Ffermwyr am dyfu llysiau? |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
Mae ecodyfi wedi ymuno â Chyswllt Ffermio i helpu ffermwyr yn Nyffryn Dyfi sydd â diddordeb mewn garddwriaeth.Trefnwyd cyfarfod ar y cyd, sydd i'w gynnal ar Chwefror 24ain, i roi cyfle i ffermwyr wrando ar dyfwr masnachol ac ymchwilio sut i fynd ati. Mae Ian Sumpter yn ffermio 40 cyfer yn Rhydlewis, Ceredigion, yn cynnwys tua 6 chyfer o lysiau. Bydd yn trafod ei brofiadau gyda garddwriaeth, yr anawsterau ddaeth i'w ran a sut y bydd yn gwerthu'i gynnyrch. Bydd cefnogaeth bosib gan IGER, Sefydliad y Gwyddorau Gwledig, a gan Awdurdod Datblygu Cymru hefyd yn cael ei amlinellu yn y cyfarfod. Mae'r trefnwyr wedi gweld cyfle i ffermwyr arallgyfeirio. Efallai y bydd y cynnyrch yn cynnwys coed a stoc meithrinfa yn ogystal â ffrwythau a llysiau. Y gobaith yw y gellir cyflenwi ysgolion lleol a bwytai yn ogystal â phrynwyr lleol. Ac y mae cystadlu o fewn marchnadoedd mwy eang hefyd yn cael ei ystyried. Mae'r angen am hyfforddiant ac offer yn rhai o'r rhwystrau sydd i'w goresgyn. Hwyrach mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â hyn yw drwy sefydlu grwp o dirfeddianwyr a thyfwyr brwdfrydig. Efallai y byddai'r grwp hefyd yn cynnwys rhai fyddai'n hoffi tyfu cynnyrch, ond nad oes ganddynt eto dir at eu defnydd. Mae trefnwyr y cyfarfod, sydd i'w gynnal yn y Llew Gwyn ym Machynlleth am 7.30, yn gobeithio y gwnaiff amryw o ffermwyr lleol ddatblygu lleiniau llysiau yr haf yma fel arbrawf. Y bwriad yw gofyn am gyngor gan Ganolfan Ddatblygu newydd sy'n cael ei sefydlu o dan Gyswllt Ffermio, a bydd unrhyw wersi a ddysgir o'r profiad yn cyfrannu at gais am nawdd ar gyfer y tymor canlynol fydd yn cael ei gyflwyno i Awdurdod Datblygu Cymru. Mae Charles Arch, un o aelodau Bwrdd ecodyfi, yn credu nad yr hinsawdd a'r pridd sy'n gosod cyfyngiadau yn y rhan fwyaf o achosion. "Byddai pob fferm yn tyfu llysiau ar gyfer y cartref", meddai. "Yn sgîl y galw cynyddol sydd ymysg ardalwyr ac ymwelwyr am gynnyrch y gallant fod yn sicr iddo gael ei dyfu'n lleol mewn amgylchedd iach, mae hi'n amser da i ganfod sut y gallwn oll elwa ar hyn." Rhagor o wybodaeth: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||