|
Ymaelodwch
ag ecodyfi drwy! Rydym
am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i
Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.
Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore
tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu
prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein
lleoliad - map mwy]
|
Mae
Bythynnod Gwyliau Pentref Bach, Llwyngwril, ger Dolgellau, sydd ? bythynnod
pedair seren graddedig ac ardystiad y Ddraig Werdd Lefel 2, wedi ennill
Gwobr Amgylcheddol Rhwydwaith ARENA Cymru am Dwristiaeth Gynaliadwy.
Drwy reoli agweddau 'gwyrdd' mewn modd amweithredol llwyddodd y cwmni
i amlygu'r amryfal ffyrdd y mae'n ymddatblygu ar seiliau cynaliadwy, a
gwneud mwy o argraff ar y beirniaid na'r 3 arall a gyrhaeddodd rownd derfynol
y dosbarth yma.
Noddwyd y Wobr gan y Bwrdd Croeso. Wrth gyflwyno'r tlws, dywedodd y Prif
Weithredwr, Jonathan Jones: "Yn ogystal ? dangos eu hymrwymiad i faterion
yn ymwneud â'r amgylchedd a chynaladwyedd, llwyddodd Bythynnod Pentre
Bach hefyd i roi gwybod i'w holl ymwelwyr a gwesteion am ddulliau ymarferol
o fabwysiadu agweddau mwy cynaliadwy, boed hynny ym myd busnes neu ar
yr aelwyd."
Cafwyd mwy o gystadleuwyr nag erioed o'r blaen am wobrwyon clodfawr Rhwydwaith
ARENA yn 2003, cystadleuaeth a gynhaliwyd yng Ngogledd a De Cymru ar yr
un pryd.
Daeth y digwyddiad ag amrywiaeth eang o arferion amgylcheddol gorau cwmnïau
a chyrff eraill ledled Cymru i lygad y cyhoedd.
Dywedodd Sue Essex, Gweinidog Cyllid y Cynulliad, wrth draddodi araith
allweddol yno: "Fe wnaeth Prif Weinidog y Cynulliad grybwyll r?l arloesol
Cymru ym maes cynaladwyedd yn rhagair rhaglen y Gwobrwyon.
Mae ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu cynaliadwy mor gadarn
ag erioed. Ni allwn fforddio llaesu dwylo; mae llawer eto i'w wneud.
"Dengys arolygon mai llai na thraean o gwmnïau llai Cymru sydd ?
pholisi amgylcheddol, serch bod manteision gwella'u perfformiad amgylcheddol
yn hysbys."
"Mae'r cyrff sydd yma heno yn gosod patrwm i eraill. Mae angen i ragor
o gwmnïau a chyrff ddilyn eu hesiampl er lles Cymru."
5.12.2003
Cysylltau:
Pentre Bach
|