|
7/12/2005
Neithiwr, yn Ysgol Bro Ddyfi, clywodd cyfarfod cyhoeddus niferus syniadau cyffrous bobl leol i ddatblygu
Plas Machynlleth.
Ymatebodd Swyddogion Cyngor Sir Powys gyda gwybodaeth am yr adeilad gan addo ymgynghori â'r gymuned eto cyn penderfynu'n derfynol yngl_n â dyfodol yr adeilad a'r tir o'i gwmpas.
Mynychodd ymhell dros gant o bobl y cyfarfod a drefnwyd gan Fforwm Cymunedol Lleol Machynlleth a'r Cylch.
Roedd yn amlwg bod yr adeilad yn bwysig, nid yn unig i bobl Machynlleth ei hun, ond i weddill Dyffryn Dyfi hefyd.
Cafwyd cymysgedd da o siaradwyr Cymraeg a Saesneg, a chyfeiriodd nifer o'r siaradwyr at y ffaith fod yma gyfle i adeiladu cydlyniad cymunedol trwy weithgareddau a chyfleusterau yn y Plas.
Mae Clwb Ffermwyr Ifainc Bro Ddyfi a Mach Fringe yn ddau grwp bywiog iawn llawn pobl ifainc dawnus, ond eto i gyd anaml iawn y bydd eu llwybrau'n croesi.
Siaradodd eu cynrychiolwyr am eu hanghenion ym meysydd ymarferion, storio a lleoedd i berfformio gan weld posibiliadau gweithredu ar y cyd.
Ategwyd y diddordeb mawr mewn celfyddydau cymunedol gan gynigion i helpu busnesau bychain trwy baratoi gofod swyddfeydd a stiwdios.
Byddai'r rhain yn apelio at bobl sydd wedi dechrau busnesau yn y cartref ac angen ehangu, ond ar ben hynny, gellid trefnu'r llefydd hyn i annog cydweithrediad rhwng mentrau sydd â diddordebau tebyg.
Dynodwyd cyfryngau newydd (yn cynnwys busnesau fideo) a chelfyddydau creadigol fel meysydd twf yn y fro.
Cafwyd cefnogaeth gref i barhad y cafê ac agweddau addysgiadol Celtica.
Yn ôl y llythyrau oddi wrth athrawon a ddarllenwyd yn y cyfarfod, mae'r ysgolion yn sylweddoli gwerth y profiad treftadaeth Geltaidd a Chymreig.
Mae'r agwedd hon yn cynrychioli'r galw y gellir ei ddiwallu'n hawdd heb y prif atyniad.
Awgrymwyd y gellid cadw llawer o'r arteffactau, er y byddai'r pwyslais ar weithgareddau ymarferol, gweithdai a thrafodaethau yn y dyfodol.
Pwysleisiodd y Cyngor Sir ei bod yn angenrheidiol i unrhyw fenter fedru sefyll ar ei thraed ei hun yn ariannol.
Pe deuai cwmni cymunedol ymlaen gyda chynigiad a fyddai'n ennill digon i dalu am y costau o ddydd i ddydd, yna byddai'r Cyngor yn barod i ystyried les ar dermau ffafriol.
Soniodd nifer o bobl am yr angen i ystyried holl adeiladau cyhoeddus Machynlleth gyda'i gilydd.
Bydd yn bwysig peidio â chystadlu gyda'r Tabernacl, sydd mor werthfawr, ac mae gan Sefydliad Owain Glynd_r a'r Senedd-dy eu cynlluniau datblygu eu hunain.
Byddai'r Cyngor Sir yn falch o gwtogi ar ei eiddo, ond ni fyddai'n barod i ystyried gwerthu'r Plas oni bai fod pob opsiwn arall wedi'i wyntyllu'n llwyr.
Cafwyd cryn gymeradwyaeth i'r siaradwyr hynny a atgoffodd y cyfarfod fod Cyrnol Beaumont wedi cyflwyno'r adeilad i bobl tref Machynlleth, er i'r hawl gyfreithiol fynd i'r Cyngor Sir yn sgil ail-drefnu a fu ar lywodraeth leol.
Bydd cyfarfod cynllunio'n cael ei gynnal yn Ysgol Bro Ddyfi, Ionawr 5ed, am 7.30. o'r gloch.
Bydd yn agored i bawb, a gobeithir sefydlu grwpiau arbenigol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer canolfan amlbwrpas yn y Plas.
Yn y cyfamser gofynnodd y cyfarfod am gadw Celtica'n agored tan fis Medi 2006 yn hytrach na'i gau ddiwedd Mawrth.
Teimlwyd y byddai hyn o gymorth i economi'r dref, ac yn gwarchod golwg y lle, hyd yn oed pe byddai rhai agweddau o'i weithrediad yn gorfod newid.
Roedd y Cynghorydd Gwilym Fychan yn barod i gyfleu'r cais hwn i'r Cyngor Sir.
Dylai pobl gyda syniadau pellach neu a fyddai'n medru bod o gymorth ond yn methu mynychu'r cyfarfod ar Ionawr 5ed gysylltu ag Andy Rowland ar 01654
703965 neu Meic Llewellyn ar meic@vow.org.uk.
Gwybodaeth bellach:
Andy Rowland, Cadeirydd Fforwm Cymunedol Machynlleth a'r
Cylch 01654 703965
Meic Llewellyn, Celfyddydau Gwirfoddol Cymru 01650 511778.
Nodiadau i Olygyddion
Mae Fforwm Cymunedol Lleol Machynlleth a'r Cylch yn gweithio ar y cyd gyda Phartneriaeth Cymunedau'n
Gyntaf Bro Ddyfi i ddatblygu Cynllun Gweithredu Bro Ddyfi.
Mae'n crynhoi'r hyn sy'n bwysig yng ngolwg y gymuned ar gyfer y dyfodol, ac yn cysylltu pobl leol
gyda'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu adnoddau a gwasanaethau.
Sefydlwyd y Fforwm fel rhan o broses Strategaeth Cymunedol Powys ac fe'i gweinyddir gan grwp adfywio
ecodyfi.
Y Cadeirydd yw Andy Rowland.
ecodyfi yw grwp adfywio cymunedol Dyffryn Dyfi.
Mae'n rhoi sylw arbennig i gryfhau'r economi lleol trwy warchod yr adnoddau naturiol a diwylliannol
yn ofalus.
Mae'n cael ei reoli gan Fwrdd o 17 o bobl leol, ac yn derbyn cefnogaeth Awdurdod Datblygu Cymru
|