Dechrau newydd i'r Plas? |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Oherwydd y pwysau cyhoeddus cynyddol a'r ansicrwydd am Celtica a dyfodol adeilad y Plas, bydd Fforwm Cymunedol Machynlleth a'r Cylch yn cynnal fforwm cyhoeddus yn Ysgol Bro Ddyfi, Ddydd Mawrth Rhagfyr 6ed i archwilio'r posibiliadau ar gyfer y dyfodol.Penderfynodd y perchnogion (Cyngor Sir Powys) gau Celtica yn gynnar yn y Gwanwyn - oni fydd corff arall yn cyflwyno cynigion realistig erbyn y Nadolig i ddatblygu'r atyniad. Mae'r Cyngor yn awyddus i weld yr adeilad yn cael ei ddefnyddio er lles y gymuned ac yn gwahodd rhai i fynegi diddordeb mewn defnyddio'r adeilad i ddibenion eraill pe byddai cau Celtica'n cael ei gadarnhau. Bwriedir i'r cyfarfod hwn fod yn gam cyntaf yn y broses o ymgynghoriad cyhoeddus a thrafodaeth a allai, ymhen amser, arwain at gyflwyno cynigion concrid i Gyngor Sir Powys. Bydd yn dechrau am 7.45 pm, ac yn dilyn cyflwyniad gan Andy Rowland o'r Fforwm Cymunedol Lleol, fe gadeirir y cyfarfod gan Meinir Wyn Jones, cyn-Brifathrawes Ysgol Dinas Mawddwy. Cynhelir y cyfarfod yn Gymraeg a Saesneg, a darperir cyfleusterau cyfieithu ar y pryd. Cynhelir adolygiad byr o'r sefyllfa bresennol cyn symud ymlaen i ystyried y dyfodol. Bydd nifer fechan o siaradwyr gwadd yn cyflwyno'u syniadau am weithgareddau y gellid eu lleoli yn yr adeilad. Clustnodir amser i gyflwyno cwestiynau i'r siaradwyr cyn cyhoeddi'r cyfarfod yn agored i unrhyw un sy'n bresennol gyfrannu i'r drafodaeth. Dymuna'r trefnyddion bwysleisio mai unig bwrpas y cyfarfod cyntaf hwn yw agor y broses o drafod y dyfodol, ac na ddylid myfyrio ar y gorffennol. Croesawir pob syniad sy'n cyfrannu at ddechrau newydd, ac estynnir gwahoddiad i bob un sy'n dymuno cymryd rhan mewn datblygu cynlluniau. Maent hefyd am nodi fod y Plas yn adeilad mawr, a'u bod yn bosibl ei ddefnyddio at wahanol ddibenion. Mae modd i bob math o ddatblygiadau cyffrous, yn cynnwys rhai o'r gweithgareddau presennol, ddigwydd o dan yr un to. Gall unrhyw sydd â syniadau ond yn methu bod yn bresennol gysylltu ag Andy Rowland ar 01654 703965 neu Meic Llewellyn ar meic@vow.org.uk. Gwybodaeth bellach:Andy Rowland, Cadeirydd Fforwm Cymunedol Machynlleth a'r Cylch 01654 703965 Meic Llewellyn, Celfyddydau Gwirfoddol Cymru 01650 511778. Nodiadau i OlygyddionMae Fforwm Cymunedol Lleol Machynlleth a'r Cylch yn gweithio ar y cyd gyda Phartneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi i ddatblygu Cynllun Gweithredu Bro Ddyfi. Mae'n crynhoi'r hyn sy'n bwysig yng ngolwg y gymuned ar gyfer y dyfodol, ac yn cysylltu pobl leol gyda'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu adnoddau a gwasanaethau. Sefydlwyd y Fforwm fel rhan o broses Strategaeth Cymunedol Powys ac fe'i gweinyddir gan grwp adfywio ecodyfi. Y Cadeirydd yw Andy Rowland. ecodyfi yw grwp adfywio cymunedol Dyffryn Dyfi. Mae'n rhoi sylw arbennig i gryfhau'r economi lleol trwy warchod yr adnoddau naturiol a diwylliannol yn ofalus. Mae'n cael ei reoli gan Fwrdd o 17 o bobl leol, ac yn derbyn cefnogaeth Awdurdod Datblygu Cymru |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||