|
Prosiectau |
|
|
Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Cipolwg ar rai o gynlluniau ecodyfi ar gyfer 2004/2005Gwnaed cais am nawdd gan Awdurdod Datblygu Cymru i rai o'r gweithgareddau isod. Cafwyd cymorth i eraill gan Amgylchedd Cymru, drwy gyfrwng arian gan y Cynulliad Cenedlaethol. Derbyniwyd cefnogaeth i nifer ohonynt gan Gynghorau Powys a Gwynedd. BLAENORIAETH 1Canolfan Gwybodaeth ac AdnoddauNod ac amcanion: Darparu cyngor a chymorth i unigolion a grwpiau sy'n ceisio datblygu cynlluniau er lles y gymuned, yn enwedig pan fo'r rheini'n esgor ar adfywio cymunedol ac ymarferion mwy cynaliadwy. Ein dymuniad yw:
Gwersyll Ceinws 2004Nod ac amcanion: Adfywio Ceinws drwy ddefnyddio Gwersyll Coedwigaeth Ceinws mewn modd mwy cynhyrchiol, a chreu cyfleoedd gwaith a chyfleusterau cymunedol yn y safle. Rydym wrthi'n holi beth hoffai pobl ei weld yn digwydd yma a'r modd y gallent gynorthwyo. Ein dymuniad yw:
Lleoedd gwaith i fân fusnesau yn Nhalybont 2004 - 05Nod ac amcanion: Adfywhau bywyd economaidd Talybont drwy alluogi i fentrwyr weithio yno. Darganfu astudiaeth dichonoldeb bod galw am leoedd yng Ngogledd Ceredigion ar gyfer gwaith swyddfa ac yn fwy cyffredinol. Mae'r syniad o reoli a bod yn berchen ar gyfleuster o'r fath yn ennyn diddordeb yn Nhalybont. Ein dymuniad yw:
Annog garddwriaethNod ac amcanion: Meithrin sector garddwriaeth fasnachol yn lleol. Ein dymuniad yw:
Biosffer Dyfi BiosphereNod ac amcanion: Dod â Dyffryn Dyfi fwy i'r amlwg drwy bwysleisio ein cred ein bod yn gosod esiampl ar gyfer datblygu cynaliadwy. Yma yn Nyffryn Dyfi y mae unig aelod Cymreig rhwydwaith rhyngwladol o ardaloedd arbennig. Ein dymuniad yw cydweithio â Chyngor Cefn Gwlad Cymru er mwyn:
Ardal Twf Twristiaeth 2004 - 05Nod ac amcanion:
Masnachu Twristiaeth Gweithgareddau 2004Nod ac amcanion: Sicrhau cynydd mewn twristiaeth gweithgareddau sydd mewn cytgord â'r amgylchedd. Ein dymuniad yw:
Llwybrau Beicio Mynydd Dyfi Rhan I: Llwybrau EpigNod ac amcanion: Cynorthwyo Mach Off-Road Cyf. i wneud a hyrwyddo llwybrau newydd yng Nghoedwig Dyfi. Lleihau gwastraffNod ac amcanion: Cydweithio'n bennaf â deiliaid tai a grwpiau cymunedol i hwyluso gweithredu unigol ac ar y cyd i leihau gwastraff yn Nyffryn Dyfi (yn enwedig defnyddiau ac ynni), ac yn y modd yma creu ymwybyddiaeth o agweddau ar gynaladwyedd. Ymhlith y gweithgareddau y mae:
Cronfa Ynni CymunedolNod ac amcanion: Gwario arian yn deillio o dyrbinau gwynt 'MS4' a 'chymunedol / Cilgwyn' ar gynlluniau i greu ymwybyddiaeth o'r angen i gyfyngu ar y carbon a ryddheir ac i arbed ynni drwy ddulliau ymarferol. Cynllun Min y Ffordd a Chompostio MachynllethNod ac amcanion: Troi gwastraff y gegin Machynlleth, problem i'w waredu mewn claddfa hyd yma, yn adnodd gwerthfawr, a chreu swyddi ar yr un pryd. Ein dymuniad yw:
BLAENORIAETH 2Blaenbrawf Arian LleolNod ac amcanion: Annog y sector gwirfoddol a defnyddwyr i brynu nwyddau lleol. Gan weithio gyda Daear Elfennol, ein dymuniad yw:
Cynllun gwres ardal o danwydd coed Dinas Mawddwy.Nod ac amcanion: Gwresogi rhan o ardal Mawddwy drwy brosesu coed mewn modd carbon niwtral. Drwy weithio ar y cyd ag Adfywio Mawddwy, ein dymuniad yw:
Llwybr Dyffryn Dyfi rhan 1Nod ac amcanion: Hyrwyddo Llwybr Dyffryn Dyfi o safbwynt llwybr cerdded sy'n cysylltu nifer o gymunedau a mannau diddorol ar hyd y dyffryn. Ein dymuniad yw:
BLAENORIAETH 3Hyrwyddiad adwerthu ym Machynlleth 2004 / 2005Nod ac amcanion: Hyrwyddo'r cyfle adwerthu unigryw a geir ym Machynlleth. Gan weithio ar y cyd â Daear Elfennol, ein dymuniad yw:
Cynllun gwres ardal o danwydd coed CorrisNod ac amcanion: Gwresogi rhan o ardal Corris drwy brosesu tanwydd coed o ffynonellau lleol mewn modd carbon niwtral. Mewn cydweithrediad â grwp newydd o'r enw Egni Corris Energy, ein dymuniad yw:
Gardd GymunedolNod ac amcanion: Gwaith a bwyd i wella iechyd. Ein dymuniad yw:
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||