Ewch ati i Dyfu yn mynd yn Wyllt - yn Ynyslas and Pantperthog |
|
|
Cartref | Map safle | Dyffryn Dyfi | Map | Ymaelodi | Rhestr termau | Cysylltau defnyddiol | Cysylltwch â ni | Dweud eich dweud | Chwilio'r wefan | Digwyddiadau | Newyddion |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymaelodwch ag ecodyfi drwy! Rydym am i bawb yn y fro ymuno, ac nid yw ond yn costio punt! Galwch draw i Ty Bro Ddyfi neu anfon ychydig stampiau. Mae'r ganolfan wybodaeth ar agor ddydd Llun tan ddydd Gwener, 10 y bore tan 3. Efallai y byddwch hyd yn oed am ein helpu i'w staffio neu drefnu prosiect. Da chi dewch draw i'n gweld ni!
|
![]() ![]() Y flwyddyn hon mae cwrs poblogaidd Bro Ddyfi “Ewch ati i Dyfu” yn ehangu.Bydd aelodau’r cwrs yn dysgu sgiliau garddio bywyd gwyllt yn ogystal â thyfu llysiau organig - ac i gyd yn rhad ac am ddim! Newid arall fydd ei bod yn bosib gwneud hyn mewn dau safle gwahanol: un yn Ynyslas ac un arall ym Mhantperthog. Bydd cwrs 10 wythnos garddio ymarferol “Ewch ati i Dyfu” yn dysgu’r myfyrwyr sut i annog bywyd gwyllt a chreu cynefinoedd addas i chwilod, anifeiliaid ac adar yn ogystal â holl agweddau paratoi’r tir, tyfu’r cnydau o hadau, tyfu cymysg a rheoli plâu. Bydd aelodau’r cwrs yn tyfu amrywiaeth o gnydau, o datws i fresych, o india corn i domatos. Ym mis Medi byddant yn cynaeafu’u cnydau a mynd â nhw adre i’w bwyta. Hwyrach y bydd pobl eraill yn dymuno dilyn y cwrs ar y rhyngrwyd neu drwy’r post, gan gyflawni’r gweithgareddau wythnosol yn eu gerddi’u hunain (gweler weekly activities). Y tîm hyfforddi yw Leigh Munton, sydd â chymwysterau mewn garddwriaeth therapiwtig, a Kate Doubleday, sy’n arbenigo mewn cynllunio gerddi cymunedol. Trefnir y cyrsiau gan Imogen Pettitt o gwmni adfywio cymunedol ecodyfi, fel rhan o brosiect Mentro Allan Bro Ddyfi. Prosiect ymchwil iechyd yw Mentro Allan sy’n anelu at gael pobl allan ac yn actif, a darganfod beth sy’n eu rhwystro. Llwyddodd cyrsiau blaenorol “Ewch ati i Dyfu” i annog yr aelodau i dyfu a bwyta’u llysiau eu hunain, a’u helpu i deimlo’n fwy positif ac i ddatblygu’u dealltwriaeth o’r byd naturiol. Dywedodd Imogen, “Yn ogystal â dysgu llawer, mae grwpiau o flynyddoedd blaenorol wedi dod, ac wedi aros yn ffrindiau. “Mae gweithio yn yr awyr agored yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd.” Bydd sesiynau ar lefel dechreuwr yn gyfan gwbl - a does dim angen i neb ohirio ymuno am nad ydynt wedi gwneud unrhyw ymarfer corff ers amser. “Mae’r gweithgareddau’n agored i bawb ym Mro Ddyfi” eglurodd Imogen. “Fodd bynnag, rydyn ni’n awyddus iawn i gwrdd rhieni plant ifainc, pobl ifainc ac unrhyw un sy’n teimlo’n isel neu’n unig. “Bydd croeso arbennig i bobl o Fachynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair.” Cynhelir y cwrs rhwng 10.30yb a 3yp bob Dydd Mawrth, yn dechrau ar Fawrth 18 yn Ynyslas ac ar Fawrth 25 i’r rhai sy’n byw yn nes i Fachynlleth. Mae cyfyngiad ar leoedd, felly dylai unrhyw un sydd am ddechrau tyfu yn Ynyslas neu ym Mhantperthog gysylltu ag Imogen yn fuan iawn i gadw lle, trwy ffonio Imogen ar 01654 703965 neu ar e-bost mentro.allan@ecodyfi.org.uk neu trwy alw yn swyddfa ecodyfi yn Nhg Bro Ddyfi, Machynlleth (gyferbyn â Chaffi Maengwyn). Gwybodaeth Bellach:Mae Mentro Allan yn gasgliad o brosiectau yng Nghymru a gefnogir gan Gronfa’r Loteri Fawr a phartneriaeth genedlaethol. Mae’r rhaglen yn targedu grwpiau penodol sydd, ar y cyfan, yn llai actif na’r boblogaeth ehangach. Bydd pob un o’r prosiectau yn cael eu hariannu am bedair blynedd i gynyddu lefel gweithgaredd corfforol ei grŵp targed, gan wneud y defnydd gorau o’r amgylchedd awyr agored naturiol lleol sy’n agos i’w cartrefi. Bydd y rhaglen yn casglu tystiolaeth o effeithiolrwydd yr ymyrraeth benodol a gynlluniwyd i gynyddu’r lefel o weithgaredd corfforol sydd o fudd i iechyd y bobl dan sylw. Bydd rhaglen Mentro Allan Bro Ddyfi yn annog unigolion yn Nyffryn Dyfi i gynyddu eu lefel o weithgaredd corfforol, trwy ddefnyddio lleoliadau amrywiol yn yr amgylchedd awyr agored naturiol. Ein prif grŵp targed yw’r boblogaeth eang sy’n dioddef o eithrio gwledig ac yn treulio llawer o’u bywydau ar eu heistedd. Rydym yn pryderu fwyaf am yr unigolion hynny sy’n dioddef o unigrwydd ac eithrio cymdeithasol o ganlyniad i anhwylustod i gyrraedd at wasanaethau a phatrwm poblogaeth wasgaredig, er y bydd y gweithgareddau ar gael i’r trigolion i gyd. Ein grwpiau targed nesaf yw: rhieni plant ieuainc, yn enwedig rhieni ieuainc; pobl ieuainc 11-18 oed, yn enwedig y rhai hynny sydd mewn peryg o ddioddef o eithrio cymdeithasol; pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig y rhai hynny sydd heb gysylltiad cyson â grwpiau cefnogi a gwasanaethau. Byddwn yn targedu trigolion ardaloedd Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair, ond bydd croeso yn ogystal i drigolion rhannau eraill o’r dyffryn i ymuno â ni. Ecodyfi yw’r corff arweiniol ac mae partneriaid eraill yn cynnwys: Gweithredu Cymunedol Machynlleth a’r Cylch; Coed Lleol; US Mach; Mudiad Ysgolion Meithrin, Sir Trefaldwyn; Chwarae Sir Drefaldwyn; Prosiect Anghydraddoldebau mewn Iechyd NPHS; Cymunedau’n Gyntaf Bro Ddyfi; Cyngor Sir Powys; Tir Coed; Cychwyn Cadarn NCH; PAVO.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||