ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Gwyl Lachar Newydd yn Goleuo'r Nos

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release10/10/2006

Dancer at 2005 lantern festivalBydd strydoedd Machynlleth wedi'u goleuo gan lusernau, tacirc;n gwyllt, ffilmiau ac wynebau rhwng yr 20fed a'r 28ain o Hydref fel y daw Gwyl newydd i'r dref.

Mae Gwyl y Golau - Dyfi Light Fest yn gwyl o gelfyddyd ddiwylliannol, gymdeithasol ac ecolegol - o ffilmiau i ffotograffiaeth bywyd gwyllt, dylunio, cerdded a dawnsio a'r cyfan yn dod i uchafbwynt gydag eiliadau o oleuni llachar - yn cynnwys sioe olau, gorymdaith lusernau a thân gwyllt - ym Machynlleth a'r cylch yng Nghanolbarth Cymru.

Dywedodd trefnydd yr gwyl, Phil Wheeler: "Bydd rhywbeth at ddant pawb, yr hen a'r ifanc, pobl leol ac ymwelwyr. Gallwch wneud eich llusernau eich hunain, ymuno yn y gerddoriaeth a'r dawnsio, cael reid yn y limosîn hir pinc neu gallwch fwynhau gwylio'r ffilmiau a'r tacirc;n gwyllt."

"Llynedd, roedd hanner y bobl yn yr orymdaith lusernau yn bobl o du allan i'r ardal. Eleni rydym yn gobeithio denu mwy."

Bydd yr wythnos yn dechrau am 8 o'r gloch Nos Wener Hydref 20fed ger Cloc Machynlleth gyda sioe olau trawiadol.

Bydd y sioe olau gyda'i thema pinc, ffilmiau yn cael eu dangos tu mewn i'r cloc, tafluniau gwyllt, pelydrau golau a cherddoriaeth yn rhagarweiniad i Ddydd Sadwrn a'r 'Pink Snowballs Awards' sy'n enwog erbyn hyn, ac a ddangoswyd yn genedlaethol yn 2005 pan ymddangosodd yr arwydd 'Hollywood' dros nos ar Benrallt.

Daw'r wythnos i uchafbwynt gyda'r orymdaith lusernau a thân gwyllt ym Machynlleth i gloi'r gweithgareddau. Bydd yr orymdaith lusernau yn dechrau am 6.30pm Ddydd Sadwrn, Hydref 28ain.

Bydd uchafbwyntiau eraill yn cynnwys cerddoriaeth fyw a dawnsio mewn pabell yng nghefn gwesty'r Llew Gwyn ym Machynlleth, ar Hydref 21ain (yn dilyn y gwobrau) a Hydref 27ain a'r 28ain hefyd.

Bydd gweithdai gwneud llusernau a phypedau yn cael eu cynnal ym Mhlas Machynlleth o Ddydd Llun y 23ain tan Ddydd Gwener y 27ain o Hydref, ac yn rhoi cyfle i bawb wneud eu llusernau eu hunain ac ymuno yn yr orymdaith.

Diolch arbennig i Gyngor Sir Powys, Cronfa Risg Cymdeithasol (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru), Ymddiriedolaeth Paul Hamlyn, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyswllt Celf, Debbie Ashton o Oriel Llwyngwril, Y Co-op, Pebyll Roustabout, a'r holl rai a fu'n cynorthwyo ac yn noddi'r prosiect.

Mae manylion llawn yr gwyl i'w cael ar www.ecodyfi.org.uk/gwyl

Dywedodd Teresa Walters o ecodyfi, sy'n cefnogi'r gwyl: "Dyma'r gwyl gyntaf o'i math yng Nghymru ac rydym yn gobeithio ei gweld yn tyfu'n fwy ac yn fwy llachar bob blwyddyn. Ymunwch â ni i oleuo'r nos".

Am fwy o wybodaeth

Phil Wheeler: 01654 761275
Teresa Walters
: 01654 703965

Gwybodaeth i newyddiadurwyr

1. Mae Machynlleth wedi ennill enw fel prifddinas bywyd gwyrdd.. Y mae hefyd draddodiad creadigol cryf yn yr ardal, a bydd llawer o artistiaid a cherddorion lleol i'w gweld yn cymryd rhan yn yr gwyl.

2. Cefnogir yr gwyl gan ecodyfi, y gr_p adfywio cymdeithasol yn Nyffryn Dyfi, ac fe'i noddir gan Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau'n Gyntaf, Cyngor Sir Powys a Phartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru.

3. Lluniau ynghlwm - mwy o luniau ar gael dim ond gofyn.

4. Yn 2005 fe dynnodd arwydd Hollywood, a ymddangosodd ar fryn y tu ôl i dref Machynlleth, sylw'r wasg cyn belled i ffwrdd â Ffrainc. Disgwylir rhywbeth tebyg eleni eto.

Yn y 'Pink Snowball Awards' eleni bydd ymwelwyr annisgwyl yn ymddangos sef 15 o bobl yn eu harddegau o ardal Llwyngwril/Tywyn sydd wedi gwneud casgliad o 15 o ffilmiau byrion gyda'r artist fideo Emma Macey. Mae FFILM 15 wedi bod yn bartneriaeth greadigol rhwng Cyfeillion Oriel Llwyngwril, Roedd Cronfa Risg Cymdeithasol ac Emma i ddatblygu rhaglen o weithgareddau i ysgogi pobl ifanc i ymgymryd â gwneud ffilmiau a thechnoleg fel ffordd i gyfleu eu profiadau a'u syniadau. Bydd y 15 ffilm yn cael eu cynhyrchu i DVD argraffiad cyfyngedig fydd yn cael ei ddangos drwy gydol wythnos yr gwyl.

PROSIECT ANIMEIDDIO

Mae'r artist fideo, Emma Macey, wedi ymuno â Suzy Kemp a Jo Munton o Vagabondi Puppets hefyd, mewn prosiect i ddysgu disgyblion o Ysgol Gynradd Machynlleth sut i greu cyfres o straeon pypedau wedi'u hanimeiddio. Maent wedi'u creu trwy ddefnyddio pypedau wedi'u gwneud â llaw ac animeiddio 'stop frame', mae gan y straeon deimlad o gynhyrchiad byw gydag elfen o gysuron corfforol. Ariannwyd y prosiect gan Ymddiriedolaeth Paul Hamlyn, Cyngor Celfyddydau Cymru, Mach Fringe, y Co-op a Chyswllt Celf.

Brig y dudalen