Ymddiriedolaeth tir cymunedol yn lansio cystadleuaeth logo |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Ymddiriedolaeth tir cymunedol yn lansio cystadleuaeth logoMae grŵp cymunedol uchelgeisiol ym Mro Ddyfi yn cynnig cyfle i egin ddylunwyr greu ei logo – ond nid oes dim amser i’w golli. Ailsefydlwyd Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi mewn cyfarfod cyhoeddus ar 1af Gorffennaf ym Machynlleth. Amcan yr Ymddiriedolaeth yw darparu tai fforddiadwy a chynaliadwy a buddiannau cymunedol eraill, drwy gyrchu a dal tir ac eiddo er mwyn ffyniant tymor hir Bro Ddyfi. Cwrddodd y Grŵp Llywio newydd ar 12fed Gorffennaf a chlustnodi dau safle sy’n flaenoriaethau gweithredu. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn fodlon mewn egwyddor drosglwyddo’i safle yn Esgairgeiliog/Ceinws fel y gellir ei ddefnyddio mewn modd mwy buddiol. Mae angen rhoi’r achos busnes a’r cyllid at ei gilydd. Yr ail safle sydd gan yr Ymddiriedolaeth mewn golwg yw hen Ysgol Gynradd Machynlleth, y trosglwyddwyd nifer o swyddi Llywodraeth Cynulliad Cymru ohoni i Aberystwyth yn ddiweddar. Mae’r adeilad yn eiddo i Gyngor Sir Powys, sy’n trafod eu polisi ynghylch safleoedd diangen ar ddiwedd mis Gorffennaf. Ymhlith posibiliadau eraill mae llecyn bach yn ymyl y tai a godwyd yn ddiweddar yn Llanwrin, a allai fod yn addas at ddibenion chwarae neu arddio. Gwahoddir Cynghorau Cymuned ledled Bro Ddyfi, o Aberdyfi i Lanbrynmair ac o Ddinas Mawddwy i Daliesin, i awgrymu safleoedd eraill. Gwahoddir darllenwyr i anfon eu syniadau a’u dyluniadau ar gyfer logo at yr Ymddiriedolaeth yn Nhŷ Bro Ddyfi, Y Plas, Machynlleth SY20 8ER neu at andy.rowland@ecodyfi.org.uk erbyn 15th Awst. Gallant fod ar bapur neu ar ffurf electronaidd. Bydd y dyluniad mwyaf addas yn ennill £50 mewn tocynnau ar gyfer siopau lleol ac fe gaiff ei addasu’n logo swyddogol. Ceir y telerau a’r amodau llawn o dan . Mae’r Ymddiriedolaeth yn chwilio am bobl i gyflawni’r weledigaeth hon. Cynhelir cyfarfod am 7.30yh ar nos Iau, Gorffennaf 1af yng Nghanolfan Gofal Machynlleth ar Forge Road i greu Grŵp Llywio. Os ydych yn methu dod, ond yn awyddus i gymryd rhan , yna ffoniwch Andy Rowland ar 01654 703965 neu e-bostiwch andy.rowland@ecodyfi.org.uk. Mae yna gyfle hefyd i ddylunio logo sy’n adlewyrchu’r weledigaeth. Y dyddiad cau ydy’r 2 o Awst a mae manylion ar gael trwy www.ecodyfi.org.uk. Rhagor o wybodaeth:
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||