ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Lansio profion clytiau go iawn ecodyfi

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy!Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release22/7/2004

Mae pump o deuluoedd wedi'u dewis gan ecodyfi i roi prawf ar amrywiaeth o glytiau go iawn yn ystod y deuddeng mis nesaf.

Mae clytiau go iawn yn olchadwy, yn glyd ac yn ffasiynol o'u cymharu â chlytiau tafladwy, a byddant yn arbed arian i'r teulu ac yn lleihau ein sbwriel.

Mae Grace Bailey a Claudine Goganian, gwirfoddolyddion gydag ecodyfi, yn gweithio law yn llaw â'r teuluoedd, gan roi cyngor a sicrhau bod popeth yn mynd yn iawn.

O'u rhan nhw, bydd y teuluoedd sy'n cymryd rhan yn llenwi holiaduron ac yn cyflwyno sylwadau i ecodyfi ar effeithiolrwydd y clytiau o'u cymharu â rhai tafladwy.

Gofynnwyd hefyd iddynt gymharu'r gwahanol fathau o glytiau go iawn.

Bydd y wybodaeth yma o werth mawr i ecodyfi a chyrff eraill sy'n cynghori ar glytiau go iawn.

Prynwyd y clytiau gan gwmni newydd Cymreig sydd â'i gartref yn Nebo, Gwynedd.

Mae 'BabyKind' yng ngofal Helen a Mark Burr, dau sy'n frwd iawn ynglyn â chlytiau go iawn ac yn gweld y twf posib sydd i'r maes yn y farchnad Gymreig.

"Gallwn gynnig y mathau gorau, a ninnau wedi cael profiad o'u defnyddio nhw i gyd gyda'r plant", meddai Helen.

Roedd y teuluoedd sy'n cymryd rhan yn fodlon iawn ar eu clytiau newydd a theimlent yn falch o fod yn rhan o gynllun fyddai'n lleihau ein sbwriel.

Yn ôl Sarah Keen a Rory Calder, sydd â baban newydd-anedig, "Rydym am ddefnyddio clytiau go iawn gan ei bod yn chwith meddwl am glwt fydd am ein baban am ychydig oriau yn unig yn llygru ein claddfeydd am yn agos i 500 mlynedd".

Rhoddwyd nawdd i'r cynllun gan Amgylchedd Cymru gyda chefnogaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Maent eisoes yn cefnogi ymgyrch glytiau go iawn genedlaethol drwy gyfrwng Cymru Gynhaliol.

Mae ecodyfi yn gweithio ar y cyd ag ymgyrchoedd clytiau go iawn Powys a Cheredigion.

Os am wybod mwy am glytiau go iawn, ffoniwch Tom O'Kane yn ecodyfi ar 01654 703965.

Bydd modd iddo drefnu i un o'u gwirfoddolyddion profiadol ddod i annerch grwpiau, neu roi cyngor i unigolion ar unrhyw fater cysylltiedig â chlytiau go iawn.

Cewch fwy o wybodaeth am ymgyrch ecodyfi yn erbyn gwastraff yn www.ecodyfi.org.uk/waste/

Rhagor o wybodaeth:

Tom O'Kane, Swyddog Lleihau Gwastraff ecodyfi 01654 703965

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965.