Llwybr newydd yn gam mawr ymlaen |
|
|
Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Ni fydd angen car bellach ar Julia Taylor, Derwenlas i hebrwng ei phlentyn bach i Fachynlleth, ac mae ei phlant eraill yn edrych ymlaen at gael beicio i'r ysgol.
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar lwybr newydd defnydd deuol fydd yn cysylltu Derwenlas a Machynlleth, gydag arian o goffrau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn ystod rhan gyntaf 2002 dechreuodd Julia ymgyrch i greu llwybr troed a beicio diogel, a chasglodd ymhell dros gant o enwau ar ddeiseb drwy gymorth staff siop Greenstiles. Poenai gyda rhieni eraill ynglyn â'r peryglon a wynebai oedolion yn ogystal â phlant o fentro dilyn darn hynod gyflym o briffordd am filltir. "60 yw'r terfyn cyflymder, ond bydd hyd yn oed rhai o'r lor�au'n mynd yn gynt na hynny", meddai, a cherbydau'n sgubo heibio iddi. Ei gobaith yw y bydd yr arwyddion ychwanegol yn cyfeirio at feicwyr a cherddwyr yn darbwyllo modurwyr i barchu'r terfyn 40 mya sydd mewn grym drwy Dderwenlas ei hun. Ymroddodd grwp adfywio lleol ecodyfi i'r achos yn niwedd 2002. Cyflwynwyd cynllun ganddynt, fyddai'n cael ei gyllido gan arian o'r Cynulliad Cenedlaethol oedd ar gael bryd hynny i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Ni fu'r cais hwnnw'n llwyddiannus, ond rhoddodd gychwyn ar broses fydd yn cyrraedd ei hanterth ym mis Ebrill gyda thaith gerdded a beicio i ddathlu'r agoriad. Ymunodd Sustrans, yr elusen cludiant cynaliadwy cenedlaethol, â'r trafodaethau - eu dymuniad nhw yw cael llwybr beicio rhwng Machynlleth ac Aberystwyth ymhen amser. Rheolir y gwaith gan Gyngor Sir Powys, sydd hefyd yn cynnal astudiaethau amgylcheddol a pheirianegol ar ddichonoldeb creu llwybr tebyg rhwng Machynlleth a Phenegoes. Mae hyn yn unol â strategaeth ecodyfi, sydd am weld llwybrau diogel yn cael eu creu fyddai'n mynd sawl milltir o'r dref i bob cyfeiriad. Byddai'n gaffaeliad i rieni Penegoes ac i ymwelwyr. Yn y cyfamser, llwyddodd y Cyngor i sicrhau grant gan y Cynulliad Cenedlaethol tuag at lwybrau diogel i ysgolion o fewn Machynlleth ei hun. Tynnodd Andy Rowland ecodyfi sylw at fanteision iechyd cerdded a beicio, nid yn unig o ran llosgi ychydig o galor�au diangen ond hefyd drwy i bobl deimlo'n well o fod allan mwy yn yr awyr iach. Dywedodd hefyd y byddai'r llwybr yn agor ardal newydd i lawer o bobl, a hynny mewn modd sy'n llesol i'r economi lleol. "Bydd Julia yn gallu hebrwng ei phlant o stepen ei drws i Laspwll wrth gwrs", meddai, "ond hefyd bydd ei gwneud yn haws i gael mynediad i'r ardal brydferth hon ac i lwybrau Mach 1, 2 a 3 Beicio Mynydd Machynlleth yn anogaeth i gerddwyr a beicwyr dreulio mwy o wyliau byrion ym Machynlleth."
Rhagor o wybodaeth:Andy Rowland, Rheolwr ecodyfi 01654 703965 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||