ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Sbonc yn eu cam


english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release17/11/2006

Mae cymdeithasau lleol ym Mro Ddyfi yn dathlu'r wythnos hon, yn dilyn eu llwyddiant yn denu bron i £200,000 o'r Gronfa Loteri Fawr.

Bydd y grant yn cael ei wario yn ystod y pedair blynedd nesaf, drwy raglen o'r enw Mentro Allan.

Bwriad y rhaglen yw annog pobl leol i fynd allan a mwynhau'r awyr agored.

Disgwylir i'r rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau gynnwys ambell i helfa drysor ar droed neu ar feic, cyfeiriannu i'r teulu, teithiau bygis, a gwahanol weithgareddau yn y goedwig a garddio.

Bydd rhai gweithgareddau yn egniol ond bydd rhai eraill yn cael eu llunio ar gyfer pobl nad ydynt yn ymarfer fel rheol.

Mae'r rhaglen yn bwriadu cynyddu lefelau gweithgaredd drwy gynyddu defnydd hamdden o fyd natur.

Dewiswyd Bro Ddyfi fel un o'r 15 ardal yng Nghymru oherwydd mae'n ardal wledig iawn lle mae rhai pobl o dan anfantais, er enghraifft, gan mai ychydig o ddewis dulliau teithio sydd ganddynt.

Mae'r pwyllgor llywio a enillodd y grant yn cael ei arwain gan grwp adfywhau cymunedol ecodyfi.

Mae'n cynnwys Gweithredu Cymunedol Machynlleth a'r Fro (CAMAD) a Chymunedau yn Gyntaf.

Mae ymwelwyr iechyd, NCH Cychwyn Cadarn, Mudiad Ysgolion Meithrin, US Mach a Chwarae Sir Drefaldwyn yn cymryd rhan hefyd, fel y mae'r prosiect Anghyfartaleddau Iechyd, Cyngor Sir Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn arwain y bartneriaeth genedlaethol sy'n cefnogi'r datblygiad a threfnodd Fforwm Gymunedol Leol Machynlleth a'r Ardal y cyfarfodydd i lunio'r rhaglen.

Maen nhw i gyd yn meddwl fod gwneud pethau awyr agored yn ffordd wych o wella ein hiechyd meddwl yn ogystal â'n hiechyd corfforol a bod atal salwch yn llawer gwell (ac yn fwy o hwyl) na'i wella.

Maent yn pwyntio at lwyddiant cynllun Cerdded o Gwmpas Bro Ddyfi, ddaeth â phobl ynghyd am deithiau hamddenol, rheolaidd a chreu cyfeillgarwch yr un pryd.

Mae rhannau neilltuol o'r boblogaeth yn wynebu rhwystrau penodol i gymryd rhan, ar ben a thu hwnt i'r rhai a wynebir gan y mwyafrif o bobl.

Mae pwyllgor llywio Bro Ddyfi wedi penderfynu talu'r sylw mwyaf i rieni plant bach, pobl ifanc 11 - 18 oed a phobl gyda phroblemau iechyd meddwl.

Maent yn awyddus pwyntio allan, fodd bynnag, y byddai'r mwyafrif ohonom yn elwa o fwy o ymarfer ac y byddai croeso i bawb yn y gweithgareddau.

Mae'r pwyllgor llywio yn recriwtio staff yn barod.

"Hoffem gael roi cychwyn ar y ddau aelod staff cyflogedig yn y Flwyddyn Newydd", dywedodd rheolwr ecodyfi Andy Rowland, "er mwyn iddynt allu cynnig gweithgareddau o ddechrau'r Gwanwyn ymlaen."

"Bydd cyfle i bobl ddysgu sgiliau newydd a chyfarfod pobl drwy helpu i redeg gweithgareddau hefyd," meddai.

Gwybodaeth bellach

Nodiadau i Olygyddion

  • Y Gronfa Loteri Fawr yw enw gweithredol a ddefnyddir gan y Gronfa Cyfleoedd Newydd a Bwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol (a ddosbarthai grantiau o dan enw'r Gronfa Gymunedol) Mae'r Gronfa Loteri Fawr, a lansiwyd ar 1af Mehefin 2004, yn rhannu hanner holl arian achosion da'r Loteri Genedlaethol ar draws y DU.

  • Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn adeiladu ar brofiad ac arfer da'r cyrff cyfunol i symlhau ariannu yn y meysydd hynny lle maent yn gorgyffwrdd ac i sicrhau fod arian Loteri yn rhoi'r gwerth gorau bosibl am yr arian. Hyd yn hyn, mae'r ddwy Gronfa gyfunol wedi rhoi mwy na £6 biliwn i fentrau gyda phartneriaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol o'r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol, elusennol a phreifat, gyda ffocws neilltuol ar anfantais.

  • Ffurfiwyd partneriaeth genedlaethol ym Mawrth 2005 i arwain datblygiad a chyfeiriad rhaglen Mentro Allan. Mae gan y sefydliadau sy'n bartneriaid gyfrifoldeb dros Gymru gyfan a chyda'i gilydd mae ganddynt brofiad ac arbenigedd mewn datblygu gweithgareddau corfforol a chwaraeon ffurfiol ac anffurfiol, datblygiad cymunedol, iechyd y cyhoedd, rheoli cefn gwlad, ymchwil a gwerthuso.

Yr aelodau yw:

  • Cyngor Chwaraeon Cymru – y corff arweiniol

  • Cyngor Cefn Gwlad Cymru

  • Gwasanaeth Cenedlaethol Iechyd y Cyhoedd

  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Brig y dudalen