ecodyfi logo, valley and hills, link to home page

creu'ch swydd eich hunan!


english version

pont

Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion

Ydych chi yn..?

golau
Berson lleol
Ymwelydd
Gwmni
Awyddus i wybod am ecodyfi

Gwaith:

ecodyfi office
Tirwedd Dyfi
Tir Cymunedol
Mentro Allan
Ôl Troed Dyfi
Trafnidiaeth
Twristiaeth
Ynni
Gwastraff
Masnach Deg
Biosffer Dyfi Biosphere
Cymunedau yn Gyntaf
Dysgu Gydol Oes

Manylion cysylltu

Eco Parc Dyfi

Y Plas,
Machynlleth, Powys, SY20 8ER, DU.
ffôn: 01654 703965
ebost: info@ecodyfi.org.uk

Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau.

Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!

[Ein lleoliad - map mwy]

press release8/4/2004

Oes diddordeb gyda chi helpu creu'ch swydd eich hunan?

Os oes, ymunwch â ni am bwffe yn y Celtica ar nos Fercher 21ain o Ebrill! Bydd bwyd ar gael am 6.30 yr hwyr. Am 7 o'r gloch mi fydd siaradwyr gwadd yn rhoi cyflwyniadau byr am nifer o agweddau o ddechrau busnes, sefydlu cwmniau cyd-weithredol, hyfforddiant ac yn sôn yn gyffredinol am y cymorth sydd ar gael. Fydd digon o gyfle wedyn i ymweld â stondinau a chael siarad efo - r staff priodol. Mi fydd Christine Anderson, Llanbrynmair yn rhannu ei phrofiadu o ddechrau ei busnes ffasiwn ei hun.

Gall y syniad o ddechrau busnes fod yn un brawychus i rai, ond does dim rhaid iddo fod. Mae opsiynau eraill ar gael megis sefydlu partneriaeth neu gwmni cyd-weithredol (co-operative).

Ecodyfi yw corff annibynnol adfywio Dyffryn Dyfi. Yn ogystal a Chanolfan Byd Gwaith, ein partneriaid eraill ar y noson fydd:

Menter a Busnes - cymorth cyn dechrau busnes yn arbennig ar gyfer siaradwyr Cymraeg drwy raglen Potentia.

Gyrfa Cymru - cyngor a gwybodaeth am hyfforddiant a dewis gyrfa

Llygad Busnes - gwybodaeth a chefnogaeth am ddim i helpu busnesau newydd a rhai sydd wedi sefydlu yn barod.

Awdurdod Datblygu Cymru - cyngor busnes a chwmniau cyd-weithredol

Fforwm Economi Cymdeithasol Powys - esiamplau o fentrau eraill.

Mae yn bwysig eich bod yn gadael i ni wybod os yr ydych am fynychu gan bod llefydd yn brin. Gallwch ysgrifennu ataf (mae - r cyfeiriad uchod) neu gadael neges ar y peiriant ateb. Edrychaf ymlaen cael clywed gennych yn y dyfodol agos.

Yn gywir
Andy Rowland, Rheolwr.

Brig y dudalen