ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Gwario Gwallgof ym Machynlleth!


english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release1/3/2004

Grant Ewropeaidd yn ariannu cyfundrefn arian cymunedol Machynlleth a gyflwynwyd gan Daear Elfennol.

Fel rhan o symudiad cynyddol sydd i hyrwyddo masnach leol ym Machynlleth, mae Daear Elfennol yn bwriadu cyflwyno cyfundrefn economaidd wahanol yn yr ardal a allasai fod o fudd i gymuned leol, prynwyr, busnesau a darparwyr gwasanaethau tref Machynlleth.

Cafodd Daear Elfennol arian o Gronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy gyfrwng grant SPIRIT, i gynnal astudiaeth dichonoldeb ar y cynllun ar ffurf ymchwil ac addysg.

"Mae cylchrediad arian cymunedol yn gyfyngedig i'r gymuned - mae wrth law ac ni wnaiff lifo ymaith o'r ardal yn wahanol i'r bunt. Drwy ei wario, byddwn yn cadw'r bunt yn ein poced.

"Mae pawb yn hoff o arian ddaw yn ôl i chi wrth i chi ei wario." Aelod o gymuned Dyffryn Comox, Canada sy'n defnyddio cyfundrefn arian cymunedol.

Bu Daear Elfennol yn cynnal gweithdai mewn ysgolion yn Nyffryn Dyfi a gyda grwpiau lleol yn ystod y mis yma.

Drwy chwarae gemau, addysgwyd plant ynglyn â phwysigrwydd masnach leol o fewn y gymuned.

"Ein nod yw dysgu'r pwnc i'r plant mewn modd chwareus, gan eu hannog i werthfawrogi'u cymuned leol, a rhoi syniad elfennol iddynt hefyd ynglyn â llif arian ac adnoddau lleol." Meddai Joyce Borgs, cydlynydd y cynllun.

Pan ofynnwyd barn un Brownie o Fachynlleth ar bwysigrwydd siopio'n lleol, meddai "mae siopio yn eich tref yn beth da, gan na fyddwch chi'n defnyddio'r car, sy'n ddrwg i fyd natur, ac mi gewch gwrdd â'ch holl ffrindiau hefyd!"

Bydd cyflwyniad a gweithdy rhyngweithiol gan Daear Elfennol ar Ebrill 6ed a 7fed am 7.30yh i drafod y cyfleoedd y gallasai cynllun arian cymunedol eu rhoi i fusnesau lleol.

Byddwn yn dangos sut y gall busnesau weithredu i gadw arian ac adnoddau yn y gymuned, ac yn annog pawb fydd yn cymryd rhan i astudio'r manteision y gallasai'r cynllun eu cynnig iddyn nhw a'r dref.

Mynegodd Ecodyfi, Partneriaeth Adfywio Cymunedol Bro Ddyfi, a'r ganolfan ecolegol leol, 'Y Ganolfan Dechnoleg Amgen' ill dau eu cefnogaeth lwyr i'r cynllun.

Esboniodd Andy Rowland, Trefnydd Ecodyfi, pam fod Ecodyfi yn awyddus i gymryd rhan: "Gallasai cynllun arian lleol roi hwb pwysig i'r economi lleol, drwy hyrwyddo siopio lleol, er enghraifft, ac yn ddelfrydol, gwerthiant nwyddau lleol.

Rydym yn ymwybodol, os ydym am roi hwb i'r economi a chreu a diogelu swyddi, bod rhaid i ni nid yn unig wario mwy o fewn yr economi leol, ond hefyd sicrhau fod yr arian yma'n parhau i gylchredeg yn lleol.

Yn ôl amcangyfrif y New Economics Foundation, gall pob punt sy'n cael ei gwario o fewn yr economi lleol fod yn gyfwerth â phum punt ond iddi aros o fewn yr economi lleol.

Carem weld cynllun arbrofol Daear Elfennol yn rhoi'r ddamcaniaeth yma ar brawf."

Os am ragor o wybodaeth am y cynllun cysylltwch â Joyce Borgs yn Daear Elfennol ar: 01654 - 700098.

Neu anfon ebost: joyce@elementalearth.fslife.co.uk

Brig y dudalen