Myfyrwyr Aberystwyth yn cynllunio ar gyfer
|
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Treuliodd myfyrwyr gradd cwrs Rheoli Twristiaeth Prifysgol Cymru Aberystwyth ddiwrnod cyfan yng nghanol tre Machynlleth Ddydd Iau, Chwefror 12 yn gwneud ymchwil cefndir ar gynlluniau twristiaeth y cylch, er mwyn eu helpu i ddatblygu'u cynlluniau marchnata twristiaeth arfaethedig ar gyfer yr ardal. Bu 12 o fyfyrwyr o'r drydedd flwyddyn, gyda Ray Youell, Darlithydd Twristiaeth ac ysgrifennwr, ar ymweliad ag ecodyfi, cwmni adfywio cymunedol Bro Ddyfi. Buont yn trafod yr hyn y mae darparwyr lleol ar gyfer twristiaeth yn ei wneud i farchnata'r ardal i'w hymwelwyr gyda Teresa Walters, Swyddog Twristiaeth ecodyfi, a Thea Platt, gwirfoddolwr yno. Cafwyd trafodaeth ar amryw o gynlluniau, yn cynnwys marchnata twristiaeth gweithgareddau, cynlluniau hyrwyddo beicio mynydd a cherdded, a chynlluniau siopio lleol. Eglurodd Teresa a Thea bod y rhain yn ddibynnol ar gefnogaeth Siambr Fasnach Machynlleth a llu o ddarparwyr lleol, yn ogystal â nawdd gan Awdurdod Datblygu Cymru, y Bwrdd Croeso, awdurdodau lleol a ffynonellau eraill. Bwr grwp - gyda rhai yn eu plith na fuont ym Machynlleth ôr blaen - hefyd i weld atyniadau lleol, Celtica âr Ganolfan Dechnoleg Amgen, ac yn siop gigydd Will Lloyd er mwyn cael gwybod os oedd cig a fagwyd yn lleol yn boblogaidd gydag ymwelwyr. "Ydi'n bendant!" oedd yr ateb. "Ar waetha'r ffaith mai defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd ar gyfer traethodau blwyddyn olaf mae'r myfyrwyr, gobeithiwn y caiff rhai o'u syniadau eu datblygu'n gynlluniau marchnata gwirioneddol gan ecodyfi a'r darparwyr yn y diwydiant twristiaeth y byddant yn gweithio â nhw," meddai Ray. Yr oedd Teresa o'r un farn: "Os ydi'r syniadau'n rhai da, byddwn yn sicr o fanteisio arnyn nhw!" |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||