ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

Casgliadau o ddrws i ddrws yn cyrraedd Machynlleth

english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

ecodyfi press releaseIonawr 19, 2004

Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi y cyflwynir gwasanaeth wythnosol rhad ac am ddim i gasglu defnyddiau ailgylchu gan oddeutu 2,500 o gartrefi Machynlleth a rhai o'r ardaloedd cyfagos, i ddechrau ar Chwefror 2, 2004.

Bydd cartrefi ym Machynlleth, Carno, Glantwymyn, Cemaes, Comins Coch, Llanbrynmair, Penegoes, Bont Dolgadfan a Phenfforddlas yn derbyn y bagiau ailgylchu arbennig, ac fe ddylid eu rhoi allan i'w casglu ar y diwrnod a bennwyd ar gyfer casglu sbwriel.

Wedi eu casglu, caiff y papur, cardbord, tecstiliau, caniau, poteli plastig a ffilmiau eu cludo i "ganolfan adennill defnyddiau" yn Nhrewern ger y Trallwng i'w didoli'n fwy trylwyr a'u hanfon ymlaen i'w hailbrosesu.

Yn ôl y Cynghorydd Sir Barry Thomas, sydd â chyfrifoldeb am reoli gwastraff "Mae perfformiad Powys gyda'r gorau yng Nghymru a mwy na chwarter y gwastraff a waredwyd gan y Cyngor ers mis Ebrill wedi'i ailgylchu neu ei gompostio.

"Drwy ddod ag ailgylchu uniongyrchol i gartrefi cefn gwlad, ein gobaith yw gwella ar hyn. Dyma'r cam cyntaf o ddau i gynyddu ailgylchu yn yr ardal.

"A bydd Canolfan Ailgylchu newydd ym Machynlleth yn agor yn nes ymlaen eleni."

Bydd Tom O'Kane, Swyddog Lleihau Gwastraff ecodyfi, yn ymweld â phob un o ysgolion y cylch i esbonio sut y bydd y cynllun yn gweithio.

"Darparu casgliadau o ddrws i ddrws yw'r ffordd orau o sicrhau bod pobl yn ailgylchu, felly rwyf wrth fy modd bod y gwasanaeth i'w gyflwyno ym Machynlleth," meddai.

"Mae ailgylchu'n cael derbyniad brwd gan blant. Gobeithio y byddant yn trosglwyddo'r brwdfrydedd yma i'w rhieni ac yn eu hannog i ailgylchu mwy yn y cartref."

Bydd Colin McGregor, Swyddog Addysg Ailgylchu Cyngor Sir Powys, hefyd yn mynychu dau ddigwyddiad wythnos nesaf, i ddosbarthu rhagor o wybodaeth am y cynllun newydd.

Ef fydd siaradwr gwadd cyfarfod Panel Tenantiaid Machynlleth sydd i'w gynnal Bnawn Mawrth Ionawr 27ain am 3 o'r gloch yn Neuadd Ambiwlans Sant Ioan. Mae croeso yno i unrhyw un o denantiaid y Cyngor a thrigolion ystadau Cyngor.

Bydd Colin hefyd yn ymweld â Sioe Deithiol Ailddefnyddio Dodrefn Phoenix, lle y bydd nifer o gyrff cymdeithasol ac amgylcheddol yn bresennol, ac a drefnwyd ar gyfer pobl sy'n derbyn budd-daliadau ac sydd ag incwm cymdeithasol.

Fe'i cynhelir 11 y bore tan 2 ar Ddydd Mercher Ionawr 28ain yn y Canolfan Cymdeithasol yn Heol Maengwyn.

Manylion pellach gan ecodyfi yn Heol Maengwyn, Machynlleth neu drwy ffonio'r Swyddog Ailgylchu ar 0845 607 6060.

Os am ragor o wybodaeth cysylltwch â: John Evans, Rheolwr Cysylltiadau, ffôn 01597 826377.

Brig y dudalen