Gwyl Samhain wedi'i Hachub! |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Gyda chymorth y gymuned, mae'r noson lusernau YMLAENEr gwaethaf llawer o ansicrwydd yn ystod mis Medi, yr wythnos hon cyhoeddodd y trefnwyr bod dathliadau cymunedol y Samhain ym Machynlleth yn ddiogel, ac yn cael eu cynnal Ddydd Sadwrn, Hydref 29ain, 2005. Mae'r prif ddigwyddiad, sy'n cynnwys gorymdaith lusernau trwy strydoedd Machynlleth, perfformiad tân wedi'i seilio ar fytholeg blwyddyn newydd yr hen Geltiaid, ac arddangosfa tân gwyllt drawiadol, wedi'i lwyfannu ers 4 blynedd bellach, ac wedi cynnwys ystod amrywiol o gelfyddydau, grwpiau cymunedol a grwpiau ieuenctid. Yn y gorffennol mae'r grwp cymunedol Elemental Earth wedi derbyn grantiau, casglu gwirfoddolwyr a threfnu gweithdai gwneud llusernau gydag artistiaid lleol yn y gymuned ac yn yr ysgolion yn ystod yr wythnosau cyn y digwyddiad. Ond gwasgarodd y grwp yn gynharach eleni gan adael y digwyddiad heb arweinwyr. Dechrau mis Medi sylweddolodd staff Celtica a grwp adfywio cymunedol ecodyfi bod y digwyddiad dan fygythiad a lansiwyd apêl lwyddiannus am arian a gwirfoddolwyr. Mae busnesau unigol megis Kelvin Jenkins, Gemydd, a Tincan wedi ymuno â grwpiau fel Mach Fringe a Phwyllgor Carnifal Machynlleth trwy addo'u cefnogaeth, ac mae Celtica wedi cynnig ariannu'r arddangosfa dân gwyllt. Mae unigolion eraill wedi cysylltu ag ecodyfi (01654 703965) i gynnig eu hunain fel arlunwyr a stiwardiaid gwirfoddol. Ar ben hyn, mae arian gan Gyngor Sir Powys ac Awdurdod Datblygu Cymru wedi galluogi'r trefnyddion i gynllunio wythnos gyfan o weithdai gwneud llusernau ac i gyflogi cydlynydd profiadol - Natasha Duggan, yn flaenorol o Elemental Earth - i sicrhau bod y dathliadau'n rhedeg yn esmwyth. Dywed Natasha "Er bod y digwyddiad ar raddfa lai na mewn blynyddoedd a fu, rydym yn hynod o falch o fedru cadarnhau bod dathliadau'r Samhain yn digwydd eto eleni ym Machynlleth. Hoffem ddiolch i bawb a gynigiodd gymorth a chefnogaeth yn ogystal ag annog unrhyw un arall gydag amser neu arian i'w sbario i gysylltu â ni." Gellir cysylltu â Natasha trwy ecodyfi ar 01654 703965. Am fwy o wybodaethAndy Rowland, Rheolwr ecodyfi 01654 703965 Nodiadau i Olygyddion
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||