ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Cynlluniau ar gyfer tyrbin cymunedol newydd

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press release
15.10.04

BDCR shareholders at the first community wind turbine</i>

BDCR shareholders (above) and workers (below) at the first community wind turbine

BDCR workers at the first community wind turbine

Adeiladwyd y tyrbin gwynt cymunedol cyntaf yng Nghymru gan grwp cymunedol Bro Ddyfi ac maent wedi cyhoeddi eu bod am adeiladu'r ail un.

Bydd yn cymryd lle'r tyrbin sydd yn bodoli ar Fynydd Glandulas a bydd cyfle i bobl leol fod yn berchen arno os y dymunant fuddsoddi ynddo.

Sefydlwyd 'Bro Ddyfi Community Renewables Ltd' yn 2001 er mwyn creu cyfleoedd i'r gymuned leol elwa o ddefnydd gwynt a ffynonellau eraill o bwer glân.

Y prosiect gyntaf oedd y tyrbin gwynt 75 cilowat yng Nghilgwyn ar dir y Comisiwn Coedwigaeth uwchben CTA (Canolfan Technoleg Amgen).

Mae wedi bod yn cynhyrchu egni di-lygredd ers iddo gael ei agor gan Cynog Dafis a Chynghorwyr Glantwymyn Hugh D Jones, a Bill Owen ym mis Ebrill 2003.

Mae'r 59 o'r cyfranddalwyr, y mwyafrif yn lleol, wedi penderfynu ar greu mwy o argraff yn y frwydr yn erbyn y newid yn ein hinsawdd wrth newid yr hen dyrbin, sydd wedi ei leoli i'r de o'r Ganolfan Technoleg Amgen, am nad yw bellach yn gweithio.

Maent yn amcangyfrif y bydd y miliwn o unedau trydan, sydd yn cael eu cynhyrchu gan y tyrbin newydd yn flynyddol, yn rhwystro 430 o dunelli o ddeuocsid carbon rhag cael eu rhyddhau i'r amgylchedd yn flynyddol.

Mae cyfran o incwm y tyrbin 75 cilowat wedi talu am fylbiau trydan egni effeithlon, yn rhad ac am ddim, i bentref Corris, Cwmllinau a mannau eraill gan Gronfa Egni dwr Gymuned leol.

Mae'r n cael ei reoli gan ecodyfi ar ran grwp gwynt y gymuned, Canolfan Technoleg Amgen a Chyng

Cafodd cyfarfod cyhoeddus gorlawn a gynhaliwyd yng Nghanolfan Owain Glyndwr, Machynlleth ar ddydd Mawrth Hydref 26ain glywed manylion y cynllun gan aelodau o'r cwmni cydweithredol.

Rhoddodd mwyafrif llethol eu cefnogaeth i'r cynllun, yn eu mysg cynghorydd Glantwymyn, Hugh D Jones.

"Fy ngobaith yw y bydd nifer dda o ardalwyr yn manteisio ar y cyfle a gynigir gan hwn", meddai.

"Mae gwybodaeth ynglyn â chymryd rhan ar gael gan ecodyfi ar 01654 703965."

Rhagor o wybodaeth:

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi, 01654 703965
Tim Brewer, Bro Ddyfi Community Renewables Ltd 01654 703374 neu 07817 731336
Duncan Kerridge, Bro Ddyfi Community Renewables Ltd 01654 781460

Brig y dudalen