ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Ramp Sglefrio i’r ifanc o’r diwedd!

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

swyddfa ecodyfi
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release29/07/2010

Ramp Sglefrio i’r ifanc o’r diwedd!

Mae pobl ifanc ym Machynlleth yn dathlu dyfodiad y ramp sglefrio a beicio y buont yn dymuno’i gael ar dir Y Plas ers blynyddoedd.

Diolch i arian a etifeddwyd gan y cyn- bwyllgor Teenzone a Grant Adnewyddu Cymunedol gan PAVO, mae gan y bobl ifanc Machynlleth gyfleuster i fedru bod yn actif a mwynhau sglefrio a beicio mewn man diogel.

Ni allai’r beicwyr ifanc aros i fynd ar y ramp newydd gan ddweud y byddan’ nhw’n mwynhau ei ddefnyddio yn ystod y gwyliau ac ar ôl oriau ysgol y flwyddyn nesaf. “Dyma’r union beth roedden ni ei angen - llawer gwell na’r rampiau y buon ni’n ceisio’u hadeiladu”, meddai un beiciwr ifanc. “Alla i ddim aros i ddysgu tipyn o driciau newydd - mi fydd yn fy nghadw’n brysur trwy’r haf, llawer gwell na bod yn y tŷ!” meddai un arall sy’n defnyddio’r ramp newydd.

Meddai Cathy Evans, y gweithiwr ieuenctid, “Mae hwn yn newyddion gwych i bobol ifanc Machynlleth. Rŵan fe all y parc sglefrio gael ei ddefnyddio i’w bwrpas gwreiddiol, ac rwy’n gobeithio y bydd mwy a mwy yn gwneud defnydd da ohono yn y dyfodol.”

Cynlluniwyd y ramp ar ôl ymgynghori â phobl ifanc lleol, i sicrhau ei fod yn addas ar gyfer eu hanghenion a’u gallu. Dywedodd llawer ohonynt eu bod yn mwynhau reidio’u beiciau a’u bod wedi bod yn creu rampiau dros dro allan o ddarnau o bren mewn coed cyfagos. Mae’r ramp wedi creu cyfleuster mewn man mwy diogel, ymhell oddi wrth y prif lwybrau cerdded ond yn weladwy o’r prif lwybrau, ac mae wedi’i wneud (medde nhw!) allan o ddur a sinc na ellir ei ddistrywio.

Dywedodd y Cyng. Michael Williams, cynghorydd tref a sir (ac aelod o bwyllgor Mentro Allan) “Rydw i wrth fy modd efo’r gwaith ardderchog a wnaethpwyd gan brosiect Mentro Allan ac ecodyfi, ac eraill o’r un meddylfryd megis Cymunedau yn Gyntaf. Yn ôl yr hyn a glywais mae’r ieuenctid wrth eu bodd efo’r ramp, ac mae’n wych o beth gweld yr arwyddion newydd ar gyfer y llwybr 700 yno hefyd.

Ariannwyd y prosiect gan rodd o £2500 gan gyn-bwyllgor Teenzone ac arian o Gynllun Grant Adnewyddu Cymunedol. Roedd y grant ar gael trwy’r Cynllun Datblygu i Gymru 2007-13, a ariannir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Roedd peth arian o brosiect Mentro Allan hefyd, a gefnogir gan Gronfa’r Loteri Fawr. Cyflenwyd y ramp gan gwmni offer arbenigol Highline Extreme. Am fwy o wybodaeth am weithgareddau Mentro Allan, cysylltwch â Jo Cooper, Cydlynydd Mentro Allan yn ecodyfi os gwelwch yn dda, 01654 703965 neu mentro.allan@ecodyfi.org.uk

Bikers on day 1

Yn y llun mae beicwyr ifanc, lleol Jake Hinge, Jack Culley, George a Douglas Horne, Sean Davies a George a Harry Cottam, yn fuan ar ôl cwblhau’r ramp.



Nodiadau ar gyfer golygyddion:

Mentro Allan: info@mentroallan.co.uk

Casgliad o brosiectau yng Nghymru a gefnogir gan Gronfa’r Loteri Fawr a phartneriaeth genedlaethol yw Mentro Allan. Mae’r rhaglen yn targedu grwpiau penodol sydd yn llai actif yn gyffredinol na’r boblogaeth ehangach. Bydd pob un o’r prosiectau yn cael eu hariannu am bedair blynedd gyda’r bwriad o gynyddu lefel gweithgaredd corfforol y grŵp targed, gan wneud y defnydd gorau o’r amgylchedd naturiol lleol yn agos i’w cartrefi. Bydd y rhaglen yn casglu tystiolaeth ar effeithiolrwydd ymyrraeth benodol a gynllunnir i gynyddu lefelau o weithgaredd corfforol sydd o fudd i iechyd.

Mentro Allan Bro Ddyfi Venture Out: mentro.allan@ecodyfi.org.uk

Bydd rhaglen Mentro Allan Bro Ddyfi yn dod ag unigolion ynghyd yn Nyffryn Dyfi er mwyn cynyddu eu lefelau o weithgaredd corfforol, trwy ddefnyddio amrywiaeth o leoliadau yn yr amgylchedd naturiol. Ein prif grŵp targed yw’r boblogaeth eang sy’n cael eu hynysu o gefn gwlad ac yn byw bywydau eisteddog. Rydym yn bennaf bryderus ynghylch unigolion sy’n dioddef o eithriad cymdeithasol ac unigrwydd o ganlyniad i fynediad gwael i wasanaethau a phatrwm poblogaeth wasgarog, er y bydd y gweithgareddau yn agored i bawb.

Ein his- grwpiau targed yw: rhieni plant ieuainc, yn arbennig rhieni ieuainc; pobl ieuainc rhwng 11 a 18 oed, yn enwedig y rhai hynny sydd mewn perygl o ddioddef o eithriad cymdeithasol; pobl sy’n dioddef yn feddyliol, yn enwedig y rhai hynny sydd ddim mewn cysylltiad cyson â gwasanaethau a grwpiau cefnogi. Byddwn yn targedu trigolion ardaloedd Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair, ond bydd croeso i drigolion rhannau eraill o’r dyffryn i ymuno â’r gweithgareddau. Y corff arweiniol yw ecodyfi ac mae partneriaid eraill yn cynnwys: Gweithredu Cymunedol Machynlleth a’r Cylch; Coed Lleol; US Mach; Mudiad Ysgolion Meithrin Sir Drefaldwyn; Chwarae Sir Drefaldwyn; prosiect Anghyfiawnderau Mewn Iechyd NPHS; Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi; Cyngor Sir Powys; Tir Coed; Cychwyn Cadarn NCH; Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.

Ecodyfi info@ecodyfi.org.uk

Ecodyfi yw’r sefydliad adfywiad lleol yn Nyffryn Dyfi.

Brig y dudalen