ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Diwrnod Dathlu Mentro Allan yn llwyddiant enfawr

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

swyddfa ecodyfi
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release28/10/2010

Diwrnod Dathlu Mentro Allan yn llwyddiant enfawr

Mynychodd dros 250 o bobl Ddiwrnod Dathlu Mentro Allan yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi, Machynlleth, Ddydd Sadwrn, Hydref 23ain. Ariannwyd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn gan ecodyfi a Chymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, ac fe’i drefnwyd gan brosiect Mentro Allan (sy’n rhan o ecodyfi ac yn cael ei ariannu gan Gronfa’r Loteri Fawr).

Roedd yr achlysur yn cynnig diwrnod llawn hwyl i’r teulu cyfan gan gynnwys cinio iachus a llawer o weithgareddau a oedd yn cynnwys paentio wynebau, y Castell Gwynt hynod o boblogaidd, gwneud ‘smoothies’ ffrwythau, taith gerdded i grŵp, gwneud lluniau wedi’u sganio’n ddigidol, cynnal a chadw beic a beicio. Roedd yno weithgareddau wedi’u trefnu yng Ngerddi Bro Ddyfi yn Y Plas hefyd, gyda the a chacen wedi’i ddarparu gan wirfoddolwyr, a helfa drysor i’r plant.

Roedd cyfle hefyd i gael Prawf MOT Sylfaenol, ac i gyflwyno newyddion am fod yn actif ym Mro Ddyfi mewn ystafell ddyddiadur fideo wedi’i hadeiladu’n bwrpasol. Roedd gwybodaeth a chyngor i’w gael gan sefydliadau lleol CAMAD, Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc, ecodyfi a Chymunedau yn Gyntaf. Roedd Raffl am ddim a gwobrau yn rhoddedig gan siop feiciau Holey Trail, Cymunedau yn Gyntaf, Canolfan Hamdden Bro Ddyfi ac ecodyfi yn gymhelliad poblogaidd i roi cynnig ar y llu o weithgareddau a gafwyd yno.

“Roedd gweithgareddau Mentro Allan yn ffordd ardderchog i godi allan o’r tŷ a chwrdd pobl eraill yn yr un sefyllfa, yn feichiog neu gyda phlant ifainc”, meddai Tegwen Brickley, a fynychodd y digwyddiad gyda’i phartner, Allan, a Tomos, eu mab blwydd oed. “Roeddem o’r farn fod y Diwrnod Dathlu yn wirioneddol wych, a chafodd Tomos hwyl di-ben-draw ar y castell gwynt ac yn dilyn yr helfa drysor yng Ngerddi Bro Ddyfi.”

Meddai Jo Cooper, Cydlynydd Mentro Allan Bro Ddyfi, “Roedd yn fendigedig gweld cymaint o bobl yn mynychu’r Diwrnod Dathlu a rhoi cynnig ar yr holl weithgareddau oedd yno. Buaswn yn hoffi diolch o galon i Reolwr a staff Canolfan Hamdden Bro Ddyfi, yn ogystal â staff y Siop Goffi am eu holl gymorth i helpu i wneud y diwrnod yn un mor llwyddiannus. Diolch yn fawr hefyd i Gymunedau yn Gyntaf; ni fyddai’r digwyddiad wedi bod yn bosib heb eu cymorth.”

Dywedodd Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, “Mae’r Bartneriaeth wedi ymwneud â rhaglen Mentro Allan Bro Ddyfi o’r dechrau, ac yn falch iawn o fedru cefnogi digwyddiad cymunedol mor llwyddiannus.”

Er mwyn gwybod mwy am raglen Cymunedau yn Gyntaf yn lleol a sut mae’n anelu at ddarparu cyfleoedd i bobl leol chwarae rhan weithredol yn y broses o siapio dyfodol eu cymuned, galwch yn eu swyddfa yn Yr Hen Siop, Bryn y Gog, Machynlleth, neu ewch i’w gwefan http://commfirstpowys.org.uk/broddyfi/

Mae Mentro Allan yn brosiect pedair blynedd i alluogi pobl i fod yn actif yn yr awyr agored. Mae’r gweithgareddau a ddarparwyd yn ystod y tair blynedd a hanner diwethaf wedi cynnwys grwpiau cerdded a beicio, garddio ar gyfer oedolion a phlant, ysgolion coedwig, cerdded gyda bygis, picnics, dringo, yoga i famau beichiog a llawer mwy.

