ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Plas Machynlleth: Cynnig y Bobl

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release16/05/2006

Y Plas Machynlleth logo

Mae dyfodol un o adeiladau mwyaf nodedig Cymru yn edrych yn fwy addawol wrth i'r gymuned leol lansio cynnig ysbrydoledig i'w ddatblygu yn y dyfodol.

Cyng. Michael Williams (i'r chwith) yn derbyn copi o gynnig Grwp Llywio Y Plas gan Phil Wheeler a Siwan Hywel.

line

Darllenwch y cynnig [Mae'r ddogfennau Word i gyd o dan 70kB]
Elw a cholled
Arolwg a holiadur 28 Mawrth 2006
Adroddiad grwp Cefnogi Busnes (Saesneg yn unig)
Adroddiad grwp Celfyddudau a Chymuned (Saesneg yn unig)
Adroddiad grwp Diwydiannau Creadigol (Saesneg yn unig)

Mae Plas Machynlleth, cyn gartref atyniad "Celtica", wedi bod yn wag ers cau Celtica ddiwedd Mawrth, gyda dim ond ychydig iawn o ddefnydd yn cael ei wneud o'r lle.

Ar ôl ymchwilio'n fanwl i ddyheadau'r trigolion lleol mae 'Pwyllgor Llywio'r Plas' wedi llunio cynnig a fydd yn cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Powys i'w ystyried.

Dywedodd Andy Rowland ar ran y Pwyllgor Llywio: "Mae'r cynnig yn tynnu at ei gilydd bopeth a ystyrir yn bwysig gan drigolion Bro Ddyfi yn ôl yr arolwg.

"Does dim dwywaith nad yw dyfodol yr adeilad hwn yn ganolbwynt i fywyd ym Machynlleth: ac yn gydnaws â'r rhodd wreiddiol i bobl Machynlleth gan y 7fed Arglwydd Londonderry.

"Bydd ein cynnig ni'n sicrhau dyfodol ariannol yr adeilad yn ogystal â dod â'r adeilad yn ôl i galon y gymuned."

Mae gweledigaeth y Pwyllgor Llywio ar gyfer dyfodol Plas Machynlleth yn cynnwys cymysgedd cyffrous o ofod celfyddydol, lle i fusnesau, cyfleusterau addysgiadol, adnoddau treftadaeth ac atyniadau galw-i-mewn i ymwelwyr â'r ardal.

Ar y llawr gwaelod, bydd y lle'n cael ei ail-gynllunio fel man croesawgar i gynnal cynadleddau, cyfarfodydd grwpiau lleol a chelfyddydau perfformio.

Yn ogystal â hyn mae lle wedi'i gynllunio i ddenu ymweliadau gan ysgolion, a bydd yno sinema 80 sedd i ddangos ffilmiau Cymraeg a Saesneg.

Bydd yno ystafell baned hefyd gyda lle chwarae ar ffurf parc pêl, cyfleusterau yn benodol ar gyfer rhieni a phlant ifainc: defnyddir yr ystafell baned fel bwyty min nos yn rheolaidd, gyda rhaglen dreigl o adloniant byw.

Nod y grwp yw adfer Orendy hanesyddol yr adeilad, fel rhan o'r rhaglen adfer gyffredinol.

Ar loriau 1 a 2, bydd "Canolfan Plas Gwaith" yn cynnig lleoedd arbennig ar gyfer swyddfeydd am brisiau isel i fusnesau bychain - cyfrir prinder lle'n gyfrifol am ddiffyg datblygiad economaidd y dref.

"Bydd Plas Machynlleth yn cyflawni dwy swyddogaeth arbennig yn y dyfodol pe byddai ein cynigion yn cael eu derbyn.

Bydd yn adnodd ysbrydoledig a phwysig i'r gymuned leol A bydd yn denu ymwelwyr i bob math o atyniadau, o'r bwyty a'r sinema i'r arddangosfeydd treftadaeth, cyfleusterau cynadledda a rhaglenni addysgiadol," meddai Andy wrthym.

Apwyntiwyd y Pwyllgor Llywio gan gyfarfod cyhoeddus ym mis Ionawr, ac mae'n adrodd yn ôl i Fforwm Cymunedol Lleol Machynlleth a'r Cylch.

Dewiswyd yr aelodau i adlewyrchu'r syniadau amrywiol a awgrymwyd yn y ddau gyfarfod cyhoeddus, ac maent yn cynnwys pobl fusnes lleol, penseiri, cynghorwyr, cynllunwyr ac addysgwyr.

Mae wedi derbyn cyngor cyfrifwyr, ac ymgynghorwyr busnes yn ystod cyfnod datblygu'r cynnig.

Cadeirir y Grwp gan Meinir Wyn Jones.

"Rydym yn gobeithio derbyn y golau gwyrdd gan Gyngor Sir Powys er mwyn gwireddu breuddwydion pobl Bro Ddyfi", meddai.

Mae'r pwyllgor yn brysur yn trefnu digwyddiad yn Y Plas ar gyfer prynhawn a min nos Mehefin 25ain.

Bydd yn cyfuno adloniant gan rai tebyg i Gwilym Morris a "Black Russian", gyda chyfleoedd i drafod y cynigion a theimlo'r posibiliadau.

Mae'r aelodau'n awyddus i adrodd yn ôl i'r gymuned ac i geisio cefnogaeth.

"Bydd hwn yn gyfle i wyntyllu'r cynigion yn llawnach ac i ddathlu'r lle a'i botensial ar gyfer y dyfodol", meddai'r trefnydd Jenny Hall.

Dyfyniadau

"Mae'n drist gweld yr adeilad hardd yma wedi cau, ac mae'r perygl o ddirywiad a fandaliaeth yn amlwg. Rwy'n gefnogol iawn i gynnig y gymuned". - Camilla Norberg – person lleol

"Cyflwynwyd Y Plas yn rhodd i'r bobl, ac mae'r cynnig hwn yn amlinellu dyheadau'r bobl am y defnydd a wneir ohono yn y dyfodol. Dylai'r cyngor gymryd y mater hwn o ddifri. Os yw'r symiau'n iawn, nid oes unrhyw gyfiawnhad moesol dros ei ddefnyddio i rywbeth arall ar wahân i ddefnydd cymunedol." - Geoff Hill – gwr busnes lleol

Gwybodaeth bellach:

Andy Rowland, Cadeirydd Fforwm Cymunedol Machynlleth a'r Cylch 01654 703965

Brig y dudalen