|
13/06/2005
Newid
clytiau yn newid y sbwriel sy'n mynd i gladdfeydd Cymru
Bu mamau a thadau Dyffryn Dyfi wrthi'n newid clytiau golchadwy i sicrhau newid yn y sbwriel sy'n
mynd i gladdfeydd Cymru, ar waetha'r amheuon a godwyd yn ddiweddar gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Mae rhai hyd yn oed wedi dewis compostio'u clytiau yn yr ardd gefn!
Yr wythnos hon rhyddhaodd ecodyfi ganlyniadau dros dro eu 'prawf clytiau go iawn'.
Ymysg y sylwadau cadarnhaol allweddol a gafwyd oedd casgliad y rhai sy'n cymryd rhan bod clytiau
go iawn yn llawer mwy cost effeithiol na rhai tafladwy.
Roedd teimlo'n fodlon oherwydd nad oedd cymaint o wastraff yn mynd i'r gladdfa yn elfen arall.
Un o sgîl-effeithiau hyn oedd peri i deuluoedd ystyried dulliau eraill o leihau gwastraff
yn y cartref ac yn y gwaith.
Mae'n debyg mai un o'r pethau pwysicaf oedd bod y babanod i'w gweld yn fodlon iawn yn eu clytiau
newydd.
Roedd 5 o'r 6 o deuluoedd yn bendant y byddent yn eu defnyddio eto yn lle rhai tafladwy.
Roedd y sylw yma gan Paul McCue, un o'r rhieni a wirfoddolodd ar gyfer prawf ecodyfi, yn
rhoi syniad o hyd oes clytiau golchadwy.
"Hyd yn oed os nad ydech yn bwriadu cael plentyn arall, mi allwch roi eich clytiau go iawn i ffrind.
"Un o'n profiadau mwyaf pleserus oedd derbyn nifer o glytiau (sgwariau Terri) gan fodryb i fy ngwraig,
sef rhai a ddefnyddiodd am ei merch sydd erbyn hyn yn 48 oed!"
Rhyddhawyd adroddiad yn ddiweddar gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn honni nad oes ond ychydig iawn
o wahaniaeth rhwng defnyddio clytiau golchadwy a rhai tafladwy o ran yr holl effaith amgylcheddol
a achosir.
Mae Cymru Gynhaliol a Rhwydwaith Amgylcheddol Merched yn hynod feirniadol o'r adroddiad.
Ymatebodd Rhwydwaith Amgylcheddol Merched yn gadarn drwy ddatgan bod diffygion difrifol yn astudiaeth
hir a drudfawr Asiaentaeth yr Amgylchedd.
Mewn sawl achos mae'r data a ddefnyddiwyd gyda rhagdybiaethau allweddol yn anfoddhaol gan mai nifer
gymharol fechan o ddefnyddwyr clytiau go iawn a astudiwyd.
Mae Rhwydwaith Amgylcheddol Merched yn honni bod potensial mawr ar gyfer gwella perfformiad amgylcheddol
y system olchadwy, a chafwyd y cyngor canlynol ganddynt:
"Defnyddiwch beiriant golchi gradd A. Golchwch glytiau budr ar dymheredd o 60oC.
"Golchwch glytiau gwlyb ar dymheredd is gyda gweddill eich dillad golchi.
"Peidiwch â'u sychu mewn peiriant taflu - sychwch nhw yn yr awyr.
"Ymestynnwch oes eich clytiau drwy eu hailddefnyddio gyda babi arall, neu eu rhoi/gwerthu i rywun
arall.
Defnyddiwch sylweddau golchi ecolegol. Defnyddiwch haenau lapio golchadwy."
Dywed ecodyfi eu bod am barhau i hyrwyddo clytiau go iawn drwy gyfrwng anerchiadau ac arddangosfeydd
yn yr ardal.
Fe wnaethant ddefnyddio cyfran o'u harian Amgylchedd Cymru o goffrau'r Cynulliad Cenedlaethol i
gefnogi mam o'r cylch sy'n gwneud compost gyda chlytiau 'biodiraddadwy'.
Mae Louise Halestrap Tre'rddôl am weld a oes wir modd compostio'r clytiau hyn gartref.
Yn ôl Tom O'Kane, ecodyfi "Mi fyddwn yn dibynnu ar ein cefnogwyr clytiau go iawn brwd i ddal
i roi'r neges ar led".
Pe carech gael gwybod mwy am y prawf neu am glytiau go iawn, yna ffoniwch Tom O'Kane yn ecodyfi
ar 01654 703965.
Caiff adroddiad ar y prawf ei ryddhau yn yr hydref ar www.ecodyfi.org.uk.
Mae llun ar gael: Danielle Edwards gydag Angharad
Rhagor o wybodaeth:
Tom O'Kane, Swyddog Lleihau
Gwastraff ecodyfi 01654 703965
Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965.
Cewch fwy o wybodaeth am ymgyrch ecodyfi yn erbyn gwastraff yn www.ecodyfi.org.uk/waste/
|