Mae gan Fentro Allan ddiddordeb i glywed oddi wrth unrhyw rai a gymrodd ran yn ein gweithgareddau yn ystod y tair blynedd a hanner diwethaf (a rhai sydd heb wneud hefyd), fyddai’n barod i gwrdd am sgwrs fach (un i un neu grŵp) yn ystod mis Rhagfyr (gyda phaned!) I gael gafael arnom neu rannu sylwadau ar eich profiad o Fentro Allan, ac ar gyfleoedd yn gyffredinol i fod yn actif yn yr awyr agored cysylltwch ag Anne Marie neu Jo ar 01654 703965 neu e-bostiwch mentro.allan@ecodyfi.org.uk.

Digital stories Julia Wilson with Alison Coleman

Julia Wilson yn creu ei stori ddigidol o’r diwrnod gan ddefnyddio eitemau a gasglodd ar dir Y Plas, ac yn cael ei chynorthwyo gan Alison Coleman.

Treasure Hunt in Garden

Helfa Drysor yng Ngardd Gymunedol Y Plas.



Nodiadau ar gyfer golygyddion:

Mentro Allan: info@mentroallan.co.uk

Casgliad o brosiectau yng Nghymru a gefnogir gan Gronfa’r Loteri Fawr a phartneriaeth genedlaethol yw Mentro Allan. Mae’r rhaglen yn targedu grwpiau penodol sydd yn llai actif yn gyffredinol na’r boblogaeth ehangach. Bydd pob un o’r prosiectau yn cael eu hariannu am bedair blynedd gyda’r bwriad o gynyddu lefel gweithgaredd corfforol y grŵp targed, gan wneud y defnydd gorau o’r amgylchedd naturiol lleol yn agos i’w cartrefi. Bydd y rhaglen yn casglu tystiolaeth ar effeithiolrwydd ymyrraeth benodol a gynllunnir i gynyddu lefelau o weithgaredd corfforol sydd o fudd i iechyd.

Mentro Allan Bro Ddyfi Venture Out: mentro.allan@ecodyfi.org.uk

Bydd rhaglen Mentro Allan Bro Ddyfi yn dod ag unigolion ynghyd yn Nyffryn Dyfi er mwyn cynyddu eu lefelau o weithgaredd corfforol, trwy ddefnyddio amrywiaeth o leoliadau yn yr amgylchedd naturiol. Ein prif grŵp targed yw’r boblogaeth eang sy’n cael eu hynysu o gefn gwlad ac yn byw bywydau eisteddog. Rydym yn bennaf bryderus ynghylch unigolion sy’n dioddef o eithriad cymdeithasol ac unigrwydd o ganlyniad i fynediad gwael i wasanaethau a phatrwm poblogaeth wasgarog, er y bydd y gweithgareddau yn agored i bawb.

Ein his- grwpiau targed yw: rhieni plant ieuainc, yn arbennig rhieni ieuainc; pobl ieuainc rhwng 11 a 18 oed, yn enwedig y rhai hynny sydd mewn perygl o ddioddef o eithriad cymdeithasol; pobl sy’n dioddef yn feddyliol, yn enwedig y rhai hynny sydd ddim mewn cysylltiad cyson â gwasanaethau a grwpiau cefnogi. Byddwn yn targedu trigolion ardaloedd Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair, ond bydd croeso i drigolion rhannau eraill o’r dyffryn i ymuno â’r gweithgareddau. Y corff arweiniol yw ecodyfi ac mae partneriaid eraill yn cynnwys: Gweithredu Cymunedol Machynlleth a’r Cylch; Coed Lleol; US Mach; Mudiad Ysgolion Meithrin Sir Drefaldwyn; Chwarae Sir Drefaldwyn; prosiect Anghyfiawnderau Mewn Iechyd NPHS; Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi; Cyngor Sir Powys; Tir Coed; Cychwyn Cadarn NCH; Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.

Ecodyfi info@ecodyfi.org.uk

Ecodyfi yw’r sefydliad adfywiad lleol yn Nyffryn Dyfi.

Brig y dudalen