Buddsoddi ym Mro Ddyfi |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mae arweinwyr cymunedol yn dod ynghyd i benderfynu'r prif flaenoriaethau buddsoddi ar gyfer Bro Ddyfi ac maent am agor y drysau i'r trigolion lleol sydd eisiau bod yn bresennol.Mae Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, sydd hefyd yn gweithredu fel y grwp craidd ar gyfer Fforwm Lleol Machynlleth a'r Cylch (FfLl) wedi gwahodd cynghorwyr tref a chymuned i gyfarfod yng Nghlwb Bowlio Machynlleth ar y 9fed o Dachwedd 2006, yn dechrau am 7.00pm. Bydd siaradwyr yn egluro'r nifer o fentrau partneriaeth sydd yn ardal Bro Ddyfi, yn cynnwys Cynllun Gweithredu Lleol Cymunedau yn Gyntaf / Fforwm Lleol Machynlleth a'r Cylch a'r Cynllun Adfywhau drafft. Mae'r rhain yn dwyn ynghyd llawer o bynciau a chynigion a godwyd gan bobl leol yn ystod cyfnod hir o ymgynghori. Mae rhai o'r camau gweithredu arfaethedig wedi cael eu hysgwyddo gan sefydliadau lleol fel ecodyfi, mae rhai yn cael eu dilyn gan gyrff fel Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru ac mae angen brwydro am rai eraill. Yn awr mae'r gymuned leol yn cael ei herio i nodi pa 5 neu 6 cynnig sydd bwysicaf i'w dyfodol. Bydd y rhain yn cael eu bwydo i mewn i bolisi setliadau Cynllun Gofodol Cymru ac yn cael eu defnyddio i arwain buddsoddiad mewnol ac o'r Gymuned Ewropeaidd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'i gyrff noddedig. Eglurodd Cadeirydd y Fforwm Lleol bwysigrwydd hyn. "Gwn yn iawn fod pobl yn 'laru clywed am strategaethau a chynlluniau, ond bydd rhai ohonynt yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n bywydau", meddai. "Penodwyd ymgynghorwyr gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i benderfynu nodweddion pob Setliad Allweddol ac i argymell pa fuddsoddiadau a fyddent yn caniatâu iddynt ffynnu. Mae sefydliadau ym Mro Ddyfi eisiau dweud wrth yr ymgynghorwyr beth mae'r gymuned ei angen, er mwyn iddynt allu cael y darn gwaith pwysig hwn yn gywir." Er mai milltir sgwâr arferol y trefnwyr yw rhan Powys o Fro Ddyfi, yn cynnwys Llanbrynmair a Chwmllinau, maent yn gwahodd cynghorwyr cymunedol o Ddinas Mawddwy, Corris a Phennal yn ogystal, ac o Geredigion, cyn belled i'r de â Thaliesin. Y rheswm am hynny yw bod yr holl bentrefi hyn yn gysylltiedig â Machynlleth ac oherwydd bod llawer o bynciau yn anwybyddu ffiniau siroedd. Dywedodd Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, Cyril Evans, bod croeso cynnes i unigolion a busnesau gymryd rhan ac y byddai lluniaeth ysgafn ar gael. "Mae ein cynllun gweithredu, a elwir yn Rhoi Bro Ddyfi'n Gyntaf, yn nodi'r economi, tai fforddiadwy a chludiant fel y pynciau pwysicaf". "Ar y llaw arall, mae dyfodol yr Ysgol Uwchradd, yr ysbyty a'r amgylchedd yn hollbwysig hefyd. Yn ogystal â bygythiadau potensial i'n lles, pa rôl a chyfleoedd a welwn ar gyfer ein hardal yn y dyfodol?" Gwybodaeth bellachCyril Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi 01654 700315 Andy Rowland, Cadeirydd Fforwm Lleol Machynlleth a'r Cylch 01654 703965 Vanessa Garwood, Cyngor Sir Powys 01597 827483 Nodiadau i olygyddion:Mae Cymunedau yn Gyntaf yn fenter flaengar gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi'i hamcanu at gynnwys pobl yn y broses o wella ansawdd eu bywyd mewn rhannau dewisol o Gymru. Mae partneriaeth Bro Ddyfi yn cynnwys ardaloedd cynghorau cymuned Machynlleth, Cadfarch, Llanbrynmair a Glantwymyn. Mae Fforwm Lleol Machynlleth a'r Cylch yn gweithio ochr yn ochr â Phartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi i ddatblygu Cynllun Gweithredu Bro Ddyfi. Mae hwn yn crynhoi yr hyn y mae'r gymuned yn ei ystyried yn bwysig ar gyfer y dyfodol ac yn cysylltu pobl leol â'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu adnoddau a gwasanaethau. Sefydlwyd y Fforwm fel rhan o broses Strategaeth Gymunedol Powys ac mae'n cael ei weinyddu gan grwp adfywhau ecodyfi. Y Cadeirydd etholedig yw Andy Rowland. Mae Cynllun Adfywhau Bro Ddyfi yn dod ag asiantaethau a chynrychiolwyr y gymuned sy'n ymwneud yn bennaf ag adfywiad economaidd at ei gilydd. Arweinir hyn gan Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyda chymorth ecodyfi a llawer o bartneriaid eraill ym Mhowys, Ceredigion a Gwynedd. Bwriad Cynllun Gofodol Cymru yw dangos sut bydd holl bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael eu gweithredu ar lefel leol. Mae'n nodi nifer o setliadau allweddol, pob un gyda'i ardaloedd cefn gwlad rhyng-ddibynnol. Mae Machynlleth yn cael ei nodi fel un sydd o "bwys lleol". |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||