Ysbryd y Mwynwyr |
|
|
Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Daeth tyrfa dda ynghyd i Ysgol Talybont nos Fercher Tachwedd 2 i weld arddangosfa ac i ddysgu mwy am gynllun cyffrous Ysbryd y Mwynwyr.Meleri Richards o Gyngor Sir Ceredigion a esboniodd mai cronfa o arian Amcan 1 ynghyd ag arian o'r Cyngor Cefn Gwlad yw hwn, a'i fod ar gael i hybu twristiaeth a datblygu economaidd ar sail treftadaeth cyfoethog yr hen fwynfeydd a fu mor bwysig yng gogledd Ceredigion. Trwy sgwrs a sleidiau hynod ddifyr gan Simon Hughes, Felin Leri, peirianydd mwynfeydd profiadol, sydd yn gwybod mwy na neb am hanes mwynfeydd yr ardal, cawsom agoriad llygaid i gyfoeth yr hanes. Bu'r gweithiau cyntaf ar Allt y Crib yn yr Oes Efydd, ac yna bu'r Rhufeiniaid, y mae eu holion i'w canfod yn y gaer wrth droed Erglodd ac yn Sarn Helen sy'n rhedeg trwy Cwm Slaid, yn weithgar yn 'Aur'glodd a Nantllain. Mae'r gwaith archaeolegol ar dir Ynys Capel, hefyd yn dechrau dangos bod yr ardal hon yn bwysig iawn fel ardal trin mwyn. Yn ddiweddarach, bu mwynwyr yma yn oes Elizabeth 1 ac wedyn yn ystod y 19 ganrif pan oedd gwaith trin mwyn ar y tir lle saif y Wern heddiw ac hefyd ar dir Melin Leri. Daeth aur, arian, copor, plwm a sinc allan o'r creigiau o'n hamgylch dros y canrifoedd. Esboniodd Paul Sambrook, sy'n archaeolegydd proffesiynol, pa mor werthfawr yw olrhain hanes y cymunedau yr oedd eu bywoliaeth yn dibynnu ar y gweithiau mwyn. Yn ystod y sgyrsiau a gafwyd mewn grwpiau llai ar ddiwedd y cyfarfod, daeth sawl atgof i glawr. Atgofion a gaiff eu defnyddio ar fyrddau dehongli a fydd yn cael eu paratoi fel rhan o'r cynllun hwn. Dan arweiniad y Cynghorydd Ellen ap Gwynn ac Ecodyfi, bydd y tri Cyngor Cymuned: Ceulanamaesmawr, Llangynfelyn ac Ysgubor y Coed yn cynnig am arian o'r gronfa i baratoi byrddau dehongli a thaflen yn olrhain yr hanes gan dynnu sylw at y llwybrau cyhoeddus yn yr ardal sydd yno oherwydd y gweithiau mwyn. Gobeithir denu twristiaid i ddod ac aros yn yr ardal i grwydro hen lwybrau'r mwynwyr lle bydd paneli llai fan hyn a fan draw i esbonio mwy am yr hanes. Mae hwn yn gynllun pwysig, nid yn unig i ddenu trwistiaeth, ond i ninnau hefyd sylweddoli ein bod yn byw mewn ardal ol-ddiwydiannol, ardal sydd a hanes cyn bwysiced os nad yn bwysicach na hanes maes glo a haearn cymoedd y de. Cynhelir cyfarfod tebyg yn Llanfach rhwng 6-9 nos Fawrth Tachwedd 22 i bobl cymuned Llangynfelyn glywed eu hanes hwythau a threfnir cyfarfod arall yn ardal Ysgybor y Coed cyn hir. Am fwy o wybodaethAndy Rowland, Rheolwr ecodyfi 01654 703965 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||