Plas Machynlleth: Allan ac actif yn y Plas |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Allan ac actif yn y PlasMae cyfleoedd i fod yn actif ar dir y Plas ym Machynlleth yn cael eu creu trwy ymdrechion partneriaeth a arweinir gan ecodyfi. Bu gweithio caled wedi cyhoeddiad Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys am eu Grant Adnewyddu Cymunedol o £25,000. Bydd y llochesi newydd, eisteddleoedd, gardd ac ardaloedd bywyd gwyllt o fudd i amrywiaeth o bobl ac mae offer gweithgareddau wedi cael eu dewis yn barod gan y bobl ieuainc sy'n gysylltiedig â'r prosiect. Dengys gwaith ymchwil fod pobl ledled Cymru yn mynd yn llai actif o hyd, ac felly yn llai iach. Bu cydlynydd Mentro Allan Bro Ddyfi Teresa Walters a Cathy Evans, Gweithiwr Ieuenctid Ardal, yn holi pobl ieuainc yn Nyffryn Dyfi, "Beth sy'n eich rhwystro i fod yn fwy actif yn yr awyr agored?" Yn fwy diweddar maent wedi bod yn holi "Beth hoffech chi ei wneud yn y Plas?" Yr atebion oedd "Does dim byd i'w wneud," "Dydw i ddim yn hoffi baeddu fy nhreinars", "Does unman i fynd" a "Does unman i eistedd" - a dywedodd un gwr ifanc na allai fynd a'i gadair olwyn oddi ar brif lwybrau'r Plas. Treuliodd ecodyfi'r misoedd diwethaf, ynghyd â Chyngor Tref Machynlleth a Maer y dref Bob Dunn, Fforwm Ieuenctid Bro Ddyfi, Cymunedau yn Gyntaf, Cadwch Gymru'n Daclus, Gerddi Bro Ddyfi, Canolfan y Dechnoleg Amgen a'r tîm plismona cymunedol, yn cynllunio, codi arian, clirio'r rhododendrons a chreu mynedfa newydd i'r anabl i'r cae chwarae pob tywydd a'r ardd gymunedol. Bellach mae arwyddion newydd wedi'u creu gan ddylunwyr Creu-ad, yn croesawu pobl i'r llwybr troed, llwybrau'r anabl, cae chwarae pob tywydd a'r ardd. Mae'r prosiect yma eisoes wedi derbyn arian gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, cronfa Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Cymunedau yn Gyntaf a Cadwch Gymru'n Daclus (Trefi Taclus). Bu'r bartneriaeth yn llwyddiannus mewn sicrhau £25,000 o arian trwy Gynllun Grant Adnewyddu Cymunedol a £3181 o Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf, ynghyd ag arian ychwanegol gan Cadwch Gymru'n Daclus ar gyfer yr ardd gymunedol. Bydd swm cyfatebol i hwn yn cael ei roi o Gronfa'r Loteri Fawr gan Mentro Allan, a chyfraniad o £2500 gan bwyllgor Teenzone nad yw'n bodoli bellach, i'w ddefnyddio ar ddwy eitem newydd o offer ar gyfer y parc sglefrio a beicio. Felly beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf? Mae'r Fforwm Ieuenctid wedi arwain y partneriaid i ddewis lloches newydd ac offer beicio/sglefrio ar gyfer y bobl ieuainc, a bydd y gof-artist Spike Blackmore yn gweithio gyda grwpiau dros yr haf i ddylunio a chreu dwy ardal eistedd. Bydd gweithgareddau eraill yn cynnwys arlunio graffiti yn yr awyr agored. Bydd lloches newydd yn yr ardd ar gyfer gwirfoddolwyr, planhigion, offer a gwelyau i ddatblygu planhigion ac ardaloedd bywyd gwyllt, ac ardaloedd chwarae gwyllt ar gyfer teuluoedd ,yn ogystal â digonedd o gyrsiau a gweithgareddau dros y blynyddoedd nesaf ynghyd â Chydlynydd i drefnu'r cwbl! Mae hyd yn oed mwy o gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Esboniodd Cathy Evans "Yn ogystal â darparu cyfleusterau newydd yn lleol, nod y partneriaid