ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Cefnogi swyddi lleol yn Nyffryn Dyfi


english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Prosiectau:

swyddfa ecodyfi
Mentro Allan
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release20/03/2006

Mae cymunedau cefn gwlad Cymru wedi ymgyfarwyddo â gweld swyddi'n diflannu dan bwysau oddi wrth yr economi byd-eang.

Mae pobl yn Nyffryn Dyfi nawr yn ailedrych ar yr hanfodion er mwyn ceisio newid y patrwm.

Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi trefnu noson i fwrw golwg ar y grym sydd yn nwylo pob un ohonom i greu a chefnogi swyddi lleol.

Bydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Owain Glyndwr, Machynlleth nos Iau Mawrth 30ain am 7.

Bydd y sesiwn, a drefnwyd gan ecodyfi - y grwp adfywio cymunedol, yn cyflwyno nifer o dechnegau hwyliog a ddatblygwyd gan y Sefydliad Economeg Newydd.

Yn rhy aml o lawer, "pobl broffesiynol" neu "arbenigwyr" fydd yn dyfeisio strategaethau economaidd.

Anaml y maent yn byw yn yr ardal leol ac mae eu diddordeb yn fynych ynglyn â dehongli problemau yn hytrach na chanfod atebion.

Mae'r Sefydliad yn cynnig ffordd newydd o edrych ar ddatblygu economaidd lleol sy'n rhoi'r awenau yn ôl yn nwylo pobl leol.

Bydd yr hyfforddydd, Liz Bickerton, yn helpu'r rhai fydd yno i roi cynnig ar bethau megis y "fwced sy'n gollwng".

Ystyriwch mai bwced yw ein heconomi.

Bydd arian yn llifo i mewn iddi ac mae bwced lawn yn golygu bod digon o arian gan bobl leol i sicrhau ansawdd bywyd da.

Fodd bynnag, bwced sy'n gollwng ydi hi - bydd arian yn llifo allan ohoni.

Yn ogystal â denu mwy o arian (ar ffurf buddsoddiadau, cyllid o dwristiaeth ayb.), gallwn "lenwi'r tyllau" ynddi drwy brynu'n lleol, sicrhau gwerth ychwanegol i adnoddau lleol ac ati.

Er bod croeso i bobl edrych ar yr achlysur fel dim ond un digwyddiad "unigryw" diddorol, gobaith y trefnwyr yw y bydd rhai o'r bobl fydd yno am weithredu'r hyn a ddysgwyd drwy ganfod cyfleoedd ar gyfer mentrau lleol.

Dywedodd Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi, bod Cymunedau yn Gyntaf ac ecodyfi fel ei gilydd yn awyddus i weld gweithredu'n deillio o'r siarad: "Drwy weithredu ar y cyd gallwn newid y modd y mae arian yn llifo drwy'r economi lleol", meddai, "gan helpu busnesau lleol i ehangu a rhai newydd i ymsefydlu".

Rhagor o wybodaeth:

  • Yr addrodiad

  • Andy Rowland, ecodyfi Manager 01654 703965

  • Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi 01654 700315

  • www.neweconomics.org.

  • Plugging the Leaks - Making the most of every pound that enters your local economy Sefydliad Economeg Newydd 1899407529

  • The Money Trail Sefydliad Economeg Newydd. Gellir sicrhau'r ddau gyhoeddiad o Central Books ar 0845 458 9910 neu eu llwytho i lawr o www.pluggingtheleaks.org.

  • Mae nifer o offer a dulliau cysylltiedig, ynghyd â thanysgrifiad i e-Gylchlythyr, ar gael yn www.neweconomics.org/gen/tools_top.aspx

  • Sefydlwyd grwp trafod yahoo, ReAction, i ysgogi rhwydweithio a thrafodaeth ymysg tanysgrifwyr yr e-Gylchlythyr.

Brig y dudalen