ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Nid loteri yw iechyd da

english version

pont

Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Ty Bro Ddyfi,
52 Heol Maengwyn,
Machynlleth, Powys, SY20 8DT, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

24/04/2006 ecodyfi press release

Mae gweithwyr proffesiynol iechyd lleol a grwpiau cymunedol ym Mro Ddyfi'n holi pobl am y modd y byddent yn hoffi defnyddio'r amgylchedd naturiol lleol i gael tipyn o hwyl ac ymarfer corff.

Maent hefyd yn awyddus i wybod beth fyddai'n gwneud hyn yn haws.

Estynnwyd gwahoddiad i'r ardal i gyflwyno cynigiad i Gronfa'r Loteri Fawr, gan obeithio y bydd y loteri'n talu am raglen pedair-blynedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

Gall y rhain gynnwys helfeydd trysor ar droed neu ar feic, cyfeiriadu i'r teulu, gweithgareddau amrywiol mewn coedwigoedd a garddio.

Bydd rhai gweithgareddau'n rhai egnïol, ond bydd eraill wedi'u trefnu ar gyfer pobl nad ydynt yn ymarfer rhyw lawer erbyn hyn.

Enw'r rhaglen yw Mentro Allan, neu ‘Venture Out'.

Y nod yw cynyddu lefelau'r defnydd o amgylchedd naturiol Cymru ar gyfer gweithgareddau hamdden.

Dewiswyd Bro Ddyfi fel un o 15 ardal am ei bod yn ardal wledig iawn lle mae rhai pobl o dan anfantais, gydag ychydig iawn o ddewisiadau teithio er enghraifft.

Arweinir y bartneriaeth leol gan grwp adfywiad cymunedol ecodyfi sy'n cynnwys Gweithredu Cymunedol Machynlleth a'r Cylch a Chymunedau'n Gyntaf.

Mae Ymwelwyr Iechyd, Mudiad Ysgolion Meithrin, US Mach a Chwarae Maldwyn ynghlwm wrth y prosiect hefyd, fel y mae Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, Cyngor Sir Powys a Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys (PAVO).

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru'n arwain y bartneriaeth genedlaethol sy'n cefnogi'r datblygiad, ac mae Fforwm Cymunedol Lleol Machynlleth a'r Cylch wedi bod yn trefnu'r cyfarfodydd hyd yn hyn.

Maent i gyd yn argyhoeddedig fod gwneud pethau yn yr awyr agored yn ffordd wych o wella ein hiechyd meddyliol yn ogystal â'n hiechyd corfforol, a bod rhwystro iechyd gwael yn well o lawer (ac yn fwy o hwyl) na'i wella.

Maent yn cyfeirio at fenter Cerdded o Gwmpas Bro Ddyfi, sydd wedi dod â phobl at ei gilydd i gerdded yn gyson, ond heb fod yn rhy egnïol, a chreu cyfeillgarwch ar yr un pryd.

Mae adrannau arbennig o'r boblogaeth yn wynebu rhwystrau penodol i gymryd rhan sy'n llawer mwy na'r hyn sy'n wynebu'r rhan fwyaf o bobl.

Penderfynodd partneriaeth Bro Ddyfi dalu mwy o sylw i rieni plant bychain, ieuenctid 11-18 oed a phobl gyda phroblemau meddyliol.

Fodd bynnag, maent yn awyddus i nodi y byddai'r mwyafrif ohonom yn manteisio o fwy o ymarfer a bod croeso i bawb ymuno yn y gweithgareddau.

Mae'r partneriaid wedi llunio holiadur syml fel y gall pobl ddweud beth yr hoffent ei wneud.

Mae copïau ar gael o Lyfrgell Machynlleth, Swyddfa Cymunedau'n Gyntaf, Canolfan Hamdden Bro Ddyfi ac ar yma .

"Rydym angen gwybod beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth i bobl," meddai Andy Rowland, Cadeirydd y Fforwm Lleol.

"Mae'r pethau sy'n rhwystro unigolion rhag mynd allan allan yn amrywio o ofalu am blant i gludiant, ond gallant gynnwys y mater o hyder neu unigedd hefyd.

Rydym angen cael tystiolaeth o hyn rwan - yna gallwn gynllunio ffyrdd i oresgyn y rhwystrau hyn a chael yr arian i'w gweithredu.".

Byddem yn croesawu eich syniadau a'ch sylwadau unrhyw bryd, ond byddent o gymorth arbennig yn ystod y pythefnos nesaf.

Gellir gofyn am gopïau ar 01654 703965 hefyd.

Yn ogystal â hyn, byddai'r bartneriaeth yn falch o glywed oddi wrth unrhyw un fyddai'n hoffi trefnu ac arwain gweithgareddau addas o Wanwyn 2007 ymlaen.

Rhagor o wybodaeth

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965.