yw cynhyrchu ardal gymunedol hardd y gall pobl fod yn actif ynddi, neu ymlacio a chwarae neu ddysgu gyda'i gilydd, lle y gall pobl ieuainc a phlant ddechrau archwilio a deall llefydd gwyllt. Y mae'n brosiect gyffrous iawn gan ei bod wedi ei dylunio o gwmpas yr hyn y mae pobl ieuainc am ei wneud. Bydd Mentro Allan yn monitro er mwyn gweld a yw'r cyfleusterau'n cynyddu eu lefelau o weithgaredd ai peidio. Gobeithio y byddant." Mae gwariant lleol wedi dangos yn barod fod ymarfer corff yn fuddiol i iechyd y meddwl yn ogystal â'r corff, a dyma yw bwriad gwirfoddolwyr Gerddi Bro Ddyfi. Ychwanegodd Sarah Dance o Dîm Iechyd Meddwl Machynlleth fod "hyn yn argoeli i fod yn gyfleuster bendigedig, ac rydym yn frwd iawn i gefnogi'r bobl sydd am roi cynnig ar ychydig o arddio mewn lleoliad tawel". Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Teresa Walters, Cydlynydd Mentro Allan yn ecodyfi ar 01654 703965 neu mentro.allan@ecodyfi.org.uk Nodiadau ar gyfer golygyddion: Mentro Allan: email info@mentroallan.co.uk Casgliad o brosiectau yng Nghymru a gefnogir gan Gronfa'r Loteri Fawr a phartneriaeth genedlaethol yw Mentro Allan. Mae'r rhaglen yn targedu grwpiau penodol sydd yn llai actif yn gyffredinol na'r boblogaeth ehangach. Bydd pob un o'r prosiectau yn cael eu hariannu am bedair blynedd gyda'r bwriad o gynyddu lefel gweithgaredd corfforol y grwp targed, gan wneud y defnydd gorau o'r amgylchedd naturiol lleol yn agos i'w cartrefi. Bydd y rhaglen yn casglu tystiolaeth ar effeithiolrwydd ymyrraeth benodol a gynllunir i gynyddu lefelau o weithgaredd corfforol sydd o fudd i iechyd. Mentro Allan Bro Ddyfi Venture Out: email mentro.allan@ecodyfi.org.uk Bydd rhaglen Mentro Allan Bro Ddyfi yn dod ag unigolion ynghyd yn Nyffryn Dyfi er mwyn cynyddu eu lefelau o weithgaredd corfforol, trwy ddefnyddio amrywiaeth o leoliadau yn yr amgylchedd naturiol. Ein prif grwp targed yw'r boblogaeth eang sy'n cael eu hynysu o gefn gwlad ac yn byw bywydau eisteddog. Rydym yn bennaf bryderus ynghylch unigolion sy'n dioddef o eithriad cymdeithasol ac unigrwydd o ganlyniad i fynediad gwael i wasanaethau a phatrwm poblogaeth wasgarog, er y bydd y gweithgareddau yn agored i bawb. Ein is- grwpiau targed yw: rhieni plant ieuainc, yn arbennig rhieni ieuainc; pobl ieuainc rhwng 11 a 18 oed, yn enwedig y rhai hynny sydd mewn perygl o ddioddef o eithriad cymdeithasol; pobl sy'n dioddef yn feddyliol, yn enwedig y rhai hynny sydd ddim mewn cysylltiad cyson â gwasanaethau a grwpiau cefnogi. Byddwn yn targedu trigolion ardaloedd Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair, ond bydd croeso i drigolion rhannau eraill o'r dyffryn i ymuno â'r gweithgareddau. Y corff arweiniol yw ecodyfi ac mae partneriaid eraill yn cynnwys: Gweithredu Cymunedol Machynlleth a'r Ardal; Coed Lleol; US Mach; Mudiad Ysgolion Meithrin Sir Drefaldwyn; Chwarae Sir Drefaldwyn; prosiect Anghyfiawnderau Mewn Iechyd GICC/ NPHS; Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi; Cyngor Sir Powys; Tir Coed; Cychwyn Cadarn NCH; Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys. ecodyfi email info@ecodyfi.org.uk Ecodyfi yw'r sefydliad adfywiad lleol yn Nyffryn Dyfi. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||