ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Cinio i lansio Grwp Bwyd Araf

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release22/03/2007

Mae aelodau o'r grwp newydd ‘Bwyd Araf' ym Mro Ddyfi yn cynnal Cinio Lansio ar Ddydd Iau 12fed o Ebrill am 1.30 o'r gloch er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r mudiad ‘Bwyd Araf' ac i hybu bwyd sydd wedi'i gynhyrchu'n lleol.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynnyrch lleol o ansawdd da i ymuno.

Yn rhan o'r grwp mae'r cynhyrchwyr lleol Birchgrove Eggs o Drawscoed, Porth Farm Foods o Gaersws, stondin farchnad Ffres a Lleol o Fachynlleth yn ogystal â phrif adwerthwyr bwydydd Machynlleth, Blasau Delicatessen, Canolfan y Dechnoleg Amgen a Gwesty'r Wynnstay. Yn gysylltiedig hefyd mae Arbedwyr Hadau Bro Ddyfi, Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru ac ecodyfi, cwmni adfywio cymdeithasol Dyffryn Dyfi. Eu nod yw cydweithio i greu statws 'Bwyd Araf' yn yr ardal.

Bwyd Araf

Dechreuodd y mudiad Bwyd Araf yn yr Eidal yn yr wythdegau. Mae'r 80,000 o aelodau byd eang yn glynu wrth yr ymrwymiad i weithio yn erbyn Bwydydd Cyflym. Maent yn hybu traddodiadau bwydydd lleol a magu diddordeb pobl yn yr hyn sy'n cael ei fwyta, o le y daw, sut flas sydd arno a sut mae ein dewis o fwyd yn cael effaith ar weddill y byd.

Yn dilyn esiampl grwpiau Bwydydd Araf cenedlaethol eraill, mae aelodau grwp Bro Ddyfi wedi ffurfio 'confifiwm' ar gyfer trafodaethau. Pwrpas hyn yw annog sgyrsiau bywiog ar y pwnc o fwydydd da, glân a theg wedi'u cynhyrchu'n lleol.

Dywedodd arweinydd y 'confifiwm', Gareth Johns, rheolwr gyfarwyddwr a phen-cogydd enwog y Wynnstay, "Rydym eisiau mwy o fwyd wedi'i gynhyrchu'n lleol a mwy o bobl i fwyta'r bwydydd hyn. Bydd hyn yn gwella iechyd, ac yn hwb i ddiwylliant traddodiadol, bioamrywiaeth a'r economi leol, ac wrth gwrs, yn rhoi pleser! Rydym o'r farn mae'r ffordd orau i wneud i hyn ddigwydd yw i ddod â'r bobl allweddol at ei gilydd."

Bu Gareth, ynghyd â Lavinia Vaughan o Porth Farm Foods, yn cynrychioli'r grwp yng Nghynhadledd Genedlaethol Bwydydd Araf yn Turin yn gynharach eleni.

Bydd y grwp yn cynnal cyfarfodydd anffurfiol dros ginio yn y Wynnstay a bwytai eraill yn yr ardal yn ystod y flwyddyn. Dylai cynhyrchwyr lleol sydd am ddod ag enghraifft o'u bwydydd i'r Cinio Lansio gysylltu â Gareth yn y Wynnstay ar 01654 702941.

Mae croeso i unrhyw fwyd-garwyr ymuno â ni yn y lansiad, er ei bod yn hanfodol i archebu lle gyda'r Wynnstay ar 01654 702941.

I ymuno â Chonfifiwm Bwydydd Araf Bro Ddyfi, cysylltwch â Cath Smith, Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru ar 01686 622388 neu e-bost Cath Smith.

Gwybodaeth Bellach:

  • Arweinydd: Gareth Johns o Westy'r Wynnstay, Machynlleth: F: 01654 702941; e-bost: gareth@wynnstay-hotel.com

  • Cath Smith, Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru, e-bost: 01686 622388 Cath Smith.

  • Athroniaeth Bwyd Araf o www.slowfood.com:

    "Credwn fod gan bawb yr hawl sylfaenol i gael pleser ac o ganlyniad y cyfrifoldeb i amddiffyn etifeddiaeth bwyd, traddodiad a diwylliant sy'n gwneud y pleser hwn yn bosib. Mae ein mudiad wedi'i seilio ar y cysyniad o ‘gastronomiaeth ecolegol'; sef cydnabod y cysylltiad cryf rhwng plât a phlaned.
    "Mae Bwydydd Araf yn fwydydd da, glân a theg. Credwn y dylai'r bwyd rydym yn ei fwyta flasu'n dda; dylai gael ei gynhyrchu mewn dull glân sydd ddim yn niweidiol i'r amgylchedd, i les yr anifeiliaid nac i'n iechyd ni; ac y dylai cynhyrchwyr bwyd dderbyn tâl teilwng am eu gwaith.
    "Rydym yn ystyried ein hunain yn gyd-gynhyrchwyr, nid defnyddwyr, oherwydd trwy ddysgu am y modd y mae ein bwyd yn cael ei gynhyrchu a thrwy gefnogi'r cynhyrchwyr, rydym yn dod yn rhan o'r broses ac yn bartner yn y broses o gynhyrchu."

  • ecodyfi - F: 01654 703965; Ebost: Andy Rowland

ecodyfi yw sefydliad adfywio lleol Dyffryn Dyfi. Fe'i cefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy Amgylchedd Cymru ac Adran Menter, Arloesi a Rhyngweithiau.

Brig y dudalen