dywedodd eu bod angen gwybodaeth fanwl y defnyddwyr "Mewn theori, mae trên o'r Amwythig yn cyrraedd Machynlleth am 9:16 � mewn amser i gyrraedd trên 9:10 i Gorris," dywedodd.

"Mae unrhyw berson sy'n defnyddio'r trên yn gwybod nad ydyw hyn yn gweithio o hyd."

Un o dargedau'r grwp yw annigonolrwydd trafnidiaeth gyhoeddus min nos, er enghraifft, pobl ifanc sydd am dreulio noson allan yn Aberystwyth neu unrhyw un sydd am fynd yn nôl o Fachynlleth i un o'r pentrefi.

Cytunodd un o'r trefnwyr eraill, Nat Taplin o Gorris Uchaf, nad ydyw rhedeg bysus hanner gwag yn mynd i ddatrys y broblem. "Mae angen fwy o ddychymyg arnom wrth ddefnyddio bysus a thacsis a dod i wybod beth sydd angen ar y teithwyr," dywedodd.

"Efallai fod hyn yn golygu y byddai angen i deithwyr ffonio i archebu bws o flaen llaw, ac mae'n bosib taw cost tocyn normal byddai'r ffi i dalu."

Bydd y grwp newydd yn cyfrannu at yr ymdrechion i wella gwasanaethau rheilffordd ac Arriva wrth gynnig tocynnau cyfnewidiol.

Fel hyn, bydd modd i deithwyr fynd un ffordd ar y bws a theithio nôl ar y trên.

Y bwriad yw cael mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth wella'r gwasanaeth a'r wybodaeth.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yng nghyntedd y Tabernacl.

Bydd yn cyd-fynd â'r gwasanaeth bysus wrth gychwyn am 7:00 yr hwyr ac yn gorffen am 9:00 yr hwyr.

Bydd gostyngiadau siop a theithio yn cael eu rafflo i'r rhai a fydd yn arwyddo ar y noson.

Am fwy o wybodaeth:

Andy Rowland: Rheolwr Ecodyfi, 01654 703969

Nat Taplin: 01654 761463

Jan Morgan: 01654 761473

Brig y dudalen