Cyngor Cymuned yn Gweithredu er mwyn Creu Swyddi |
|
|
Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mae Cyngor Cymuned Ceulanamaesmawr ac ecodyfi wedi rhyddhau canlyniadau cychwynnol astudiaeth ar greu swyddi yn Nhalybont.Dengys yr astudiaeth fod galw am ofod ar gyfer swyddfeydd a gweithdai yng ngogledd Ceredigion. Mae'r Cyngor yn awr am gynnwys gweddill y gymuned yn y broses o benderfynu a ddylid darparu unedau addas yn y pentref ac os felly sut y dylid gwneud hynny. Ychydig flynyddoedd yn ôl prynwyd adeilad gwag yn Nhalybont gan grwp o drigolion. Y bwriad oedd ei addasu ar gyfer pobl leol oedd yn awyddus i sefydlu busnesau. Aeth y cynllun i'r gwellt, ond yn sgil pryderon presennol ynghylch codi tai mae'r syniad wedi ailgodi. Mae Cynghorwyr yn awyddus i greu cyfleoedd gwaith yn y pentref er mwyn cydbwyso unrhyw ehangu a all ddigwydd. Maent yn gwybod fod cael lleoliad addas am rent rhesymol yn bwysig iawn i bobl a chanddynt syniad busnes ac yn y gorffennol mae rhai pobl wedi gorfod gadael y pentref. Gallai Talybont ffurfio menter gymunedol i ddarparu gweithdai a swyddfeydd, un ai trwy addasu adeilad neu adeiladu o'r newydd. Gyda nawdd ariannol gan Awdurdod Datblygu Cymru bu i ecodyfi (Partneriaeth Eco Dyffryn Dyfi) gyflogi ymgynghorwyr i hwyluso'r broses. Mae'r ffordd mae'r prosiect yn cynnwys y gymuned yn y broses o greu swyddi cynaliadwy yn gweddu'n dda ag amcanion ecodyfi. Partneriaeth Egin o Gaernarfon yw'r ymgynghorwyr. Bu iddynt holi busnesau presennol ynghylch eu hanghenion datblygu, edrych am bobl a chanddynt ddiddordeb mewn cychwyn busnesau a siarad ag asiantaethau cefnogi busnesau ac arweinwyr cymunedol. Bu i Egin ganfod fod rhai busnesau presennol yn awyddus i ehangu ac y byddai rhai yn ystyried symud i Dalybont er mwyn gwneud hynny. Byddai rhaid i weithdai fod o fewn cyrraedd rhwydd i'r A487 felly gwell fyddai cael lleoliad ar gyrion y pentref. Byddai rhaid i swyddfeydd fod o safon uchel, a gorau oll be baent yn cydymffurfio â safonau ecolegol a byddai rhaid i unrhyw fusnes sy'n gobeithio denu twristiaid neu ymwelwyr wrth gyfleusterau parcio digonol. Mae dau nod i ran nesaf y gwaith. Y cyntaf yw darganfod a oes yna bobl leol a fyddai'n awyddus i gychwyn busnes pe bai lleoliad addas ar gael. Yr ail yw canfod pa mor awyddus yw'r gymuned i weld y math hwn o ddatblygiad yn Nhalybont. Gyda hyn mewn golwg bydd digwyddiad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Nhalybont ar ddydd Llun 29 Medi, lle gall pobl gwrdd â chynghorwyr busnes, y trefnwyr a'r ymgynghorwyr yn ogystal â chael golwg ar syniadau cychwynnol ynghylch sut y byddai'r datblygiad yn edrych. Gwybodaeth bellach:Yr adroddiad [Dogfen Word, 168kB] |
||||||||||||||||||||||||||||||||||